Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Habacuc 3:1-19

Habacuc 3:1-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Gweddi'r proffwyd Habacuc. Ar Sigionoth. O ARGLWYDD, clywais y sôn amdanat, a gwelais dy waith, O ARGLWYDD. Adnewydda ef yng nghanol y blynyddoedd, datguddia ef yng nghanol y blynyddoedd, ac yn dy lid cofia drugaredd. Y mae Duw yn dyfod o Teman, a'r Sanctaidd o Fynydd Paran. Sela Y mae ei ogoniant yn gorchuddio'r nefoedd, a'i fawl yn llenwi'r ddaear. Y mae ei lewyrch fel y wawr, a phelydrau'n fflachio o'i law; ac yno y mae cuddfan ei nerth. Â haint allan o'i flaen, a daw pla allan ar ei ôl. Pan saif, y mae'r ddaear yn ysgwyd; pan edrycha, gwna i'r cenhedloedd grynu; rhwygir y mynyddoedd hen a siglir y bryniau oesol; llwybrau oesol sydd ganddo. Gwelais bebyll Cusan mewn helbul a llenni tir Midian yn crynu. A wyt yn ddig wrth y dyfroedd, ARGLWYDD? A yw dy lid yn erbyn yr afonydd, a'th ddicter at y môr? Pan wyt yn marchogaeth dy feirch a'th gerbydau i fuddugoliaeth, y mae dy fwa wedi ei ddarparu a'r saethau'n barod i'r llinyn. Sela Yr wyt yn hollti'r ddaear ag afonydd; pan wêl y mynyddoedd di, fe'u dirdynnir. Ysguba'r llifddyfroedd ymlaen; tarana'r dyfnder a chodi ei ddwylo'n uchel. Saif yr haul a'r lleuad yn eu lle, rhag fflachiau dy saethau cyflym, rhag llewyrch dy waywffon ddisglair. Mewn llid yr wyt yn camu dros y ddaear, ac mewn dicter yn mathru cenhedloedd. Ei allan i waredu dy bobl, i waredu dy eneiniog; drylli dŷ'r drygionus i'r llawr, a dinoethi'r sylfaen hyd at y graig. Sela Tryweni â'th waywffyn bennau'r rhyfelwyr a ddaeth fel corwynt i'n gwasgaru, fel rhai'n llawenhau i lyncu'r tlawd yn ddirgel. Pan sethri'r môr â'th feirch, y mae'r dyfroedd mawrion yn ymchwyddo. Clywais innau, a chynhyrfwyd fy ymysgaroedd, cryna fy ngwefusau gan y sŵn; daw pydredd i'm hesgyrn, a gollwng fy nhraed danaf; disgwyliaf am i'r dydd blin wawrio ar y bobl sy'n ymosod arnom. Er nad yw'r ffigysbren yn blodeuo, ac er nad yw'r gwinwydd yn dwyn ffrwyth; er i'r cynhaeaf olew ballu, ac er nad yw'r meysydd yn rhoi bwyd; er i'r praidd ddarfod o'r gorlan, ac er nad oes gwartheg yn y beudai; eto llawenychaf yn yr ARGLWYDD, a llawenhaf yn Nuw fy iachawdwriaeth. Yr ARGLWYDD Dduw yw fy nerth; gwna fy nhraed yn ysgafn fel ewig, a phâr imi rodio uchelfannau. I'r Cyfarwyddwr: gydag offerynnau llinynnol.

Habacuc 3:1-19 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

ARGLWYDD, dw i wedi clywed beth rwyt ti’n gallu ei wneud. Mae’n syfrdanol! Gwna’r un peth eto yn ein dyddiau ni. Dangos dy nerth yn ein dyddiau. Er dy fod yn ddig, dangos drugaredd aton ni! Dw i’n gweld Duw yn dod eto o Teman; a’r Un Sanctaidd o Fynydd Paran. Saib Mae ei ysblander yn llenwi’r awyr, ac mae’r ddaear i gyd yn ei foli. Mae e’n disgleirio fel golau llachar. Daw mellten sy’n fforchio o’i law, lle mae’n cuddio ei nerth. Mae’r pla yn mynd allan o’i flaen, a haint yn ei ddilyn. Pan mae’n sefyll mae’r ddaear yn crynu; pan mae’n edrych mae’r gwledydd yn dychryn. Mae’r mynyddoedd hynafol yn dryllio, a’r bryniau oesol yn suddo, wrth iddo deithio’r hen ffyrdd. Dw i’n gweld pebyll llwyth Cwshan mewn panig, a llenni pebyll Midian yn crynu. Ydy’r afonydd wedi dy gynhyrfu di, ARGLWYDD? Wyt ti wedi gwylltio gyda’r afonydd? Wyt ti wedi digio gyda’r môr? Ai dyna pam wyt ti wedi dringo i dy gerbyd? – cerbyd dy fuddugoliaeth. Mae dy fwa wedi’i dynnu allan, a dy saethau yn barod i ufuddhau i ti. Saib Mae afonydd yn llifo ac yn hollti’r ddaear. Mae’r mynyddoedd yn gwingo wrth dy weld yn dod. Mae’n arllwys y glaw, a’r storm ar y môr yn rhuo a’r tonnau’n cael eu taflu’n uchel. Mae’r haul a’r lleuad yn aros yn llonydd; mae fflachiadau dy saethau, a golau llachar dy waywffon yn eu cuddio. Rwyt ti’n stompio drwy’r ddaear yn wyllt, a sathru’r gwledydd dan draed. Ti’n mynd allan i achub dy bobl; i achub y gwas rwyt wedi’i eneinio. Ti’n taro arweinydd y wlad ddrwg, a’i gadael yn noeth o’i phen i’w chynffon. Saib Ti’n trywanu ei milwyr gyda’u picellau eu hunain, wrth iddyn nhw ruthro ymlaen i’n chwalu ni. Roedden nhw’n chwerthin a dathlu wrth gam-drin y tlawd yn y dirgel. Roedd dy geffylau yn sathru’r môr, ac yn gwneud i’r dŵr ewynnu. Pan glywais y sŵn, roedd fy mol yn corddi, a’m gwefusau’n crynu. Roedd fy nghorff yn teimlo’n wan, a’m coesau’n gwegian. Dw i’n mynd i ddisgwyl yn dawel i ddydd trybini ddod ar y bobl sy’n ymosod arnon ni. Pan mae’r goeden ffigys heb flodeuo, a’r grawnwin heb dyfu yn y winllan; Pan mae’r coed olewydd wedi methu, a dim cnydau ar y caeau teras; Pan does dim defaid yn y gorlan, nac ychen yn y beudy; Drwy’r cwbl, bydda i’n addoli’r ARGLWYDD ac yn dathlu’r Duw sydd yn fy achub i! Mae’r ARGLWYDD, fy meistr, yn rhoi nerth i mi, ac yn gwneud fy nhraed mor saff â’r carw sy’n crwydro’r ucheldir garw.

Habacuc 3:1-19 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Gweddi Habacuc y proffwyd, ar Sigionoth. Clywais, O ARGLWYDD, dy air, ac ofnais: O ARGLWYDD, bywha dy waith yng nghanol y blynyddoedd, pâr wybod yng nghanol y blynyddoedd; yn dy lid cofia drugaredd. DUW a ddaeth o Teman, a’r Sanctaidd o fynydd Paran. Sela. Ei ogoniant a dodd y nefoedd, a’r ddaear a lanwyd o’i fawl. A’i lewyrch oedd fel goleuni: yr oedd cyrn iddo yn dyfod allan o’i law; ac yno yr oedd cuddiad ei gryfder. Aeth yr haint o’i flaen ef, ac aeth marwor tanllyd allan wrth ei draed ef. Safodd, a mesurodd y ddaear; edrychodd, a gwasgarodd y cenhedloedd: y mynyddoedd tragwyddol hefyd a ddrylliwyd, a’r bryniau oesol a grymasant: llwybrau tragwyddol sydd iddo. Dan gystudd y gwelais wersyllau Cuwsan: crynodd llenni tir Midian. A sorrodd yr ARGLWYDD wrth yr afonydd? ai wrth yr afonydd y mae dy ddig? ai wrth y môr y mae dy ddigofaint, gan i ti farchogaeth ar dy feirch, ac ar gerbydau dy iachawdwriaeth? Llwyr noethwyd dy fwa, yn ôl llwon y llwythau, sef dy air di. Sela. Holltaist y ddaear ag afonydd. Y mynyddoedd a’th welsant, ac a grynasant; y llifeiriant dwfr a aeth heibio; y dyfnder a wnaeth dwrf; cyfododd hefyd ei ddwylo yn uchel. Yr haul a’r lleuad a safodd yn eu preswylfa; wrth oleuad dy saethau yr aethant, ac wrth lewyrch dy waywffon ddisglair. Mewn llid y cerddaist y ddaear, a dyrnaist y cenhedloedd mewn dicter. Aethost allan er iachawdwriaeth i’th bobl, er iachawdwriaeth ynghyd â’th eneiniog: torraist y pen allan o dŷ yr anwir, gan ddinoethi y sylfaen hyd y gwddf. Sela. Trywenaist ben ei faestrefydd â’i ffyn ei hun; rhyferthwyasant i’m gwasgaru; ymlawenhasant, megis i fwyta y tlawd mewn dirgelwch. Rhodiaist â’th feirch trwy y môr, trwy bentwr o ddyfroedd mawrion. Pan glywais, fy mol a ddychrynodd; fy ngwefusau a grynasant wrth y llef: daeth pydredd i’m hesgyrn, ac yn fy lle y crynais, fel y gorffwyswn yn nydd trallod: pan ddêl efe i fyny at y bobl, efe a’u difetha hwynt â’i fyddinoedd. Er i’r ffigysbren na flodeuo, ac na byddo ffrwyth ar y gwinwydd; gwaith yr olewydd a balla, a’r meysydd ni roddant fwyd; torrir ymaith y praidd o’r gorlan, ac ni bydd eidion yn eu beudai: Eto mi a lawenychaf yn yr ARGLWYDD; byddaf hyfryd yn NUW fy iachawdwriaeth. Yr ARGLWYDD DDUW yw fy nerth, a’m traed a wna efe fel traed ewigod; ac efe a wna i mi rodio ar fy uchel leoedd. I’r pencerdd ar fy offer tannau.