Exodus 4:24-26
Exodus 4:24-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Mewn llety ar y ffordd, cyfarfu'r ARGLWYDD â Moses a cheisio'i ladd. Ond cymerodd Seffora gyllell finiog a thorri blaengroen ei mab a'i fwrw i gyffwrdd â thraed Moses, a dweud, “Yr wyt yn briod imi trwy waed.” Yna gadawodd yr ARGLWYDD lonydd iddo. Dyna'r adeg y dywedodd hi, “Yr wyt yn briod trwy waed oherwydd yr enwaedu.”
Exodus 4:24-26 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ar y ffordd, roedd Moses a’i deulu wedi aros i letya dros nos. A dyma’r ARGLWYDD yn dod ato, ac roedd yn mynd i’w ladd. Ond dyma Seffora yn cymryd cyllell finiog a torri’r blaengroen oddi ar bidyn ei mab. Yna dyma hi’n cyffwrdd man preifat Moses gydag e, a dweud, “Rwyt ti wir yn briodfab i mi drwy waed.” A dyma’r ARGLWYDD yn gadael llonydd iddo. (Wrth ddweud “priodfab drwy waed” roedd Seffora’n cyfeirio at ddefod enwaediad.)
Exodus 4:24-26 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A bu, ar y ffordd yn y llety, gyfarfod o’r ARGLWYDD ag ef, a cheisio ei ladd ef. Ond Seffora a gymerth gyllell lem, ac a dorrodd ddienwaediad ei mab, ac a’i bwriodd i gyffwrdd â’i draed ef; ac a ddywedodd, Diau dy fod yn briod gwaedlyd i mi. A’r ARGLWYDD a beidiodd ag ef: yna y dywedodd hi, Priod gwaedlyd wyt, oblegid yr enwaediad.