Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 13:1-17

Genesis 13:1-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Felly dyma Abram yn gadael yr Aifft, gyda’i wraig a phopeth oedd ganddo a Lot. Aethon nhw yn ôl i’r Negef yn ne Canaan. Roedd Abram yn gyfoethog iawn – roedd ganddo lawer iawn o anifeiliaid ac arian ac aur. Teithiodd yn ei flaen bob yn dipyn drwy’r Negef ac yn ôl i fyny i Bethel. Aeth i’r man lle roedd wedi gwersylla gyntaf, rhwng Bethel ac Ai. Dyna ble roedd wedi codi allor bryd hynny; ac addolodd yr ARGLWYDD yno eto. Roedd gan Lot, oedd yn teithio gydag Abram, ddefaid a gwartheg a phebyll hefyd. Doedd dim digon o borfa a dŵr iddyn nhw fyw gyda’i gilydd, am fod gan y ddau gymaint o anifeiliaid. Ac roedd gweision Abram a gweision Lot yn cweryla drwy’r adeg. (Y Canaaneaid a’r Peresiaid oedd yn byw yn y wlad bryd hynny.) Felly dyma Abram yn dweud wrth Lot, “Da ti, gad i ni a’n gweision beidio ffraeo! Dŷn ni’n perthyn i’r un teulu! Edrych, mae’r wlad i gyd o dy flaen di. Beth am i ni wahanu? Dewis di ble wyt ti am fynd i fyw, a gwna i fynd i’r cyfeiriad arall.” Edrychodd Lot o’i gwmpas, a gwelodd fod dyffryn Iorddonen i fyny at Soar yn dir da gyda digon o ddŵr. Roedd yn ffrwythlon fel gardd yr ARGLWYDD yn Eden, neu wlad yr Aifft. (Roedd hyn cyn i’r ARGLWYDD ddinistrio trefi Sodom a Gomorra.) Felly dyma Lot yn dewis dyffryn Iorddonen, a mynd i gyfeiriad y dwyrain. A dyma’r teulu’n gwahanu. Setlodd Abram yng ngwlad Canaan, ac aeth Lot i fyw wrth y trefi yn y dyffryn, a gwersylla wrth ymyl Sodom. Roedd pobl Sodom yn ddrwg iawn, ac yn pechu’n fawr yn erbyn yr ARGLWYDD. Ar ôl i Lot ei adael, dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Abram, “Edrych o dy gwmpas i bob cyfeiriad. Dw i’n mynd i roi’r wlad yma i gyd i ti a dy ddisgynyddion, am byth. Bydd gen ti gymaint o ddisgynyddion fydd dim posib eu cyfri nhw. Byddan nhw fel llwch ar y ddaear! Dos i deithio o gwmpas y wlad. Bydda i’n rhoi’r cwbl i ti.”

Genesis 13:1-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Yna aeth Abram i fyny o'r Aifft i'r Negef, ef a'i wraig a'i holl eiddo, a hefyd Lot. Yr oedd Abram yn gyfoethog iawn o anifeiliaid, ac o arian ac aur. Teithiodd ymlaen o'r Negef hyd Bethel, i'r man rhwng Bethel ac Ai lle'r oedd ei babell ar y dechrau, y man lle'r oedd wedi gwneud allor ar y cychwyn; ac yno galwodd Abram ar enw'r ARGLWYDD. Yr oedd gan Lot, a oedd yn teithio gydag Abram, hefyd ddefaid ac ychen a phebyll; ac ni allai'r tir eu cynnal ill dau gyda'i gilydd. Am fod eu meddiannau mor helaeth, ni allent drigo ynghyd; a bu cynnen rhwng bugeiliaid anifeiliaid Abram a rhai Lot. Y Canaaneaid a'r Peresiaid oedd yn byw yn y wlad yr amser hwnnw. Yna dywedodd Abram wrth Lot, “Peidied â bod cynnen rhyngom, na rhwng fy mugeiliaid i a'th rai di, oherwydd perthnasau ydym. Onid yw'r holl wlad o'th flaen? Ymwahana oddi wrthyf. Os troi di i'r chwith, fe drof finnau i'r dde; ac os i'r dde, trof finnau i'r chwith.” Cododd Lot ei olwg, a gwelodd fod holl wastadedd yr Iorddonen i gyfeiriad Soar i gyd yn ddyfradwy, fel gardd yr ARGLWYDD, neu wlad yr Aifft. Yr oedd hyn cyn i'r ARGLWYDD ddinistrio Sodom a Gomorra. A dewisodd Lot iddo'i hun holl wastadedd yr Iorddonen, a theithio tua'r dwyrain; felly yr ymwahanodd y naill oddi wrth y llall. Yr oedd Abram yn byw yng ngwlad Canaan, a Lot yn ninasoedd y gwastadedd, gan symud ei babell hyd at Sodom. Yr oedd gwŷr Sodom yn ddrygionus, yn pechu'n fawr yn erbyn yr ARGLWYDD. Wedi i Lot ymwahanu oddi wrtho, dywedodd yr ARGLWYDD wrth Abram, “Cod dy olwg o'r lle'r wyt, ac edrych tua'r gogledd a'r de a'r dwyrain a'r gorllewin; oherwydd yr holl dir yr wyt yn ei weld, fe'i rhoddaf i ti ac i'th ddisgynyddion hyd byth. Gwnaf dy had fel llwch y ddaear; os dichon neb rifo llwch y ddaear, yna fe rifir dy had di. Cod, rhodia ar hyd a lled y wlad, oherwydd i ti yr wyf yn ei rhoi.”

Genesis 13:1-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ac Abram a aeth i fyny o’r Aifft, efe a’i wraig, a’r hyn oll oedd eiddo, a Lot gydag ef, i’r deau. Ac Abram oedd gyfoethog iawn o anifeiliaid, ac o arian, ac aur. Ac efe a aeth ar ei deithiau, o’r deau hyd Bethel, hyd y lle y buasai ei babell ef ynddo yn y dechreuad, rhwng Bethel a Hai; I le yr allor a wnaethai efe yno o’r cyntaf: ac yno y galwodd Abram ar enw yr ARGLWYDD. Ac i Lot hefyd, yr hwn a aethai gydag Abram, yr oedd defaid, a gwartheg, a phebyll. A’r wlad nid oedd abl i’w cynnal hwynt i drigo ynghyd; am fod eu cyfoeth hwynt yn helaeth, fel na allent drigo ynghyd. Cynnen hefyd oedd rhwng bugeiliaid anifeiliaid Abram a bugeiliaid anifeiliaid Lot: y Canaaneaid hefyd a’r Pheresiaid oedd yna yn trigo yn y wlad. Ac Abram a ddywedodd wrth Lot, Na fydded cynnen, atolwg, rhyngof fi a thi, na rhwng fy mugeiliaid i a’th fugeiliaid di; oherwydd brodyr ydym ni. Onid yw yr holl dir o’th flaen di? Ymneilltua, atolwg, oddi wrthyf: os ar y llaw aswy y troi di, minnau a droaf ar y ddeau; ac os ar y llaw ddeau, minnau a droaf ar yr aswy. A Lot a gyfododd ei olwg, ac a welodd holl wastadedd yr Iorddonen, mai dyfradwy ydoedd oll, cyn i’r ARGLWYDD ddifetha Sodom a Gomorra, fel gardd yr ARGLWYDD, fel tir yr Aifft, ffordd yr elych i Soar. A Lot a ddewisodd iddo holl wastadedd yr Iorddonen, a Lot a aeth tua’r dwyrain: felly yr ymneilltuasant bob un oddi wrth ei gilydd. Abram a drigodd yn nhir Canaan a Lot a drigodd yn ninasoedd y gwastadedd, ac a luestodd hyd Sodom. A dynion Sodom oedd ddrygionus, ac yn pechu yn erbyn yr ARGLWYDD yn ddirfawr. A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Abram, wedi ymneilltuo o Lot oddi wrtho ef, Cyfod dy lygaid, ac edrych o’r lle yr wyt ynddo, tua’r gogledd, a’r deau, a’r dwyrain, a’r gorllewin. Canys yr holl dir a weli, i ti y rhoddaf ef, ac i’th had byth. Gwnaf hefyd dy had di fel llwch y ddaear; megis os dichon gŵr rifo llwch y ddaear, yna y rhifir dy had dithau. Cyfod, rhodia trwy’r wlad, ar ei hyd, ac ar ei lled; canys i ti y rhoddaf hi.