Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Hebreaid 1

1
Y Mab yn bwysicach na’r angylion
1Yn y gorffennol pell roedd Duw wedi siarad gyda’n hynafiaid ni drwy’r proffwydi. Gwnaeth hyn bob yn dipyn ac mewn gwahanol ffyrdd. 2Ond bellach, yn y cyfnod olaf hwn, mae wedi siarad â ni drwy ei Fab. Mae Duw wedi dewis rhoi popeth sy’n bodoli yn eiddo iddo fe – yr un oedd gyda Duw yn gwneud y bydysawd. 3Mae holl ysblander Duw yn disgleirio ohono. Mae e’n dangos i ni’n berffaith sut un ydy Duw. Ei awdurdod pwerus e sy’n dal popeth yn y bydysawd gyda’i gilydd! Ar ôl iddo ei gwneud hi’n bosib i bobl gael eu glanhau o’u pechodau, cafodd eistedd yn y nefoedd, yn y sedd anrhydedd ar ochr dde y Duw Mawr ei hun.#cyfeiriad at Salm 110:1 4Roedd wedi’i wneud yn bwysicach na’r angylion. Roedd y teitl roddodd Duw iddo yn dangos ei fod yn bwysicach na nhw.
5Wnaeth Duw ddweud hyn wrth angel erioed:
“Ti ydy fy Mab i;
heddiw des i’n dad i ti”?#Salm 2:7
Neu hyn:
“Bydda i’n dad iddo fe,
A bydd e’n fab i mi”?#2 Samuel 7:14; 1 Cronicl 17:13
6Ac wrth i Dduw ddod â’i fab hynaf yn ôl i’r byd nefol i’w anrhydeddu, mae’n dweud:
“Addolwch e, holl angylion Duw!” #Deuteronomium 32:43 (LXX); Salm 97:7
7Pan mae Duw’n sôn am angylion mae’n eu disgrifio fel:
“negeswyr sydd fel gwyntoedd,
a gweision sydd fel fflamau o dân.” #Salm 104:4 (LXX)
8Ond am y Mab mae Duw’n dweud hyn:
“Byddi di, O Dduw, yn frenin ar yr orsedd am byth,
a byddi’n teyrnasu mewn ffordd gyfiawn.
9 Ti’n caru beth sy’n iawn ac yn casáu drygioni;
felly mae Duw, ie dy Dduw di, wedi dy eneinio di,
a thywallt olew llawenydd arnat ti yn fwy na neb arall.” #Salm 45:6,7
10A hefyd,
“O Arglwydd, ti osododd y ddaear yn ei lle ar y dechrau cyntaf,
a gwaith dy ddwylo di ydy popeth yn yr awyr.
11 Byddan nhw’n darfod, ond rwyt ti’n aros;
byddan nhw’n mynd yn hen fel dillad wedi’u gwisgo.
12 Byddi’n eu rholio i fyny fel hen glogyn;
byddi’n eu newid nhw fel rhywun yn newid dillad.
Ond rwyt ti yn aros am byth –
dwyt ti byth yn mynd yn hen.” #Salm 102:25-27 (LXX)
13Wnaeth Duw ddweud hyn wrth angel erioed?:
“Eistedd yma yn y sedd anrhydedd # 1:13 yn y sedd anrhydedd Groeg, “ar yr ochr dde i mi”.
nes i mi wneud i dy elynion blygu
fel stôl i ti orffwys dy draed arni.” #Salm 110:1
14Dim ond gweision ydy’r angylion. Ysbrydion wedi’u hanfon i wasanaethu’r rhai fydd yn cael eu hachub!

Dewis Presennol:

Hebreaid 1: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd