Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Habacuc 3

3
1Gweddi Habacuc y proffwyd, ar Sigionoth. 2Clywais, O Arglwydd, dy air, ac ofnais: O Arglwydd, bywha dy waith yng nghanol y blynyddoedd, pâr wybod yng nghanol y blynyddoedd; yn dy lid cofia drugaredd. 3Duw a ddaeth o Teman, a’r Sanctaidd o fynydd Paran. Sela. Ei ogoniant a dodd y nefoedd, a’r ddaear a lanwyd o’i fawl. 4A’i lewyrch oedd fel goleuni: yr oedd cyrn iddo yn dyfod allan o’i law; ac yno yr oedd cuddiad ei gryfder. 5Aeth yr haint o’i flaen ef, ac aeth marwor tanllyd allan wrth ei draed ef. 6Safodd, a mesurodd y ddaear; edrychodd, a gwasgarodd y cenhedloedd: y mynyddoedd tragwyddol hefyd a ddrylliwyd, a’r bryniau oesol a grymasant: llwybrau tragwyddol sydd iddo. 7Dan gystudd y gwelais wersyllau Cuwsan: crynodd llenni tir Midian. 8A sorrodd yr Arglwydd wrth yr afonydd? ai wrth yr afonydd y mae dy ddig? ai wrth y môr y mae dy ddigofaint, gan i ti farchogaeth ar dy feirch, ac ar gerbydau dy iachawdwriaeth? 9Llwyr noethwyd dy fwa, yn ôl llwon y llwythau, sef dy air di. Sela. Holltaist y ddaear ag afonydd. 10Y mynyddoedd a’th welsant, ac a grynasant; y llifeiriant dwfr a aeth heibio; y dyfnder a wnaeth dwrf; cyfododd hefyd ei ddwylo yn uchel. 11Yr haul a’r lleuad a safodd yn eu preswylfa; wrth oleuad dy saethau yr aethant, ac wrth lewyrch dy waywffon ddisglair. 12Mewn llid y cerddaist y ddaear, a dyrnaist y cenhedloedd mewn dicter. 13Aethost allan er iachawdwriaeth i’th bobl, er iachawdwriaeth ynghyd â’th eneiniog: torraist y pen allan o dŷ yr anwir, gan ddinoethi y sylfaen hyd y gwddf. Sela. 14Trywenaist ben ei faestrefydd â’i ffyn ei hun; rhyferthwyasant i’m gwasgaru; ymlawenhasant, megis i fwyta y tlawd mewn dirgelwch. 15Rhodiaist â’th feirch trwy y môr, trwy bentwr o ddyfroedd mawrion. 16Pan glywais, fy mol a ddychrynodd; fy ngwefusau a grynasant wrth y llef: daeth pydredd i’m hesgyrn, ac yn fy lle y crynais, fel y gorffwyswn yn nydd trallod: pan ddêl efe i fyny at y bobl, efe a’u difetha hwynt â’i fyddinoedd.
17Er i’r ffigysbren na flodeuo, ac na byddo ffrwyth ar y gwinwydd; gwaith yr olewydd a balla, a’r meysydd ni roddant fwyd; torrir ymaith y praidd o’r gorlan, ac ni bydd eidion yn eu beudai: 18Eto mi a lawenychaf yn yr Arglwydd; byddaf hyfryd yn Nuw fy iachawdwriaeth. 19Yr Arglwydd Dduw yw fy nerth, a’m traed a wna efe fel traed ewigod; ac efe a wna i mi rodio ar fy uchel leoedd. I’r pencerdd ar fy offer tannau.

Dewis Presennol:

Habacuc 3: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda