Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Exodus 4:1-17

Exodus 4:1-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Yna atebodd Moses, “Ni fyddant yn fy nghredu nac yn gwrando arnaf, ond byddant yn dweud, ‘Nid yw'r ARGLWYDD wedi ymddangos i ti.’ ” Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Beth sydd gennyt yn dy law?” Atebodd yntau, “Gwialen.” Yna dywedodd yr ARGLWYDD, “Tafl hi ar lawr.” Pan daflodd hi ar lawr, trodd yn sarff, a chiliodd Moses oddi wrthi. Ond dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Estyn dy law a gafael yn ei chynffon.” Estynnodd yntau ei law a gafael ynddi, a throdd yn wialen yn ei law. “Gwna hyn,” meddai, “er mwyn iddynt gredu bod yr ARGLWYDD, Duw eu tadau, Duw Abraham, Duw Isaac a Duw Jacob wedi ymddangos iti.” Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Rho dy law yn dy fynwes.” Rhoes yntau ei law yn ei fynwes, a phan dynnodd hi allan, yr oedd ei law yn wahanglwyfus ac yn wyn fel yr eira. Yna dywedodd Duw, “Rho hi'n ôl yn dy fynwes.” Rhoes yntau ei law yn ôl yn ei fynwes, a phan dynnodd hi allan, yr oedd mor iach â gweddill ei gorff. “Os na fyddant yn dy gredu nac yn ymateb i'r arwydd cyntaf,” meddai'r ARGLWYDD, “hwyrach y byddant yn ymateb i'r ail arwydd. Ond os na fyddant yn ymateb i'r naill arwydd na'r llall, nac yn gwrando arnat, cymer ddŵr o'r Neil a'i dywallt ar y sychdir, a bydd y dŵr a gymeri o'r afon Neil yn troi'n waed ar y tir sych.” Dywedodd Moses wrth yr ARGLWYDD, “O f'Arglwydd, ni fûm erioed yn ŵr huawdl, nac yn y gorffennol nac er pan ddechreuaist lefaru wrth dy was; y mae fy lleferydd yn araf a'm tafod yn drwm.” Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Pwy a roes enau i feidrolyn? Pwy a'i gwna yn fud neu'n fyddar? Pwy a rydd iddo olwg, neu ei wneud yn ddall? Onid myfi, yr ARGLWYDD? Yn awr, dos, rhof help iti i lefaru, a'th ddysgu beth i'w ddweud.” Ond dywedodd ef, “O f'Arglwydd, anfon pwy bynnag arall a fynni.” Digiodd yr ARGLWYDD wrth Moses a dywedodd, “Onid Aaron y Lefiad yw dy frawd? Gwn y gall ef siarad yn huawdl; y mae ar ei ffordd i'th gyfarfod, a bydd yn falch o'th weld. Llefara di wrtho a gosod y geiriau yn ei enau, a rhof finnau help i'r ddau ohonoch i lefaru, a'ch dysgu beth i'w wneud. Bydd ef yn llefaru wrth y bobl ar dy ran; bydd ef fel genau iti, a byddi dithau fel Duw iddo yntau. Cymer y wialen hon yn dy law, oherwydd trwyddi hi y byddi'n gwneud yr arwyddion.”

Exodus 4:1-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Ond dyma Moses yn ateb, “Beth os wnân nhw ddim fy nghredu i? Beth os ddwedan nhw, ‘Wnaeth yr ARGLWYDD ddim dangos ei hun i ti.’?” Felly dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Beth ydy honna yn dy law di?” A dyma fe’n ateb, “Ffon.” “Tafla hi ar lawr,” meddai’r ARGLWYDD. Dyma fe’n taflu’r ffon ar lawr, a dyma hi’n troi’n neidr. A dyma Moses yn cilio’n ôl yn reit sydyn. Ond yna dwedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Estyn dy law a gafael ynddi wrth ei chynffon.” Pan wnaeth Moses hynny dyma hi’n troi yn ôl yn ffon yn ei law. “Gwna di hyn, a byddan nhw’n credu wedyn fod yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid wedi ymddangos i ti – Duw Abraham, Isaac a Jacob.” Yna dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Rho dy law dan dy glogyn.” Felly dyma fe’n rhoi ei law dan ei glogyn, ond pan dynnodd hi allan roedd brech fel gwahanglwyf drosti – roedd yn wyn fel yr eira! Yna dyma’r ARGLWYDD yn dweud eto, “Rho dy law yn ôl dan dy glogyn.” Felly dyma Moses yn rhoi ei law yn ôl dan ei glogyn, a phan dynnodd hi allan y tro yma, roedd hi’n iach eto fel gweddill ei groen! “Os byddan nhw’n gwrthod dy gredu di pan welan nhw’r arwydd cyntaf, falle y gwnân nhw gredu’r ail arwydd,” meddai’r ARGLWYDD. “Os byddan nhw’n dal i wrthod credu, yna cymer ddŵr o afon Nîl a’i dywallt ar y tir sych. Bydd y dŵr yn troi’n waed ar y tir sych.” Ond wedyn dyma Moses yn dweud wrth yr ARGLWYDD, “Plîs, Meistr, dw i ddim yn siaradwr da iawn – dw i erioed wedi bod, a fydda i byth chwaith. Mae gen i atal dweud, a dw i’n ei chael hi’n anodd i siarad.” Ond dyma’r ARGLWYDD yn ei ateb, “Pwy roddodd geg i ddyn yn y lle cyntaf? Pwy sy’n gwneud rhai yn fud, eraill yn fyddar, rhai yn gweld ac eraill yn ddall? Onid fi, yr ARGLWYDD? Felly dos; bydda i’n dy helpu di i siarad, ac yn dy ddysgu di beth i’w ddweud.” Ond meddai Moses, “O, plîs, Meistr, anfon rhywun arall!” Erbyn hyn roedd yr ARGLWYDD wedi digio gyda Moses, “Iawn! Beth am dy frawd Aaron, y Lefiad? Dw i’n gwybod ei fod e’n gallu siarad yn dda. Mae e ar ei ffordd i dy gyfarfod di. Bydd e wrth ei fodd pan fydd e’n dy weld di! Byddi di’n dweud wrtho beth i’w ddweud. Bydda i’n dy helpu di a’i helpu fe i siarad, ac yn dangos i chi beth i’w wneud. Bydd e’n siarad ar dy ran di gyda’r bobl. Bydd e’n siarad ar dy ran di, a byddi di fel ‘duw’ yn dweud wrtho beth i’w ddweud. A dos â dy ffon gyda ti – byddi’n gwneud arwyddion gwyrthiol gyda hi.”

Exodus 4:1-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A Moses a atebodd, ac a ddywedodd, Eto, wele, ni chredant i mi, ac ni wrandawant ar fy llais; ond dywedant, Nid ymddangosodd yr ARGLWYDD i ti. A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrtho, Beth sydd yn dy law? Dywedodd yntau, Gwialen. Ac efe a ddywedodd, Tafl hi ar y ddaear. Ac efe a’i taflodd hi ar y ddaear; a hi a aeth yn sarff: a Moses a giliodd rhagddi. Yr ARGLWYDD hefyd a ddywedodd wrth Moses, Estyn dy law, ac ymafael yn ei llosgwrn hi. (Ac efe a estynnodd ei law, ac a ymaflodd ynddi; a hi a aeth yn wialen yn ei law ef:) Fel y credant ymddangos i ti o ARGLWYDD DDUW eu tadau, DUW Abraham, DUW Isaac, a DUW Jacob. A dywedodd yr ARGLWYDD wrtho drachefn, Dod yn awr dy law yn dy fynwes. Ac efe a roddodd ei law yn ei fynwes: a phan dynnodd efe hi allan, wele ei law ef yn wahanglwyfol fel yr eira. Ac efe a ddywedodd, Dod eilwaith dy law yn dy fynwes. Ac efe a roddodd eilwaith ei law yn ei fynwes, ac a’i tynnodd hi allan o’i fynwes; ac wele, hi a droesai fel ei gnawd arall ef. A bydd, oni chredant i ti, ac oni wrandawant ar lais yr arwydd cyntaf, eto y credant i lais yr ail arwydd. A bydd, oni chredant hefyd i’r ddau arwydd hyn, ac oni wrandawant ar dy lais, ti a gymeri o ddwfr yr afon ac a’i tywellti ar y sychdir; a bydd y dyfroedd a gymerech o’r afon yn waed ar y tir sych. A dywedodd Moses wrth yr ARGLWYDD, O fy Arglwydd, ni bûm ŵr ymadroddus, na chyn hyn, nac er pan leferaist wrth dy was; eithr safndrwm a thafotrwm ydwyf. A dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, Pwy a wnaeth enau i ddyn? neu pwy a ordeiniodd fudan, neu fyddar, neu y neb sydd yn gweled, neu y dall? onid myfi yr ARGLWYDD? Am hynny dos yn awr; a mi a fyddaf gyda’th enau, ac a ddysgaf i ti yr hyn a ddywedych. Dywedodd yntau, O fy Arglwydd, danfon, atolwg, gyda’r hwn a ddanfonych. Ac enynnodd digofaint yr ARGLWYDD yn erbyn Moses; ac efe a ddywedodd, Onid dy frawd yw Aaron y Lefiad? mi a wn y medr efe lefaru yn groyw: ac wele efe yn dyfod allan i’th gyfarfod; a phan y’th welo, efe a lawenycha yn ei galon. Llefara dithau wrtho ef, a gosod y geiriau hyn yn ei enau: a minnau a fyddaf gyda’th enau di, a chyda’i enau yntau, a dysgaf i chwi yr hyn a wneloch. A llefared yntau trosot ti wrth y bobl: ac felly y bydd efe yn lle genau i ti, a thithau a fyddi yn lle DUW iddo yntau. Cymer hefyd y wialen hon yn dy law, yr hon y gwnei wyrthiau â hi.