Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Haggai 1:1-11

Haggai 1:1-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Ar ddiwrnod cynta’r chweched mis o ail flwyddyn teyrnasiad y Brenin Dareius, dyma’r proffwyd Haggai yn rhoi’r neges yma gan yr ARGLWYDD i Serwbabel fab Shealtiel, llywodraethwr Jwda, a hefyd i Jehoshwa fab Iehotsadac, yr archoffeiriad: “Dyma mae’r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: Mae’r bobl yma’n dweud, ‘Mae’n rhy fuan i ni ailadeiladu teml yr ARGLWYDD.’” Ond yna dyma’r proffwyd Haggai yn rhoi’r neges yma gan yr ARGLWYDD: “Ydy hi’n iawn eich bod chi’n byw yn eich tai crand, tra mae’r deml yma yn adfail? Felly dyma mae yr ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: ‘Meddyliwch am funud beth dych chi’n wneud! Dych chi wedi hau digon, ond bach iawn ydy’r cynhaeaf; dych chi’n bwyta, ond byth yn cael eich llenwi; dych chi’n yfed, ond heb gael eich bodloni; dych chi’n gwisgo dillad, ond yn methu cadw’n gynnes; mae fel petai’r cyflog mae pobl yn ei ennill yn mynd i bwrs sydd â thwll ynddo! Ie, meddyliwch am funud beth dych chi’n wneud!’ –meddai’r ARGLWYDD hollbwerus. ‘Ewch i’r bryniau a dod â coed yn ôl i adeiladu’r deml; bydd hynny’n fy mhlesio, a bydd pobl yn fy mharchu,’ –meddai’r ARGLWYDD. ‘Roeddech chi’n disgwyl cnydau da, ond yn cael cnydau gwael. Roeddech chi’n ei gasglu, ond yna byddwn i’n ei chwythu i ffwrdd!’ –meddai’r ARGLWYDD hollbwerus. ‘Pam? – Am fod fy nhŷ i yn adfeilion, a chithau’n rhy brysur yn poeni amdanoch chi’ch hunain! Dyna pam mae’r awyr heb roi gwlith, a’r tir wedi peidio tyfu cnydau. Fi sydd wedi anfon sychder drwy’r wlad – ar y bryniau, ar yr ŷd a’r grawnwin a’r olewydd a phopeth arall sy’n tyfu o’r ddaear, ar bobl ac anifeiliaid, ac ar ffrwyth eich holl waith caled.’”

Haggai 1:1-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Yn yr ail flwyddyn i’r brenin Dareius, yn y chweched mis, ar y dydd cyntaf o’r mis, y daeth gair yr ARGLWYDD trwy law Haggai y proffwyd at Sorobabel mab Salathiel tywysog Jwda, ac at Josua mab Josedec yr archoffeiriad, gan ddywedyd, Fel hyn y llefara ARGLWYDD y lluoedd, gan ddywedyd, Y bobl hyn a ddywedant, Ni ddaeth yr amser, yr amser i adeiladu tŷ yr ARGLWYDD. Yna y daeth gair yr ARGLWYDD trwy law Haggai y proffwyd, gan ddywedyd, Ai amser yw i chwi eich hunain drigo yn eich tai byrddiedig, a’r tŷ hwn yn anghyfannedd? Fel hyn gan hynny yn awr y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Ystyriwch eich ffyrdd. Heuasoch lawer, a chludasoch ychydig; bwyta yr ydych, ond nid hyd ddigon; yfed, ac nid hyd fod yn ddiwall; ymwisgasoch, ac nid hyd glydwr i neb; a’r hwn a enillo gyflog, sydd yn casglu cyflog i god dyllog. Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Ystyriwch eich ffyrdd. Esgynnwch i’r mynydd, a dygwch goed, ac adeiledwch y tŷ; mi a ymfodlonaf ynddo, ac y’m gogoneddir, medd yr ARGLWYDD. Edrychasoch am lawer, ac wele, yr oedd yn ychydig; a phan ei dygasoch adref, chwythais arno. Am ba beth? medd ARGLWYDD y lluoedd. Am fy nhŷ i, yr hwn sydd yn anghyfannedd, a chwithau yn rhedeg bawb i’w dŷ ei hun. Am hynny gwaharddwyd i’r nefoedd oddi arnoch wlitho, a gwaharddwyd i’r ddaear roddi ei ffrwyth. Gelwais hefyd am sychder ar y ddaear, ac ar y mynyddoedd, ac ar yr ŷd ac ar y gwin, ac ar yr olew, ac ar yr hyn a ddwg y ddaear allan; ar ddyn hefyd, ac ar anifail, ac ar holl lafur dwylo.