Am hynny wele, mi a’i denaf hi, ac a’i dygaf i’r anialwch, ac a ddywedaf wrth fodd ei chalon. A mi a roddaf iddi ei gwinllannoedd o’r fan honno, a dyffryn Achor yn ddrws gobaith; ac yno y cân hi, fel yn nyddiau ei hieuenctid, ac megis yn y dydd y daeth hi i fyny o wlad yr Aifft. Y dydd hwnnw, medd yr ARGLWYDD, y’m gelwi Issi, ac ni’m gelwi mwyach Baali. Canys bwriaf enwau Baalim allan o’i genau hi, ac nis coffeir hwy mwyach wrth eu henwau. A’r dydd hwnnw y gwnaf amod drostynt ag anifeiliaid y maes, ac ag ehediaid y nefoedd, ac ag ymlusgiaid y ddaear; a’r bwa, a’r cleddyf, a’r rhyfel, a dorraf ymaith o’r ddaear, a gwnaf iddynt orwedd yn ddiogel. A mi a’th ddyweddïaf â mi fy hun yn dragywydd; ie, dyweddïaf di â mi fy hun mewn cyfiawnder, ac mewn barn, ac mewn tiriondeb, ac mewn trugareddau. A dyweddïaf di â mi mewn ffyddlondeb; a thi a adnabyddi yr ARGLWYDD.
Darllen Hosea 2
Gwranda ar Hosea 2
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Hosea 2:14-20
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos