Genesis 41:9-36
Genesis 41:9-36 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yna dyma’r prif-fwtler yn mynd i siarad â’r Pharo. “Dw i newydd gofio rhywbeth heddiw. Dw i wedi bod ar fai,” meddai. “Roedd y Pharo wedi gwylltio gyda’i weision, ac wedi fy anfon i a’r pen-pobydd i garchar capten y gwarchodlu. Cafodd y ddau ohonon ni freuddwyd ar yr un noson, ac roedd ystyr arbennig i’r ddwy freuddwyd. Roedd Hebrëwr ifanc yn y carchar, gwas capten y gwarchodlu. Pan ddwedon ni wrtho am ein breuddwydion, dyma fe’n esbonio ystyr y ddwy freuddwyd. A digwyddodd popeth yn union fel roedd wedi dweud. Ces i fy swydd yn ôl ond cafodd corff y pobydd ei grogi ar bolyn.” Felly dyma’r Pharo yn anfon am Joseff. A dyma nhw’n dod ag e allan ar frys o’i gell dan ddaear. Ar ôl iddo siafio a gwisgo dillad glân, dyma fe’n cael ei ddwyn o flaen y Pharo. A dyma’r Pharo yn dweud wrtho, “Dw i wedi cael breuddwyd a does neb yn gallu dweud wrtho i beth ydy ei hystyr hi. Dw i’n deall dy fod ti’n gallu dehongli breuddwydion.” Atebodd Joseff, “Dim fi. Duw ydy’r unig un all wneud i’r Pharo deimlo’n well.” Felly dyma’r Pharo’n dweud wrth Joseff, “Yn y freuddwyd roeddwn i’n sefyll ar lan afon Nîl. Dyma saith o wartheg oedd yn edrych yn dda ac wedi’u pesgi yn dod allan o’r afon a dechrau pori ar y lan. Ac wedyn dyma saith o wartheg eraill yn dod allan o’r afon ar eu holau. Roedd golwg denau, wael ar y rhain. Doeddwn i erioed wedi gweld rhai oedd yn edrych mor wael yng ngwlad yr Aifft i gyd. A dyma’r gwartheg tenau, gwael yn bwyta’r saith buwch oedd yn edrych yn dda. Ond fyddai neb yn gwybod eu bod nhw wedi gwneud hynny, achos roedden nhw’n dal i edrych mor wael ag erioed. Ac wedyn dyma fi’n deffro. “Es i yn ôl i gysgu, a chefais freuddwyd arall. Gwelais saith tywysen o rawn oedd yn edrych yn llawn ac yn iach, yn tyfu ar un gwelltyn. Wedyn dyma saith tywysen arall yn tyfu ar eu holau, rhai gwael, wedi gwywo ac wedi’u crino gan wynt y dwyrain. A dyma’r tywysennau gwael yn llyncu’r saith tywysen iach. Ond pan ddwedais hyn wrth y swynwyr, doedd neb ohonyn nhw’n gallu dweud yr ystyr wrtho i.” Yna dyma Joseff yn dweud wrth y Pharo, “Yr un ystyr sydd i’r ddwy freuddwyd. Mae Duw wedi dangos i’r Pharo beth mae ar fin ei wneud. Saith mlynedd ydy’r saith o wartheg sy’n edrych yn dda, a saith mlynedd ydy’r saith dywysen iach. Un ystyr sydd i’r ddwy freuddwyd. Saith mlynedd ydy’r saith o wartheg tenau, gwael, a saith mlynedd ydy’r saith dywysen wag wedi’u crino gan wynt y dwyrain. Maen nhw’n cynrychioli saith mlynedd o newyn. Fel dw i newydd ddweud: mae Duw wedi dangos i’r Pharo beth mae ar fin ei wneud. Mae saith mlynedd yn dod pan fydd digonedd o fwyd yng ngwlad yr Aifft. Ond bydd saith mlynedd o newyn yn dilyn, a fydd dim arwydd yn y wlad fod cyfnod o ddigonedd wedi bod. Bydd y newyn yn difetha’r wlad. Fydd dim sôn am y blynyddoedd llewyrchus am fod y newyn mor ddifrifol. Cafodd y Pharo y freuddwyd ddwywaith am fod Duw am ddangos fod y peth yn siŵr o ddigwydd. Mae Duw yn mynd i wneud iddo ddigwydd ar unwaith. Felly dylai’r Pharo ddewis dyn galluog a doeth i reoli gwlad yr Aifft. Dylai benodi swyddogion ar hyd a lled y wlad, i gasglu un rhan o bump o gynnyrch y tir yn ystod y saith mlynedd o ddigonedd. Dylen nhw gasglu’r cnydau yma o’r blynyddoedd da. A dylai’r Pharo roi awdurdod iddyn nhw storio’r grawn fel bod bwyd i’w gael yn y dinasoedd. A bydd rhaid cael milwyr i’w warchod. Dylai’r bwyd yma fod wrth gefn ar gyfer y saith mlynedd o newyn sy’n mynd i daro gwlad yr Aifft. Wedyn fydd y newyn ddim yn rhoi diwedd llwyr ar y wlad.”
Genesis 41:9-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna dywedodd y pen-trulliad wrth Pharo, “Rwy'n cofio heddiw imi fod ar fai. Pan ffromodd Pharo wrth ei weision a'm rhoi i a'r pen-pobydd yn y ddalfa yn nhŷ pennaeth y gwarchodwyr, cawsom ein dau freuddwyd yr un noson, pob un ei freuddwyd ei hun, ac i bob breuddwyd ei hystyr ei hun. Ac yno gyda ni yr oedd llanc o Hebrëwr, gwas pennaeth y gwarchodwyr; wedi inni eu hadrodd iddo, dehonglodd ein breuddwydion i'r naill a'r llall ohonom. Fel y dehonglodd inni, felly y bu; adferwyd fi i'm swydd, a chrogwyd y llall.” Yna anfonodd Pharo am Joseff, a daethant ag ef ar frys o'r gell; eilliodd yntau a newid ei ddillad, a daeth at Pharo. A dywedodd Pharo wrth Joseff, “Cefais freuddwyd, ac ni all neb ei dehongli, ond clywais amdanat ti dy fod yn gallu gwrando breuddwyd a'i dehongli.” Atebodd Joseff Pharo a dweud, “Nid myfi; Duw a rydd ateb ffafriol i Pharo.” Dywedodd Pharo wrth Joseff, “Yn fy mreuddwyd yr oeddwn yn sefyll ar lan y Neil, a dyma saith o wartheg tew a phorthiannus yn esgyn o'r afon, a phori yn y weirglodd; ac yna saith o wartheg eraill truenus a nychlyd a thenau iawn, yn dod ar eu hôl; ni welais rai cynddrwg yn holl dir yr Aifft. Bwytaodd y gwartheg tenau a nychlyd y saith o wartheg tewion cyntaf, ond er iddynt eu bwyta nid oedd ôl hynny arnynt, gan eu bod mor denau â chynt. Yna deffroais. Gwelais hefyd yn fy mreuddwyd saith o dywysennau llawn a da yn tyfu ar un gwelltyn; a dyma saith dywysen fain a thenau, wedi eu deifio gan wynt y dwyrain, yn tarddu ar eu hôl. Llyncodd y tywysennau tenau y saith dywysen dda. Adroddais hyn wrth y dewiniaid, ond ni allai neb ei egluro i mi.” Yna dywedodd Joseff wrth Pharo, “Un ystyr sydd i freuddwyd Pharo; y mae Duw wedi mynegi i Pharo yr hyn y mae am ei wneud. Y saith o wartheg da, saith mlynedd ydynt, a'r saith dywysen dda, saith mlynedd ydynt; un freuddwyd sydd yma. Saith mlynedd hefyd yw'r saith o wartheg tenau a nychlyd a esgynnodd ar eu hôl, a saith mlynedd o newyn yw'r saith dywysen wag wedi eu deifio gan wynt y dwyrain. Fel y dywedais wrth Pharo, y mae Duw wedi dangos i Pharo yr hyn y mae am ei wneud. Daw saith mlynedd o lawnder mawr trwy holl wlad yr Aifft, ond ar eu hôl daw saith mlynedd o newyn, ac anghofir yr holl lawnder yng ngwlad yr Aifft; difethir y wlad gan y newyn, ac ni fydd ôl y llawnder yn y wlad o achos y newyn hwnnw fydd yn ei ddilyn, gan mor drwm fydd. Dyblwyd breuddwyd Pharo am fod y peth mor sicr gan Dduw, a bod Duw ar fin ei gyflawni. Yn awr, dylai Pharo edrych am ŵr deallus a doeth i'w osod ar wlad yr Aifft. Dyma a ddylai Pharo ei wneud: gosod arolygwyr dros y wlad, i gymryd y bumed ran o gnwd gwlad yr Aifft dros y saith mlynedd o lawnder. Dylent gasglu holl fwyd y blynyddoedd da sydd ar ddod, a thrwy awdurdod Pharo, dylent gasglu ŷd yn ymborth i'w gadw yn y dinasoedd, fel y bydd y bwyd ynghadw i'r wlad dros y saith mlynedd o newyn sydd i fod yng ngwlad yr Aifft, rhag i'r wlad gael ei difetha gan y newyn.”
Genesis 41:9-36 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna y llefarodd y pen-trulliad wrth Pharo, gan ddywedyd, Yr wyf fi yn cofio fy meiau heddiw. Llidio a wnaethai Pharo wrth ei weision; ac efe a’m rhoddes mewn carchar yn nhŷ’r distain, myfi a’r pen-pobydd. A ni a freuddwydiasom freuddwyd yn yr un nos, mi ac efe: breuddwydiasom bob un ar ôl dehongliad ei freuddwyd. Ac yr oedd yno gyda nyni fab ieuanc o Hebread, gwas i’r distain; a ni a fynegasom iddo ef: yntau a ddehonglodd i ni ein breuddwydion; i bob un yn ôl ei freuddwyd y dehonglodd efe. A darfu, fel y dehonglodd i ni, felly y bu: rhodd fi eilwaith i’m swydd; ac yntau a grogodd efe. Pharo, gan hynny, a anfonodd ac a alwodd am Joseff: hwythau ar redeg a’i cyrchasant ef o’r carchar: yntau a eilliodd ei wallt, ac a newidiodd ei ddillad, ac a ddaeth at Pharo. A Pharo a ddywedodd wrth Joseff, Breuddwydiais freuddwyd, ac nid oes a’i dehonglo: a myfi a glywais ddywedyd amdanat ti, y medri ddeall breuddwyd i’w ddehongli. A Joseff a atebodd Pharo, gan ddywedyd, Nid myfi; DUW a etyb lwyddiant i Pharo. A Pharo a ddywedodd wrth Joseff, Wele fi yn fy mreuddwyd yn sefyll ar fin yr afon. Ac wele yn esgyn o r afon saith o wartheg tewion o gig, a theg yr olwg; ac mewn gweirglodd-dir y porent. Wele hefyd saith o wartheg eraill yn esgyn ar eu hôl hwynt, truain, a drwg iawn yr olwg, ac yn gulion o gig: ni welais rai cynddrwg â hwynt yn holl dir yr Aifft. A’r gwartheg culion a drwg a fwytasant y saith muwch tewion cyntaf. Ac er eu myned i’w boliau, ni wyddid iddynt fyned i’w boliau; ond yr olwg arnynt oedd ddrwg, megis yn y dechreuad. Yna mi a ddeffroais. Gwelais hefyd yn fy mreuddwyd, ac wele saith dywysen lawn a theg yn cyfodi o’r un gorsen. Ac wele saith o dywys mân, teneuon, wedi deifio gan ddwyreinwynt, yn tyfu ar eu hôl hwynt. A’r tywysennau teneuon a lyncasant y saith dywysen dda; a mi a ddywedais hyn wrth y dewiniaid; ond nid oedd a’i dehonglai i mi. A dywedodd Joseff wrth Pharo, Breuddwyd Pharo sydd un yr hyn y mae DUW yn ei wneuthur a fynegodd efe i Pharo. Y saith o wartheg teg, saith mlynedd ydynt; a’r saith dywysen deg, saith mlynedd ydynt y breuddwyd un yw. Hefyd y saith muwch culion a drwg, y rhai oedd yn esgyn ar eu hôl hwynt, saith mlynedd ydynt; a’r saith dywysen wag wedi deifio gan y dwyreinwynt, a fyddant saith mlynedd o newyn. Hyn yw’r peth a ddywedais i wrth Pharo: Yr hyn a wna DUW, efe a’i dangosodd i Pharo. Wele y mae saith mlynedd yn dyfod o amldra mawr, trwy holl wlad yr Aifft. Ond ar eu hôl hwynt y cyfyd saith mlynedd o newyn; ac anghofir yr holl amlder trwy wlad yr Aifft: a’r newyn a ddifetha’r wlad. Ac ni wybyddir oddi wrth yr amldra yn y wlad, oherwydd y newyn hwnnw wedi hynny: oblegid trwm iawn fydd. Hefyd am ddyblu’r breuddwyd i Pharo ddwywaith, hynny a fu oblegid sicrhau’r peth gan DDUW, a bod DUW yn brysio i’w wneuthur. Yn awr, gan hynny, edryched Pharo am ŵr deallgar a doeth, a gosoded ef ar wlad yr Aifft. Gwnaed Pharo hyn, a gosoded olygwyr ar y wlad, a chymered bumed ran cnwd gwlad yr Aifft dros saith mlynedd yr amldra. A chasglant holl ymborth y blynyddoedd daionus sydd ar ddyfod, a chasglant ŷd dan law Pharo, a chadwant ymborth yn y dinasoedd. A bydded yr ymborth yng nghadw i’r wlad dros y saith mlynedd newyn, y rhai fyddant yng ngwlad yr Aifft, fel na ddifether y wlad gan y newyn.