Exodus 20:9-10
Exodus 20:9-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Gelli weithio ar y chwe diwrnod arall, a gwneud popeth sydd angen ei wneud. Mae’r seithfed diwrnod i’w gadw yn Saboth i’r ARGLWYDD. Does neb i fod i weithio ar y diwrnod yma – ti na dy feibion a dy ferched, dy weision na dy forynion chwaith; dim hyd yn oed dy anifeiliaid nac unrhyw fewnfudwr sy’n aros gyda ti.
Exodus 20:9-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Chwe diwrnod yr wyt i weithio a gwneud dy holl waith, ond y mae'r seithfed dydd yn Saboth yr ARGLWYDD dy Dduw; na wna ddim gwaith y dydd hwnnw, ti na'th fab, na'th ferch, na'th was, na'th forwyn, na'th anifail, na'r estron sydd o fewn dy byrth
Exodus 20:9-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Chwe diwrnod y gweithi, ac y gwnei dy holl waith: Ond y seithfed dydd yw Saboth yr ARGLWYDD dy DDUW: na wna ynddo ddim gwaith, tydi, na’th fab, na’th ferch, na’th wasanaethwr, na’th wasanaethferch, na’th anifail, na’th ddieithr ddyn a fyddo o fewn dy byrth