“Felly, dw i’n mynd i’w denu hi yn ôl ata i. Dw i’n mynd i’w harwain hi yn ôl i’r anialwch a siarad yn rhamantus gyda hi eto. Wedyn, dw i’n mynd i roi ei gwinllannoedd iddi, a throi Dyffryn y Drychineb yn Giât Gobaith Bydd hi’n canu fel pan oedd hi’n ifanc, pan ddaeth hi allan o wlad yr Aifft. Bryd hynny,” meddai’r ARGLWYDD, “byddi’n galw fi, ‘fy ngŵr’; fyddi di byth eto’n fy ngalw i, ‘fy meistr’. Bydda i’n gwneud i ti anghofio enwau’r delwau o Baal; fyddi di ddim yn eu defnyddio byth eto. Bryd hynny, bydda i’n gwneud ymrwymiad gyda’r anifeiliaid gwyllt, yr adar, a’r holl bryfed ar y ddaear Bydda i’n cael gwared ag arfau rhyfel – y bwa saeth a’r cleddyf; A bydd fy mhobl yn byw’n saff a dibryder. Bydda i’n dy gymryd di’n wraig i mi am byth. Bydda i’n dy drin di’n deg, yn gyfiawn, ac yn dangos cariad a charedigrwydd atat. Bydda i’n ffyddlon i ti bob amser, a byddi di’n fy nabod i, yr ARGLWYDD.
Darllen Hosea 2
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Hosea 2:14-20
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos