Gweddi'r proffwyd Habacuc. Ar Sigionoth.
O ARGLWYDD, clywais y sôn amdanat,
a gwelais dy waith, O ARGLWYDD.
Adnewydda ef yng nghanol y blynyddoedd,
datguddia ef yng nghanol y blynyddoedd,
ac yn dy lid cofia drugaredd.
Y mae Duw yn dyfod o Teman,
a'r Sanctaidd o Fynydd Paran.
Sela
Y mae ei ogoniant yn gorchuddio'r nefoedd,
a'i fawl yn llenwi'r ddaear.
Y mae ei lewyrch fel y wawr,
a phelydrau'n fflachio o'i law;
ac yno y mae cuddfan ei nerth.
 haint allan o'i flaen,
a daw pla allan ar ei ôl.
Pan saif, y mae'r ddaear yn ysgwyd;
pan edrycha, gwna i'r cenhedloedd grynu;
rhwygir y mynyddoedd hen
a siglir y bryniau oesol;
llwybrau oesol sydd ganddo.
Gwelais bebyll Cusan mewn helbul
a llenni tir Midian yn crynu.
A wyt yn ddig wrth y dyfroedd, ARGLWYDD?
A yw dy lid yn erbyn yr afonydd,
a'th ddicter at y môr?
Pan wyt yn marchogaeth dy feirch
a'th gerbydau i fuddugoliaeth,
y mae dy fwa wedi ei ddarparu
a'r saethau'n barod i'r llinyn.
Sela
Yr wyt yn hollti'r ddaear ag afonydd;
pan wêl y mynyddoedd di, fe'u dirdynnir.
Ysguba'r llifddyfroedd ymlaen;
tarana'r dyfnder a chodi ei ddwylo'n uchel.
Saif yr haul a'r lleuad yn eu lle,
rhag fflachiau dy saethau cyflym,
rhag llewyrch dy waywffon ddisglair.
Mewn llid yr wyt yn camu dros y ddaear,
ac mewn dicter yn mathru cenhedloedd.
Ei allan i waredu dy bobl,
i waredu dy eneiniog;
drylli dŷ'r drygionus i'r llawr,
a dinoethi'r sylfaen hyd at y graig.
Sela
Tryweni â'th waywffyn bennau'r rhyfelwyr
a ddaeth fel corwynt i'n gwasgaru,
fel rhai'n llawenhau i lyncu'r tlawd yn ddirgel.
Pan sethri'r môr â'th feirch,
y mae'r dyfroedd mawrion yn ymchwyddo.
Clywais innau, a chynhyrfwyd fy ymysgaroedd,
cryna fy ngwefusau gan y sŵn;
daw pydredd i'm hesgyrn,
a gollwng fy nhraed danaf;
disgwyliaf am i'r dydd blin
wawrio ar y bobl sy'n ymosod arnom.
Er nad yw'r ffigysbren yn blodeuo,
ac er nad yw'r gwinwydd yn dwyn ffrwyth;
er i'r cynhaeaf olew ballu,
ac er nad yw'r meysydd yn rhoi bwyd;
er i'r praidd ddarfod o'r gorlan,
ac er nad oes gwartheg yn y beudai;
eto llawenychaf yn yr ARGLWYDD,
a llawenhaf yn Nuw fy iachawdwriaeth.
Yr ARGLWYDD Dduw yw fy nerth;
gwna fy nhraed yn ysgafn fel ewig,
a phâr imi rodio uchelfannau.
I'r Cyfarwyddwr: gydag offerynnau llinynnol.