Yn yr ail flwyddyn i’r brenin Dareius, yn y chweched mis, ar y dydd cyntaf o’r mis, y daeth gair yr ARGLWYDD trwy law Haggai y proffwyd at Sorobabel mab Salathiel tywysog Jwda, ac at Josua mab Josedec yr archoffeiriad, gan ddywedyd, Fel hyn y llefara ARGLWYDD y lluoedd, gan ddywedyd, Y bobl hyn a ddywedant, Ni ddaeth yr amser, yr amser i adeiladu tŷ yr ARGLWYDD. Yna y daeth gair yr ARGLWYDD trwy law Haggai y proffwyd, gan ddywedyd, Ai amser yw i chwi eich hunain drigo yn eich tai byrddiedig, a’r tŷ hwn yn anghyfannedd? Fel hyn gan hynny yn awr y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Ystyriwch eich ffyrdd. Heuasoch lawer, a chludasoch ychydig; bwyta yr ydych, ond nid hyd ddigon; yfed, ac nid hyd fod yn ddiwall; ymwisgasoch, ac nid hyd glydwr i neb; a’r hwn a enillo gyflog, sydd yn casglu cyflog i god dyllog.
Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Ystyriwch eich ffyrdd. Esgynnwch i’r mynydd, a dygwch goed, ac adeiledwch y tŷ; mi a ymfodlonaf ynddo, ac y’m gogoneddir, medd yr ARGLWYDD. Edrychasoch am lawer, ac wele, yr oedd yn ychydig; a phan ei dygasoch adref, chwythais arno. Am ba beth? medd ARGLWYDD y lluoedd. Am fy nhŷ i, yr hwn sydd yn anghyfannedd, a chwithau yn rhedeg bawb i’w dŷ ei hun. Am hynny gwaharddwyd i’r nefoedd oddi arnoch wlitho, a gwaharddwyd i’r ddaear roddi ei ffrwyth. Gelwais hefyd am sychder ar y ddaear, ac ar y mynyddoedd, ac ar yr ŷd ac ar y gwin, ac ar yr olew, ac ar yr hyn a ddwg y ddaear allan; ar ddyn hefyd, ac ar anifail, ac ar holl lafur dwylo.