Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Exodus 4

4
1Ond dyma Moses yn ateb, “Beth os wnân nhw ddim fy nghredu i? Beth os ddwedan nhw, ‘Wnaeth yr ARGLWYDD ddim dangos ei hun i ti.’?” 2Felly dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Beth ydy honna yn dy law di?” A dyma fe’n ateb, “Ffon.” 3“Tafla hi ar lawr,” meddai’r ARGLWYDD. Dyma fe’n taflu’r ffon ar lawr, a dyma hi’n troi’n neidr. A dyma Moses yn cilio’n ôl yn reit sydyn. 4Ond yna dwedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Estyn dy law a gafael ynddi wrth ei chynffon.” Pan wnaeth Moses hynny dyma hi’n troi yn ôl yn ffon yn ei law. 5“Gwna di hyn, a byddan nhw’n credu wedyn fod yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid wedi ymddangos i ti – Duw Abraham, Isaac a Jacob.”
6Yna dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Rho dy law dan dy glogyn.” Felly dyma fe’n rhoi ei law dan ei glogyn, ond pan dynnodd hi allan roedd brech fel gwahanglwyf drosti – roedd yn wyn fel yr eira! 7Yna dyma’r ARGLWYDD yn dweud eto, “Rho dy law yn ôl dan dy glogyn.” Felly dyma Moses yn rhoi ei law yn ôl dan ei glogyn, a phan dynnodd hi allan y tro yma, roedd hi’n iach eto fel gweddill ei groen! 8“Os byddan nhw’n gwrthod dy gredu di pan welan nhw’r arwydd cyntaf, falle y gwnân nhw gredu’r ail arwydd,” meddai’r ARGLWYDD. 9“Os byddan nhw’n dal i wrthod credu, yna cymer ddŵr o afon Nîl a’i dywallt ar y tir sych. Bydd y dŵr yn troi’n waed ar y tir sych.”
10Ond wedyn dyma Moses yn dweud wrth yr ARGLWYDD, “Plîs, Meistr, dw i ddim yn siaradwr da iawn – dw i erioed wedi bod, a fydda i byth chwaith. Mae gen i atal dweud, a dw i’n ei chael hi’n anodd i siarad.” 11Ond dyma’r ARGLWYDD yn ei ateb, “Pwy roddodd geg i ddyn yn y lle cyntaf? Pwy sy’n gwneud rhai yn fud, eraill yn fyddar, rhai yn gweld ac eraill yn ddall? Onid fi, yr ARGLWYDD? 12Felly dos; bydda i’n dy helpu di i siarad, ac yn dy ddysgu di beth i’w ddweud.” 13Ond meddai Moses, “O, plîs, Meistr, anfon rhywun arall!”
14Erbyn hyn roedd yr ARGLWYDD wedi digio gyda Moses, “Iawn! Beth am dy frawd Aaron, y Lefiad? Dw i’n gwybod ei fod e’n gallu siarad yn dda. Mae e ar ei ffordd i dy gyfarfod di. Bydd e wrth ei fodd pan fydd e’n dy weld di! 15Byddi di’n dweud wrtho beth i’w ddweud. Bydda i’n dy helpu di a’i helpu fe i siarad, ac yn dangos i chi beth i’w wneud. 16Bydd e’n siarad ar dy ran di gyda’r bobl. Bydd e’n siarad ar dy ran di, a byddi di fel ‘duw’ yn dweud wrtho beth i’w ddweud. 17A dos â dy ffon gyda ti – byddi’n gwneud arwyddion gwyrthiol gyda hi.”
Moses yn mynd yn ôl i’r Aifft
18Felly dyma Moses yn mynd yn ôl adre at Jethro, ei dad-yng-nghyfraith, a dweud wrtho, “Plîs gad i mi fynd yn ôl at fy mhobl yn yr Aifft, i weld a ydyn nhw’n dal yn fyw.” A dyma Jethro’n dweud wrtho, “Dos, a bendith arnat ti!” 19(Roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses yn Midian, “Dos yn ôl i’r Aifft. Mae’r dynion oedd am dy ladd di wedi marw.”) 20Felly dyma Moses yn mynd gyda’i wraig a’i feibion – eu rhoi nhw ar gefn mul, a dechrau yn ôl am yr Aifft. Ac aeth â ffon Duw gydag e yn ei law. 21A dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Pan ei di yn ôl i’r Aifft, gwna’n siŵr dy fod yn gwneud yr holl wyrthiau rhyfeddol dw i wedi rhoi’r gallu i ti eu gwneud o flaen y Pharo. Ond bydda i’n ei wneud e’n ystyfnig, a bydd e’n gwrthod gadael i’r bobl fynd. 22Felly dywed di wrth y Pharo, ‘Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Fy mab i ydy Israel, fy mab hynaf i, 23a dw i wedi dweud wrthot ti am adael iddo fynd, iddo gael fy addoli i. Gwylia dy hun os byddi di’n gwrthod! Bydda i’n lladd dy fab hynaf di!”’”
24Ar y ffordd, roedd Moses a’i deulu wedi aros i letya dros nos. A dyma’r ARGLWYDD yn dod ato, ac roedd yn mynd i’w ladd. 25Ond dyma Seffora yn cymryd cyllell finiog a torri’r blaengroen oddi ar bidyn ei mab. Yna dyma hi’n cyffwrdd man preifat Moses gydag e, a dweud, “Rwyt ti wir yn briodfab i mi drwy waed.” 26A dyma’r ARGLWYDD yn gadael llonydd iddo. (Wrth ddweud “priodfab drwy waed” roedd Seffora’n cyfeirio at ddefod enwaediad.)
27Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Aaron, “Dos i’r anialwch i gyfarfod Moses.” Felly dyma fe’n mynd ac yn cyfarfod Moses wrth fynydd Duw, a’i gyfarch gyda chusan. 28A dyma Moses yn dweud wrth Aaron bopeth roedd yr ARGLWYDD wedi’i anfon i’w ddweud, ac am yr arwyddion gwyrthiol roedd i’w gwneud.
29Galwodd Moses ac Aaron arweinwyr Israel at ei gilydd. 30A dyma Aaron yn dweud wrthyn nhw am bopeth roedd yr ARGLWYDD wedi’i ddweud wrth Moses. Yna dyma’r bobl yn gweld yr arwyddion gwyrthiol 31ac yn ei gredu. Pan glywon nhw fod yr ARGLWYDD wedi bod yn cadw golwg ar bobl Israel ac wedi gweld sut roedden nhw’n cael eu cam-drin, dyma nhw’n plygu i lawr yn isel i’w addoli.

Dewis Presennol:

Exodus 4: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd