Yna aeth Abram i fyny o'r Aifft i'r Negef, ef a'i wraig a'i holl eiddo, a hefyd Lot. Yr oedd Abram yn gyfoethog iawn o anifeiliaid, ac o arian ac aur. Teithiodd ymlaen o'r Negef hyd Bethel, i'r man rhwng Bethel ac Ai lle'r oedd ei babell ar y dechrau, y man lle'r oedd wedi gwneud allor ar y cychwyn; ac yno galwodd Abram ar enw'r ARGLWYDD. Yr oedd gan Lot, a oedd yn teithio gydag Abram, hefyd ddefaid ac ychen a phebyll; ac ni allai'r tir eu cynnal ill dau gyda'i gilydd. Am fod eu meddiannau mor helaeth, ni allent drigo ynghyd; a bu cynnen rhwng bugeiliaid anifeiliaid Abram a rhai Lot. Y Canaaneaid a'r Peresiaid oedd yn byw yn y wlad yr amser hwnnw.
Yna dywedodd Abram wrth Lot, “Peidied â bod cynnen rhyngom, na rhwng fy mugeiliaid i a'th rai di, oherwydd perthnasau ydym. Onid yw'r holl wlad o'th flaen? Ymwahana oddi wrthyf. Os troi di i'r chwith, fe drof finnau i'r dde; ac os i'r dde, trof finnau i'r chwith.” Cododd Lot ei olwg, a gwelodd fod holl wastadedd yr Iorddonen i gyfeiriad Soar i gyd yn ddyfradwy, fel gardd yr ARGLWYDD, neu wlad yr Aifft. Yr oedd hyn cyn i'r ARGLWYDD ddinistrio Sodom a Gomorra. A dewisodd Lot iddo'i hun holl wastadedd yr Iorddonen, a theithio tua'r dwyrain; felly yr ymwahanodd y naill oddi wrth y llall. Yr oedd Abram yn byw yng ngwlad Canaan, a Lot yn ninasoedd y gwastadedd, gan symud ei babell hyd at Sodom. Yr oedd gwŷr Sodom yn ddrygionus, yn pechu'n fawr yn erbyn yr ARGLWYDD.
Wedi i Lot ymwahanu oddi wrtho, dywedodd yr ARGLWYDD wrth Abram, “Cod dy olwg o'r lle'r wyt, ac edrych tua'r gogledd a'r de a'r dwyrain a'r gorllewin; oherwydd yr holl dir yr wyt yn ei weld, fe'i rhoddaf i ti ac i'th ddisgynyddion hyd byth. Gwnaf dy had fel llwch y ddaear; os dichon neb rifo llwch y ddaear, yna fe rifir dy had di. Cod, rhodia ar hyd a lled y wlad, oherwydd i ti yr wyf yn ei rhoi.”