Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 12

12
Duw yn galw Abram
1Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Abram, “Dw i am i ti adael dy wlad, dy bobl a dy deulu, a mynd i ble dw i’n ei ddangos i ti. 2Bydda i’n dy wneud di yn genedl fawr, ac yn dy fendithio di, a byddi’n enwog. Dw i eisiau i ti fod yn fendith i eraill. 3Bydda i’n bendithio’r rhai sy’n dy fendithio di ac yn melltithio unrhyw un sy’n dy fychanu di. A bydd pobloedd y byd i gyd yn cael eu bendithio trwot ti.”#12:3 Neu yn defnyddio dy enw di i fendithio ei gilydd.
4Felly dyma Abram yn mynd, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho. A dyma Lot yn mynd gydag e. (Roedd Abram yn 75 mlwydd oed pan adawodd Haran.) 5Aeth Abram â’i wraig Sarai gydag e, a Lot ei nai. Aeth â’i eiddo i gyd, a’r gweithwyr roedd wedi’u cymryd ato yn Haran, a mynd i wlad Canaan. Pan gyrhaeddon nhw yno 6dyma Abram yn teithio drwy’r wlad ac yn cyrraedd derwen More, oedd yn lle addoli yn Sichem. (Y Canaaneaid oedd yn byw yn y wlad bryd hynny.)
7Dyma’r ARGLWYDD yn ymddangos i Abram, ac yn dweud, “Dw i’n mynd i roi’r wlad yma i dy ddisgynyddion di.” Felly cododd Abram allor i’r ARGLWYDD oedd wedi dod ato.
8Wedyn symudodd Abram yn ei flaen tua’r de, a gwersylla yn y bryniau sydd i’r dwyrain o Bethel. Roedd Bethel i’r gorllewin iddo, ac Ai tua’r dwyrain. Cododd allor yno hefyd, ac addoli’r ARGLWYDD.
9Yna teithiodd Abram yn ei flaen bob yn dipyn i gyfeiriad y Negef yn y de.
Abram a Sarai yn mynd i’r Aifft
10Roedd newyn difrifol yn y wlad. Felly dyma Abram yn mynd i lawr i’r Aifft i grwydro yno. 11Pan oedd bron cyrraedd yr Aifft, dwedodd wrth ei wraig Sarai, “Ti’n ddynes hardd iawn. 12Pan fydd yr Eifftiaid yn dy weld di byddan nhw’n dweud, ‘Ei wraig e ydy hi’, a byddan nhw yn fy lladd i er mwyn dy gael di. 13Dwed wrthyn nhw mai fy chwaer i wyt ti. Byddan nhw’n garedig ata i wedyn am eu bod nhw’n dy hoffi di, a bydda i’n saff.”
14Pan gyrhaeddodd Abram yr Aifft, roedd yr Eifftiaid yn gweld fod Sarai yn ddynes hardd iawn. 15Gwelodd swyddogion y Pharo hi, a mynd i ddweud wrtho mor hardd oedd hi. Felly cymerodd y Pharo hi i fod yn un o’i harîm. 16Roedd y Pharo’n garedig iawn at Abram o’i hachos hi. Rhoddodd ddefaid a gwartheg, asennod, caethweision a chaethferched, a chamelod iddo.
17Ond am fod y Pharo wedi cymryd Sarai, gwraig Abram, iddo’i hun, dyma’r ARGLWYDD yn anfon afiechydon ofnadwy arno fe a phawb yn ei balas. 18Galwodd y Pharo am Abram, a dweud wrtho, “Pam wyt ti wedi gwneud hyn i mi? Pam wnest ti ddim dweud mai dy wraig di oedd hi? 19Pam dweud ‘Fy chwaer i ydy hi’, a gadael i mi ei chymryd hi’n wraig i mi fy hun? Felly dyma hi, dy wraig, yn ôl i ti. Cymer hi a dos o ngolwg i!” 20Rhoddodd y Pharo orchymyn i’w filwyr yrru Abram a’i wraig a phopeth oedd ganddo, allan o’r wlad.

Dewis Presennol:

Genesis 12: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda