Hosea 2:14-20
Hosea 2:14-20 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Felly, dw i’n mynd i’w denu hi yn ôl ata i. Dw i’n mynd i’w harwain hi yn ôl i’r anialwch a siarad yn rhamantus gyda hi eto. Wedyn, dw i’n mynd i roi ei gwinllannoedd iddi, a throi Dyffryn y Drychineb yn Giât Gobaith Bydd hi’n canu fel pan oedd hi’n ifanc, pan ddaeth hi allan o wlad yr Aifft. Bryd hynny,” meddai’r ARGLWYDD, “byddi’n galw fi, ‘fy ngŵr’; fyddi di byth eto’n fy ngalw i, ‘fy meistr’. Bydda i’n gwneud i ti anghofio enwau’r delwau o Baal; fyddi di ddim yn eu defnyddio byth eto. Bryd hynny, bydda i’n gwneud ymrwymiad gyda’r anifeiliaid gwyllt, yr adar, a’r holl bryfed ar y ddaear Bydda i’n cael gwared ag arfau rhyfel – y bwa saeth a’r cleddyf; A bydd fy mhobl yn byw’n saff a dibryder. Bydda i’n dy gymryd di’n wraig i mi am byth. Bydda i’n dy drin di’n deg, yn gyfiawn, ac yn dangos cariad a charedigrwydd atat. Bydda i’n ffyddlon i ti bob amser, a byddi di’n fy nabod i, yr ARGLWYDD.
Hosea 2:14-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Am hynny, wele, fe'i denaf; af â hi i'r anialwch, a siarad yn dyner wrthi. Rhof iddi yno ei gwinllannoedd, a bydd dyffryn Achor yn ddrws gobaith. Yno fe ymetyb hi fel yn nyddiau ei hieuenctid, fel yn y dydd y daeth i fyny o wlad yr Aifft.” “ ‘Yn y dydd hwnnw,’ medd yr ARGLWYDD, gelwi fi ‘Fy ngŵr’, ac ni'm gelwi mwyach ‘Fy Baal’; symudaf ymaith enwau'r Baalim o'i genau, ac ni chofir hwy mwy wrth eu henwau. Yn y dydd hwnnw gwnaf i ti gyfamod â'r anifeiliaid gwylltion, ac adar yr awyr ac ymlusgiaid y ddaear; symudaf o'r tir y bwa, y cleddyf, a rhyfel, a gwnaf i ti orffwyso mewn diogelwch. Fe'th ddyweddïaf â mi fy hun dros byth; fe'th ddyweddïaf â mi mewn cyfiawnder a barn, mewn cariad a thrugaredd. Fe'th ddyweddïaf â mi mewn ffyddlondeb, a byddi'n adnabod yr ARGLWYDD.”
Hosea 2:14-20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Am hynny wele, mi a’i denaf hi, ac a’i dygaf i’r anialwch, ac a ddywedaf wrth fodd ei chalon. A mi a roddaf iddi ei gwinllannoedd o’r fan honno, a dyffryn Achor yn ddrws gobaith; ac yno y cân hi, fel yn nyddiau ei hieuenctid, ac megis yn y dydd y daeth hi i fyny o wlad yr Aifft. Y dydd hwnnw, medd yr ARGLWYDD, y’m gelwi Issi, ac ni’m gelwi mwyach Baali. Canys bwriaf enwau Baalim allan o’i genau hi, ac nis coffeir hwy mwyach wrth eu henwau. A’r dydd hwnnw y gwnaf amod drostynt ag anifeiliaid y maes, ac ag ehediaid y nefoedd, ac ag ymlusgiaid y ddaear; a’r bwa, a’r cleddyf, a’r rhyfel, a dorraf ymaith o’r ddaear, a gwnaf iddynt orwedd yn ddiogel. A mi a’th ddyweddïaf â mi fy hun yn dragywydd; ie, dyweddïaf di â mi fy hun mewn cyfiawnder, ac mewn barn, ac mewn tiriondeb, ac mewn trugareddau. A dyweddïaf di â mi mewn ffyddlondeb; a thi a adnabyddi yr ARGLWYDD.