Hebreaid 1:4-14
Hebreaid 1:4-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
wedi dyfod gymaint yn uwch na'r angylion ag y mae'r enw a etifeddodd yn rhagorach na'r eiddynt hwy. Oherwydd wrth bwy o'r angylion y dywedodd Duw erioed: “Fy Mab wyt ti, myfi a'th genhedlodd di heddiw”? Ac eto: “Byddaf fi yn dad iddo ef, a bydd yntau yn fab i mi.” A thrachefn, pan yw'n dod â'i gyntafanedig i mewn i'r byd, y mae'n dweud: “A bydded i holl angylion Duw ei addoli.” Am yr angylion y mae'n dweud: “Yr hwn sy'n gwneud ei angylion yn wyntoedd, a'i weinidogion yn fflam dân”; ond am y Mab: “Y mae dy orsedd di, O Dduw, yn dragwyddol, a gwialen dy deyrnas di yw gwialen uniondeb. Ceraist gyfiawnder a chasáu anghyfraith. Am hynny, O Dduw, y mae dy Dduw di wedi dy eneinio ag olew gorfoledd, uwchlaw dy gymheiriaid.” Y mae hefyd yn dweud: “Ti, yn y dechrau, Arglwydd, a osodaist sylfeini'r ddaear, a gwaith dy ddwylo di yw'r nefoedd. Fe ddarfyddant hwy, ond yr wyt ti'n aros; ânt hwy i gyd yn hen fel dilledyn; plygi hwy fel plygu mantell, a newidir hwy fel newid dilledyn; ond tydi, yr un ydwyt, ac ar dy flynyddoedd ni bydd diwedd.” Wrth bwy o'r angylion y dywedodd ef erioed: “Eistedd ar fy neheulaw nes imi osod dy elynion yn droedfainc i'th draed”? Onid ysbrydion gwasanaethgar ydynt oll, yn cael eu hanfon i weini, er mwyn y rhai sydd i etifeddu iachawdwriaeth?
Hebreaid 1:4-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd wedi’i wneud yn bwysicach na’r angylion. Roedd y teitl roddodd Duw iddo yn dangos ei fod yn bwysicach na nhw. Wnaeth Duw ddweud hyn wrth angel erioed: “Ti ydy fy Mab i; heddiw des i’n dad i ti” ? Neu hyn: “Bydda i’n dad iddo fe, A bydd e’n fab i mi” ? Ac wrth i Dduw ddod â’i fab hynaf yn ôl i’r byd nefol i’w anrhydeddu, mae’n dweud: “Addolwch e, holl angylion Duw!” Pan mae Duw’n sôn am angylion mae’n eu disgrifio fel: “negeswyr sydd fel gwyntoedd, a gweision sydd fel fflamau o dân.” Ond am y Mab mae Duw’n dweud hyn: “Byddi di, O Dduw, yn frenin ar yr orsedd am byth, a byddi’n teyrnasu mewn ffordd gyfiawn. Ti’n caru beth sy’n iawn ac yn casáu drygioni; felly mae Duw, ie dy Dduw di, wedi dy eneinio di, a thywallt olew llawenydd arnat ti yn fwy na neb arall.” A hefyd, “O Arglwydd, ti osododd y ddaear yn ei lle ar y dechrau cyntaf, a gwaith dy ddwylo di ydy popeth yn yr awyr. Byddan nhw’n darfod, ond rwyt ti’n aros; byddan nhw’n mynd yn hen fel dillad wedi’u gwisgo. Byddi’n eu rholio i fyny fel hen glogyn; byddi’n eu newid nhw fel rhywun yn newid dillad. Ond rwyt ti yn aros am byth – dwyt ti byth yn mynd yn hen.” Wnaeth Duw ddweud hyn wrth angel erioed?: “Eistedd yma yn y sedd anrhydedd nes i mi wneud i dy elynion blygu fel stôl i ti orffwys dy draed arni.” Dim ond gweision ydy’r angylion. Ysbrydion wedi’u hanfon i wasanaethu’r rhai fydd yn cael eu hachub!
Hebreaid 1:4-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Wedi ei wneuthur o hynny yn well na’r angylion, o gymaint ag yr etifeddodd efe enw mwy rhagorol na hwynt-hwy. Canys wrth bwy o’r angylion y dywedodd efe un amser, Fy mab ydwyt ti; myfi heddiw a’th genhedlais di? A thrachefn, Myfi a fyddaf iddo ef yn Dad, ac efe a fydd i mi yn Fab? A thrachefn, pan yw yn dwyn y Cyntaf-anedig i’r byd, y mae yn dywedyd, Ac addoled holl angylion Duw ef. Ac am yr angylion y mae yn dywedyd, Yr hwn sydd yn gwneuthur ei angylion yn ysbrydion, a’i weinidogion yn fflam dân. Ond wrth y Mab, Dy orseddfainc di, O Dduw, sydd yn oes oesoedd: teyrnwialen uniondeb yw teyrnwialen dy deyrnas di. Ti a geraist gyfiawnder, ac a gaseaist anwiredd: am hynny y’th eneiniodd Duw, sef dy Dduw di, ag olew gorfoledd tu hwnt i’th gyfeillion. Ac, Tydi yn y dechreuad, Arglwydd, a sylfaenaist y ddaear; a gwaith dy ddwylo di yw y nefoedd: Hwynt-hwy a ddarfyddant; ond tydi sydd yn parhau; a hwynt-hwy oll fel dilledyn a heneiddiant; Ac megis gwisg y plygi di hwynt, a hwy a newidir: ond tydi yr un ydwyt, a’th flynyddoedd ni phallant. Ond wrth ba un o’r angylion y dywedodd efe un amser, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i’th draed? Onid ysbrydion gwasanaethgar ydynt hwy oll, wedi eu danfon i wasanaethu er mwyn y rhai a gânt etifeddu iachawdwriaeth?