Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Exodus 20

20
Y Deg Gorchymyn
(Deuteronomium 5:6-21)
1A dyma Duw yn dweud fel yma:
2“Fi ydy’r ARGLWYDD, eich Duw chi.
Fi wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft,
lle roeddech chi’n gaethweision.
3Does dim duwiau eraill i fod gen ti, dim ond fi.
4Paid cerfio eilun i’w addoli –
dim byd sy’n edrych fel unrhyw aderyn, anifail na physgodyn.
5Paid plygu i lawr a’u haddoli nhw.
Dw i, yr ARGLWYDD dy Dduw di, yn Dduw eiddigeddus.
Dw i’n cosbi pechodau’r rhieni sy’n fy nghasáu i,
ac mae’r canlyniadau’n gadael eu hôl ar y plant am dair i bedair cenhedlaeth.
6Ond dw i’n dangos cariad di-droi’n-ôl am fil o genedlaethau
at y rhai sy’n fy ngharu i ac yn gwneud beth dw i’n ddweud.
7Paid camddefnyddio enw’r ARGLWYDD dy Dduw.
Fydda i ddim yn gadael i rywun sy’n camddefnyddio fy enw ddianc rhag cael ei gosbi.
8Cofia gadw’r dydd Saboth yn sbesial.
Mae’n ddiwrnod cysegredig, gwahanol i’r lleill.
9Gelli weithio ar y chwe diwrnod arall, a gwneud popeth sydd angen ei wneud.
10Mae’r seithfed diwrnod i’w gadw yn Saboth i’r ARGLWYDD.
Does neb i fod i weithio ar y diwrnod yma –
ti na dy feibion a dy ferched, dy weision na dy forynion chwaith;
dim hyd yn oed dy anifeiliaid nac unrhyw fewnfudwr sy’n aros gyda ti.
11Mewn chwe diwrnod roedd yr ARGLWYDD wedi creu y bydysawd,
y ddaear, y môr a phopeth sydd ynddyn nhw;
wedyn dyma fe’n gorffwys ar y seithfed diwrnod.
Dyna pam wnaeth Duw fendithio’r dydd Saboth,
a’i osod ar wahân, yn ddiwrnod wedi’i gysegru.
12Rhaid i ti barchu dy dad a dy fam,
a byddi’n byw yn hir yn y wlad mae’r ARGLWYDD dy Dduw yn ei rhoi i ti.
13Paid llofruddio.
14Paid godinebu.#20:14 godinebu sef, person priod yn cael rhyw gyda rhywun arall.
15Paid dwyn.
16Paid rhoi tystiolaeth ffals yn erbyn rhywun.
17Paid chwennych#20:17 chwennych sef, awydd cryf i gael rhywbeth. tŷ rhywun arall.
Paid chwennych ei wraig, na’i was, na’i forwyn, na’i darw, na’i asyn,
na dim byd sydd gan rywun arall.”
Yr angen am ganolwr
(Deuteronomium 5:22-33)
18Roedd y bobl wedi dychryn o achos y mellt a’r taranau, sŵn y corn hwrdd,#20:18 corn hwrdd Hebraeg, shoffar. a’r mynydd yn mygu. Roedden nhw’n crynu mewn ofn, ac eisiau cadw ddigon pell i ffwrdd. 19Dyma nhw’n dweud wrth Moses, “Siarad di gyda ni, a gwnawn ni wrando. Paid gadael i Dduw siarad â ni, neu byddwn ni’n marw.” 20Dyma Moses yn ateb, “Peidiwch bod ag ofn. Mae Duw yn eich profi chi, ac eisiau i chi ei barchu e, i chi stopio pechu.” 21Felly dyma’r bobl yn cadw ddigon pell i ffwrdd, tra aeth Moses at y cwmwl trwchus lle roedd Duw.
Sgrôl yr Ymrwymiad
22Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Dwed fel hyn wrth bobl Israel: ‘Dych chi wedi gweld sut dw i wedi siarad â chi o’r nefoedd. 23Rhaid i chi beidio gwneud duwiau eraill o arian ac aur i chi’ch hunain. 24Codwch allor o bridd i mi, ac aberthu defaid, geifr a gwartheg arni – yr offrymau i’w llosgi’n llwyr a’r offrymau i gydnabod daioni’r ARGLWYDD. Ble bynnag fydda i’n cael fy anrhydeddu, bydda i’n dod atoch chi ac yn eich bendithio chi. 25Os codwch allor o gerrig, rhaid iddyn nhw beidio bod yn gerrig sydd wedi’u naddu. Os bydd cŷn wedi’i defnyddio arni, bydd yr allor wedi’i halogi. 26A pheidiwch dringo grisiau i fynd at fy allor, rhag i’ch rhannau preifat gael eu gweld.’”

Dewis Presennol:

Exodus 20: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda