Yna y llefarodd y pen-trulliad wrth Pharo, gan ddywedyd, Yr wyf fi yn cofio fy meiau heddiw. Llidio a wnaethai Pharo wrth ei weision; ac efe a’m rhoddes mewn carchar yn nhŷ’r distain, myfi a’r pen-pobydd. A ni a freuddwydiasom freuddwyd yn yr un nos, mi ac efe: breuddwydiasom bob un ar ôl dehongliad ei freuddwyd. Ac yr oedd yno gyda nyni fab ieuanc o Hebread, gwas i’r distain; a ni a fynegasom iddo ef: yntau a ddehonglodd i ni ein breuddwydion; i bob un yn ôl ei freuddwyd y dehonglodd efe. A darfu, fel y dehonglodd i ni, felly y bu: rhodd fi eilwaith i’m swydd; ac yntau a grogodd efe.
Pharo, gan hynny, a anfonodd ac a alwodd am Joseff: hwythau ar redeg a’i cyrchasant ef o’r carchar: yntau a eilliodd ei wallt, ac a newidiodd ei ddillad, ac a ddaeth at Pharo. A Pharo a ddywedodd wrth Joseff, Breuddwydiais freuddwyd, ac nid oes a’i dehonglo: a myfi a glywais ddywedyd amdanat ti, y medri ddeall breuddwyd i’w ddehongli. A Joseff a atebodd Pharo, gan ddywedyd, Nid myfi; DUW a etyb lwyddiant i Pharo. A Pharo a ddywedodd wrth Joseff, Wele fi yn fy mreuddwyd yn sefyll ar fin yr afon. Ac wele yn esgyn o r afon saith o wartheg tewion o gig, a theg yr olwg; ac mewn gweirglodd-dir y porent. Wele hefyd saith o wartheg eraill yn esgyn ar eu hôl hwynt, truain, a drwg iawn yr olwg, ac yn gulion o gig: ni welais rai cynddrwg â hwynt yn holl dir yr Aifft. A’r gwartheg culion a drwg a fwytasant y saith muwch tewion cyntaf. Ac er eu myned i’w boliau, ni wyddid iddynt fyned i’w boliau; ond yr olwg arnynt oedd ddrwg, megis yn y dechreuad. Yna mi a ddeffroais. Gwelais hefyd yn fy mreuddwyd, ac wele saith dywysen lawn a theg yn cyfodi o’r un gorsen. Ac wele saith o dywys mân, teneuon, wedi deifio gan ddwyreinwynt, yn tyfu ar eu hôl hwynt. A’r tywysennau teneuon a lyncasant y saith dywysen dda; a mi a ddywedais hyn wrth y dewiniaid; ond nid oedd a’i dehonglai i mi.
A dywedodd Joseff wrth Pharo, Breuddwyd Pharo sydd un yr hyn y mae DUW yn ei wneuthur a fynegodd efe i Pharo. Y saith o wartheg teg, saith mlynedd ydynt; a’r saith dywysen deg, saith mlynedd ydynt y breuddwyd un yw. Hefyd y saith muwch culion a drwg, y rhai oedd yn esgyn ar eu hôl hwynt, saith mlynedd ydynt; a’r saith dywysen wag wedi deifio gan y dwyreinwynt, a fyddant saith mlynedd o newyn. Hyn yw’r peth a ddywedais i wrth Pharo: Yr hyn a wna DUW, efe a’i dangosodd i Pharo. Wele y mae saith mlynedd yn dyfod o amldra mawr, trwy holl wlad yr Aifft. Ond ar eu hôl hwynt y cyfyd saith mlynedd o newyn; ac anghofir yr holl amlder trwy wlad yr Aifft: a’r newyn a ddifetha’r wlad. Ac ni wybyddir oddi wrth yr amldra yn y wlad, oherwydd y newyn hwnnw wedi hynny: oblegid trwm iawn fydd. Hefyd am ddyblu’r breuddwyd i Pharo ddwywaith, hynny a fu oblegid sicrhau’r peth gan DDUW, a bod DUW yn brysio i’w wneuthur. Yn awr, gan hynny, edryched Pharo am ŵr deallgar a doeth, a gosoded ef ar wlad yr Aifft. Gwnaed Pharo hyn, a gosoded olygwyr ar y wlad, a chymered bumed ran cnwd gwlad yr Aifft dros saith mlynedd yr amldra. A chasglant holl ymborth y blynyddoedd daionus sydd ar ddyfod, a chasglant ŷd dan law Pharo, a chadwant ymborth yn y dinasoedd. A bydded yr ymborth yng nghadw i’r wlad dros y saith mlynedd newyn, y rhai fyddant yng ngwlad yr Aifft, fel na ddifether y wlad gan y newyn.