Exodus 20:2-11
Exodus 20:2-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Fi ydy’r ARGLWYDD, eich Duw chi. Fi wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft, lle roeddech chi’n gaethweision. Does dim duwiau eraill i fod gen ti, dim ond fi. Paid cerfio eilun i’w addoli – dim byd sy’n edrych fel unrhyw aderyn, anifail na physgodyn. Paid plygu i lawr a’u haddoli nhw. Dw i, yr ARGLWYDD dy Dduw di, yn Dduw eiddigeddus. Dw i’n cosbi pechodau’r rhieni sy’n fy nghasáu i, ac mae’r canlyniadau’n gadael eu hôl ar y plant am dair i bedair cenhedlaeth. Ond dw i’n dangos cariad di-droi’n-ôl am fil o genedlaethau at y rhai sy’n fy ngharu i ac yn gwneud beth dw i’n ddweud. Paid camddefnyddio enw’r ARGLWYDD dy Dduw. Fydda i ddim yn gadael i rywun sy’n camddefnyddio fy enw ddianc rhag cael ei gosbi. Cofia gadw’r dydd Saboth yn sbesial. Mae’n ddiwrnod cysegredig, gwahanol i’r lleill. Gelli weithio ar y chwe diwrnod arall, a gwneud popeth sydd angen ei wneud. Mae’r seithfed diwrnod i’w gadw yn Saboth i’r ARGLWYDD. Does neb i fod i weithio ar y diwrnod yma – ti na dy feibion a dy ferched, dy weision na dy forynion chwaith; dim hyd yn oed dy anifeiliaid nac unrhyw fewnfudwr sy’n aros gyda ti. Mewn chwe diwrnod roedd yr ARGLWYDD wedi creu y bydysawd, y ddaear, y môr a phopeth sydd ynddyn nhw; wedyn dyma fe’n gorffwys ar y seithfed diwrnod. Dyna pam wnaeth Duw fendithio’r dydd Saboth, a’i osod ar wahân, yn ddiwrnod wedi’i gysegru.
Exodus 20:2-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Myfi yw'r ARGLWYDD dy Dduw, a'th arweiniodd allan o wlad yr Aifft, o dŷ caethiwed. “Na chymer dduwiau eraill ar wahân i mi. “Na wna iti ddelw gerfiedig ar ffurf dim sydd yn y nefoedd uchod na'r ddaear isod nac yn y dŵr dan y ddaear; nac ymgryma iddynt na'u gwasanaethu, oherwydd yr wyf fi, yr ARGLWYDD dy Dduw, yn Dduw eiddigeddus; yr wyf yn cosbi'r plant am ddrygioni'r rhieni hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth o'r rhai sy'n fy nghasáu, ond yn dangos trugaredd i filoedd o'r rhai sy'n fy ngharu ac yn cadw fy ngorchmynion. “Na chymer enw'r ARGLWYDD dy Dduw yn ofer, oherwydd ni fydd yr ARGLWYDD yn ystyried yn ddieuog y sawl sy'n cymryd ei enw'n ofer. “Cofia'r dydd Saboth, i'w gadw'n gysegredig. Chwe diwrnod yr wyt i weithio a gwneud dy holl waith, ond y mae'r seithfed dydd yn Saboth yr ARGLWYDD dy Dduw; na wna ddim gwaith y dydd hwnnw, ti na'th fab, na'th ferch, na'th was, na'th forwyn, na'th anifail, na'r estron sydd o fewn dy byrth; oherwydd mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr ARGLWYDD y nefoedd a'r ddaear, y môr a'r cyfan sydd ynddo; ac ar y seithfed dydd fe orffwysodd; am hynny, bendithiodd yr ARGLWYDD y dydd Saboth a'i gysegru.
Exodus 20:2-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Myfi yw yr ARGLWYDD dy DDUW, yr hwn a’th ddug di allan o wlad yr Aifft, o dŷ y caethiwed. Na fydded i ti dduwiau eraill ger fy mron i. Na wna i ti ddelw gerfiedig, na llun dim a’r y sydd yn y nefoedd uchod, nac a’r y sydd yn y ddaear isod, nac a’r sydd yn y dwfr tan y ddaear. Nac ymgryma iddynt, ac na wasanaetha hwynt: oblegid myfi yr ARGLWYDD dy DDUW, wyf DDUW eiddigus; yn ymweled ag anwiredd y tadau ar y plant, hyd y drydedd a’r bedwaredd genhedlaeth o’r rhai a’m casânt; Ac yn gwneuthur trugaredd i filoedd o’r rhai a’m carant, ac a gadwant fy ngorchmynion. Na chymer enw yr ARGLWYDD dy DDUW yn ofer: canys nid dieuog gan yr ARGLWYDD yr hwn a gymero ei enw ef yn ofer. Cofia y dydd Saboth, i’w sancteiddio ef. Chwe diwrnod y gweithi, ac y gwnei dy holl waith: Ond y seithfed dydd yw Saboth yr ARGLWYDD dy DDUW: na wna ynddo ddim gwaith, tydi, na’th fab, na’th ferch, na’th wasanaethwr, na’th wasanaethferch, na’th anifail, na’th ddieithr ddyn a fyddo o fewn dy byrth: Oherwydd mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr ARGLWYDD y nefoedd a’r ddaear, y môr, a’r hyn oll sydd ynddynt; ac a orffwysodd y seithfed dydd: am hynny y bendithiodd yr ARGLWYDD y dydd Saboth, ac a’i sancteiddiodd ef.