Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 13

13
Abram a Lot yn gwahanu
1Felly dyma Abram yn gadael yr Aifft, gyda’i wraig a phopeth oedd ganddo a Lot. Aethon nhw yn ôl i’r Negef yn ne Canaan. 2Roedd Abram yn gyfoethog iawn – roedd ganddo lawer iawn o anifeiliaid ac arian ac aur. 3Teithiodd yn ei flaen bob yn dipyn drwy’r Negef ac yn ôl i fyny i Bethel. Aeth i’r man lle roedd wedi gwersylla gyntaf, rhwng Bethel ac Ai. 4Dyna ble roedd wedi codi allor bryd hynny; ac addolodd yr ARGLWYDD yno eto.
5Roedd gan Lot, oedd yn teithio gydag Abram, ddefaid a gwartheg a phebyll hefyd. 6Doedd dim digon o borfa a dŵr iddyn nhw fyw gyda’i gilydd, am fod gan y ddau gymaint o anifeiliaid. 7Ac roedd gweision Abram a gweision Lot yn cweryla drwy’r adeg. (Y Canaaneaid a’r Peresiaid oedd yn byw yn y wlad bryd hynny.)
8Felly dyma Abram yn dweud wrth Lot, “Da ti, gad i ni a’n gweision beidio ffraeo! Dŷn ni’n perthyn i’r un teulu! 9Edrych, mae’r wlad i gyd o dy flaen di. Beth am i ni wahanu? Dewis di ble wyt ti am fynd i fyw, a gwna i fynd i’r cyfeiriad arall.” 10Edrychodd Lot o’i gwmpas, a gwelodd fod dyffryn Iorddonen i fyny at Soar yn dir da gyda digon o ddŵr. Roedd yn ffrwythlon fel gardd yr ARGLWYDD yn Eden, neu wlad yr Aifft. (Roedd hyn cyn i’r ARGLWYDD ddinistrio trefi Sodom a Gomorra.) 11Felly dyma Lot yn dewis dyffryn Iorddonen, a mynd i gyfeiriad y dwyrain. A dyma’r teulu’n gwahanu. 12Setlodd Abram yng ngwlad Canaan, ac aeth Lot i fyw wrth y trefi yn y dyffryn, a gwersylla wrth ymyl Sodom.
13Roedd pobl Sodom yn ddrwg iawn, ac yn pechu’n fawr yn erbyn yr ARGLWYDD.
Abram yn symud i Hebron
14Ar ôl i Lot ei adael, dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Abram, “Edrych o dy gwmpas i bob cyfeiriad. 15Dw i’n mynd i roi’r wlad yma i gyd i ti a dy ddisgynyddion, am byth. 16Bydd gen ti gymaint o ddisgynyddion fydd dim posib eu cyfri nhw. Byddan nhw fel llwch ar y ddaear! 17Dos i deithio o gwmpas y wlad. Bydda i’n rhoi’r cwbl i ti.”
18Felly dyma Abram yn mynd, ac yn setlo i lawr wrth goed derw Mamre, oedd yn fan addoli yn Hebron. A dyma fe’n codi allor i’r ARGLWYDD yno.

Dewis Presennol:

Genesis 13: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda