Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Exodus 20

20
Y Deg Gorchymyn
Deut. 5:1–21
1Llefarodd Duw yr holl eiriau hyn, a dweud:
2“Myfi yw'r ARGLWYDD dy Dduw, a'th arweiniodd allan o wlad yr Aifft, o dŷ caethiwed.
3“Na chymer dduwiau eraill ar wahân i mi.
4“Na wna iti ddelw gerfiedig ar ffurf dim sydd yn y nefoedd uchod na'r ddaear isod nac yn y dŵr dan y ddaear; 5nac ymgryma iddynt na'u gwasanaethu, oherwydd yr wyf fi, yr ARGLWYDD dy Dduw, yn Dduw eiddigeddus; yr wyf yn cosbi'r plant am ddrygioni'r rhieni hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth o'r rhai sy'n fy nghasáu, 6ond yn dangos trugaredd i filoedd o'r rhai sy'n fy ngharu ac yn cadw fy ngorchmynion.
7“Na chymer enw'r ARGLWYDD dy Dduw yn ofer, oherwydd ni fydd yr ARGLWYDD yn ystyried yn ddieuog y sawl sy'n cymryd ei enw'n ofer.
8“Cofia'r dydd Saboth, i'w gadw'n gysegredig. 9Chwe diwrnod yr wyt i weithio a gwneud dy holl waith, 10ond y mae'r seithfed dydd yn Saboth yr ARGLWYDD dy Dduw; na wna ddim gwaith y dydd hwnnw, ti na'th fab, na'th ferch, na'th was, na'th forwyn, na'th anifail, na'r estron sydd o fewn dy byrth; 11oherwydd mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr ARGLWYDD y nefoedd a'r ddaear, y môr a'r cyfan sydd ynddo; ac ar y seithfed dydd fe orffwysodd; am hynny, bendithiodd yr ARGLWYDD y dydd Saboth a'i gysegru.
12“Anrhydedda dy dad a'th fam, er mwyn amlhau dy ddyddiau yn y wlad y mae'r ARGLWYDD yn ei rhoi iti.
13“Na ladd.
14“Na odineba.
15“Na ladrata.
16“Na ddwg gamdystiolaeth yn erbyn dy gymydog.
17“Na chwennych dŷ dy gymydog, na'i wraig, na'i was, na'i forwyn, na'i ych, na'i asyn, na dim sy'n eiddo i'th gymydog.”
Y Bobl yn Ofni
18Pan welodd yr holl bobl y taranau a'r mellt, yr utgorn yn seinio a'r mynydd yn mygu, safasant o hirbell mewn petruster, 19a dweud wrth Moses, “Llefara di wrthym, ac fe wrandawn; ond paid â gadael i Dduw lefaru wrthym, rhag inni farw.” 20Dywedodd Moses wrthynt, “Peidiwch ag ofni, oherwydd fe ddaeth Duw i'ch profi, er mwyn ichwi ddal i'w barchu ef, a pheidio â phechu.”
Sut Allor i'w Chodi
21Safodd y bobl o bell, ond nesaodd Moses at y tywyllwch lle'r oedd Duw. 22Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Fel hyn y dywedi wrth bobl Israel: ‘Gwelsoch i mi lefaru wrthych o'r nefoedd. 23Peidiwch â gwneud duwiau o arian nac o aur i'w haddoli gyda mi. 24Gwna imi allor o bridd, ac abertha arni dy boethoffrymau a'th heddoffrymau, dy ddefaid a'th ychen; yna mi ddof atat i'th fendithio ym mha le bynnag y coffeir fy enw. 25Ond os gwnei imi allor o gerrig, paid â'i gwneud o gerrig nadd; oherwydd wrth iti ei thrin â'th forthwyl, yr wyt yn ei halogi. 26Hefyd, paid â mynd i fyny i'm hallor ar risiau, rhag iti amlygu dy noethni.’

Dewis Presennol:

Exodus 20: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd