Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Exodus 4

4
1A Moses a atebodd, ac a ddywedodd, Eto, wele, ni chredant i mi, ac ni wrandawant ar fy llais; ond dywedant, Nid ymddangosodd yr Arglwydd i ti. 2A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Beth sydd yn dy law? Dywedodd yntau, Gwialen. 3Ac efe a ddywedodd, Tafl hi ar y ddaear. Ac efe a’i taflodd hi ar y ddaear; a hi a aeth yn sarff: a Moses a giliodd rhagddi. 4Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, Estyn dy law, ac ymafael yn ei llosgwrn hi. (Ac efe a estynnodd ei law, ac a ymaflodd ynddi; a hi a aeth yn wialen yn ei law ef:) 5Fel y credant ymddangos i ti o Arglwydd Dduw eu tadau, Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob.
6A dywedodd yr Arglwydd wrtho drachefn, Dod yn awr dy law yn dy fynwes. Ac efe a roddodd ei law yn ei fynwes: a phan dynnodd efe hi allan, wele ei law ef yn wahanglwyfol fel yr eira. 7Ac efe a ddywedodd, Dod eilwaith dy law yn dy fynwes. Ac efe a roddodd eilwaith ei law yn ei fynwes, ac a’i tynnodd hi allan o’i fynwes; ac wele, hi a droesai fel ei gnawd arall ef. 8A bydd, oni chredant i ti, ac oni wrandawant ar lais yr arwydd cyntaf, eto y credant i lais yr ail arwydd. 9A bydd, oni chredant hefyd i’r ddau arwydd hyn, ac oni wrandawant ar dy lais, ti a gymeri o ddwfr yr afon ac a’i tywellti ar y sychdir; a bydd y dyfroedd a gymerech o’r afon yn waed ar y tir sych.
10A dywedodd Moses wrth yr Arglwydd, O fy Arglwydd, ni bûm ŵr ymadroddus, na chyn hyn, nac er pan leferaist wrth dy was; eithr safndrwm a thafotrwm ydwyf. 11A dywedodd yr Arglwydd wrtho, Pwy a wnaeth enau i ddyn? neu pwy a ordeiniodd fudan, neu fyddar, neu y neb sydd yn gweled, neu y dall? onid myfi yr Arglwydd? 12Am hynny dos yn awr; a mi a fyddaf gyda’th enau, ac a ddysgaf i ti yr hyn a ddywedych. 13Dywedodd yntau, O fy Arglwydd, danfon, atolwg, gyda’r hwn a ddanfonych. 14Ac enynnodd digofaint yr Arglwydd yn erbyn Moses; ac efe a ddywedodd, Onid dy frawd yw Aaron y Lefiad? mi a wn y medr efe lefaru yn groyw: ac wele efe yn dyfod allan i’th gyfarfod; a phan y’th welo, efe a lawenycha yn ei galon. 15Llefara dithau wrtho ef, a gosod y geiriau hyn yn ei enau: a minnau a fyddaf gyda’th enau di, a chyda’i enau yntau, a dysgaf i chwi yr hyn a wneloch. 16A llefared yntau trosot ti wrth y bobl: ac felly y bydd efe yn lle genau i ti, a thithau a fyddi yn lle Duw iddo yntau. 17Cymer hefyd y wialen hon yn dy law, yr hon y gwnei wyrthiau â hi.
18A Moses a aeth, ac a ddychwelodd at Jethro ei chwegrwn, ac a ddywedodd wrtho, Gad i mi fyned, atolwg, a dychwelyd at fy mrodyr sydd yn yr Aifft, a gweled a ydynt eto yn fyw. A dywedodd Jethro wrth Moses, Dos mewn heddwch. 19A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses ym Midian, Dos, dychwel i’r Aifft; oherwydd bu feirw yr holl wŷr oedd yn ceisio dy einioes. 20A Moses a gymerth ei wraig, a’i feibion, ac a’u gosododd hwynt ar asyn, ac a ddychwelodd i wlad yr Aifft: cymerodd Moses hefyd wialen Duw yn ei law. 21A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Pan elych i ddychwelyd i’r Aifft, gwêl i ti wneuthur gerbron Pharo yr holl ryfeddodau a roddais yn dy law: ond mi a galedaf ei galon ef, fel na ollyngo ymaith y bobl. 22A dywed wrth Pharo, Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd; Fy mab i, sef fy nghyntaf-anedig, yw Israel. 23A dywedais wrthyt, Gollwng fy mab, fel y’m gwasanaetho: ond os gwrthodi ei ollwng ef, wele, mi a laddaf dy fab di, sef dy gyntaf-anedig.
24A bu, ar y ffordd yn y llety, gyfarfod o’r Arglwydd ag ef, a cheisio ei ladd ef. 25Ond Seffora a gymerth gyllell lem, ac a dorrodd ddienwaediad ei mab, ac a’i bwriodd i gyffwrdd â’i draed ef; ac a ddywedodd, Diau dy fod yn briod gwaedlyd i mi. 26A’r Arglwydd a beidiodd ag ef: yna y dywedodd hi, Priod gwaedlyd wyt, oblegid yr enwaediad.
27A dywedodd yr Arglwydd wrth Aaron, Dos i gyfarfod â Moses i’r anialwch. Ac efe a aeth, ac a gyfarfu ag ef ym mynydd Duw, ac a’i cusanodd ef. 28A Moses a fynegodd i Aaron holl eiriau yr Arglwydd, yr hwn a’i hanfonasai ef, a’r arwyddion a orchmynasai efe iddo.
29A Moses ac Aaron a aethant, ac a gynullasant holl henuriaid meibion Israel. 30Ac Aaron a draethodd yr holl eiriau a lefarasai yr Arglwydd wrth Moses, ac a wnaeth yr arwyddion yng ngolwg y bobl. 31A chredodd y bobl: a phan glywsant ymweled o’r Arglwydd â meibion Israel, ac iddo edrych ar eu gorthrymder, yna hwy a ymgrymasant, ac a addolasant.

Dewis Presennol:

Exodus 4: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd