Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Exodus 5

5
Moses yn mynd at y Pharo
1Aeth Moses ac Aaron at y Pharo, a dweud wrtho, “Dyma mae’r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Gad i’m pobl fynd yn rhydd, iddyn nhw gynnal gŵyl i mi yn yr anialwch.’” 2Ond dyma’r Pharo’n ateb, “A pwy ydy’r ARGLWYDD yma dw i i fod i wrando arno, a gadael i bobl Israel fynd? Dw i ddim yn gwybod pwy ydy e, a dw i ddim yn mynd i adael i Israel fynd yn rhydd chwaith!” 3A dyma nhw’n ei ateb, “Mae Duw yr Hebreaid wedi cyfarfod gyda ni. Plîs, gad i ni deithio i’r anialwch am dri diwrnod, er mwyn i ni aberthu i’r ARGLWYDD ein Duw, rhag iddo ein taro ni gyda haint ofnadwy neu i ni gael ein lladd mewn rhyfel.”
4“Moses, Aaron,” meddai’r brenin, “dych chi’n stopio’r bobl rhag mynd ymlaen gyda’u gwaith! Ewch yn ôl i weithio! 5Mae’r bobl yma drwy’r wlad i gyd, a dych chi’n eu stopio nhw rhag gweithio!” 6Felly’r diwrnod hwnnw, dyma’r Pharo yn gorchymyn i’r meistri gwaith a’r fformyn oedd dros y bobl: 7“Peidiwch rhoi cyflenwad o wellt#5:7 wellt Roedd y gwellt yn gwneud y brics yn gryfach, ac yn eu cadw rhag cracio a cholli eu siâp. i’r bobl sy’n gwneud brics o hyn ymlaen. Gwnewch iddyn nhw gasglu eu gwellt eu hunain! 8Ond bydd dal ddisgwyl iddyn nhw wneud yr un nifer o frics ag o’r blaen. Peidiwch gadael iddyn nhw wneud llai. Mae’n amlwg eu bod nhw’n slacio, a dyna pam maen nhw’n dweud, ‘Gad i ni fynd i aberthu i’n Duw.’ 9Gwnewch iddyn nhw weithio’n galetach. Fydd ganddyn nhw ddim amser i wrando ar gelwyddau’r dynion yna wedyn!”
10Felly dyma’r meistri gwaith a’r fformyn yn mynd at bobl Israel, a dweud, “Dyma orchymyn gan y Pharo: ‘Dw i ddim am roi gwellt i chi o hyn ymlaen. 11Rhaid i chi’ch hunain fynd allan i chwilio am wellt. A rhaid i chi gynhyrchu’r un nifer o frics ag o’r blaen.’” 12Felly dyma’r bobl yn mynd allan i wlad yr Aifft i bob cyfeiriad, i gasglu bonion gwellt. 13Roedd y meistri gwaith yn rhoi pwysau ofnadwy arnyn nhw, “Rhaid i chi wneud yr un faint o waith bob dydd ag o’r blaen, pan oedden ni’n rhoi gwellt i chi!” 14Roedd yr Israeliaid oedd wedi cael eu penodi’n fformyn gan y meistri gwaith yn cael eu curo am beidio cynhyrchu’r cwota llawn o frics fel o’r blaen.
15Felly dyma’r fformyn yn mynd at y Pharo, a phledio arno, “Pam wyt ti’n trin dy weision fel yma? 16Dŷn ni’n cael dim gwellt, ac eto mae disgwyl i ni wneud brics! Ni sy’n cael ein curo ond ar y meistri gwaith mae’r bai.” 17Ond dyma’r Pharo yn dweud wrthyn nhw, “Dych chi wedi bod yn slacio! Dych chi’n ddiog! Dyna pam dych chi’n dweud, ‘Gad i ni fynd i aberthu i’r ARGLWYDD.’ 18Felly ewch, yn ôl i’ch gwaith! Fydd dim gwellt yn cael ei roi i chi, ond rhaid i chi gynhyrchu’r un faint o frics!”
19Roedd fformyn pobl Israel yn gweld eu bod nhw mewn trwbwl pan ddywedwyd wrthyn nhw, “Rhaid i chi gynhyrchu’r un faint o frics ag o’r blaen.”
20Wrth iddyn nhw adael y Pharo, roedd Moses ac Aaron yno’n disgwyl amdanyn nhw. 21A dyma’r fformyn yn dweud wrthyn nhw, “Gobeithio bydd yr ARGLWYDD yn eich barnu chi am droi y Pharo a’i swyddogion yn ein herbyn ni. Dŷn ni’n drewi yn eu golwg nhw! Dych chi wedi’n rhoi ni mewn sefyllfa lle byddan nhw’n ein lladd ni!”
Addewid Duw i Moses
22Dyma Moses yn mynd yn ôl at yr ARGLWYDD, a dweud, “O! Feistr, pam ti’n trin dy bobl fel yma? Pam yn y byd wnest ti fy anfon i atyn nhw? 23O’r eiliad es i i siarad â’r Pharo ar dy ran di, mae e wedi achosi trwbwl i’r bobl yma, a dwyt ti wedi gwneud dim byd i’w hachub nhw!”

Dewis Presennol:

Exodus 5: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda