Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Exodus 20:1-26

Exodus 20:1-26 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

A dyma Duw yn dweud fel yma: “Fi ydy’r ARGLWYDD, eich Duw chi. Fi wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft, lle roeddech chi’n gaethweision. Does dim duwiau eraill i fod gen ti, dim ond fi. Paid cerfio eilun i’w addoli – dim byd sy’n edrych fel unrhyw aderyn, anifail na physgodyn. Paid plygu i lawr a’u haddoli nhw. Dw i, yr ARGLWYDD dy Dduw di, yn Dduw eiddigeddus. Dw i’n cosbi pechodau’r rhieni sy’n fy nghasáu i, ac mae’r canlyniadau’n gadael eu hôl ar y plant am dair i bedair cenhedlaeth. Ond dw i’n dangos cariad di-droi’n-ôl am fil o genedlaethau at y rhai sy’n fy ngharu i ac yn gwneud beth dw i’n ddweud. Paid camddefnyddio enw’r ARGLWYDD dy Dduw. Fydda i ddim yn gadael i rywun sy’n camddefnyddio fy enw ddianc rhag cael ei gosbi. Cofia gadw’r dydd Saboth yn sbesial. Mae’n ddiwrnod cysegredig, gwahanol i’r lleill. Gelli weithio ar y chwe diwrnod arall, a gwneud popeth sydd angen ei wneud. Mae’r seithfed diwrnod i’w gadw yn Saboth i’r ARGLWYDD. Does neb i fod i weithio ar y diwrnod yma – ti na dy feibion a dy ferched, dy weision na dy forynion chwaith; dim hyd yn oed dy anifeiliaid nac unrhyw fewnfudwr sy’n aros gyda ti. Mewn chwe diwrnod roedd yr ARGLWYDD wedi creu y bydysawd, y ddaear, y môr a phopeth sydd ynddyn nhw; wedyn dyma fe’n gorffwys ar y seithfed diwrnod. Dyna pam wnaeth Duw fendithio’r dydd Saboth, a’i osod ar wahân, yn ddiwrnod wedi’i gysegru. Rhaid i ti barchu dy dad a dy fam, a byddi’n byw yn hir yn y wlad mae’r ARGLWYDD dy Dduw yn ei rhoi i ti. Paid llofruddio. Paid godinebu. Paid dwyn. Paid rhoi tystiolaeth ffals yn erbyn rhywun. Paid chwennych tŷ rhywun arall. Paid chwennych ei wraig, na’i was, na’i forwyn, na’i darw, na’i asyn, na dim byd sydd gan rywun arall.” Roedd y bobl wedi dychryn o achos y mellt a’r taranau, sŵn y corn hwrdd, a’r mynydd yn mygu. Roedden nhw’n crynu mewn ofn, ac eisiau cadw ddigon pell i ffwrdd. Dyma nhw’n dweud wrth Moses, “Siarad di gyda ni, a gwnawn ni wrando. Paid gadael i Dduw siarad â ni, neu byddwn ni’n marw.” Dyma Moses yn ateb, “Peidiwch bod ag ofn. Mae Duw yn eich profi chi, ac eisiau i chi ei barchu e, i chi stopio pechu.” Felly dyma’r bobl yn cadw ddigon pell i ffwrdd, tra aeth Moses at y cwmwl trwchus lle roedd Duw. Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Dwed fel hyn wrth bobl Israel: ‘Dych chi wedi gweld sut dw i wedi siarad â chi o’r nefoedd. Rhaid i chi beidio gwneud duwiau eraill o arian ac aur i chi’ch hunain. Codwch allor o bridd i mi, ac aberthu defaid, geifr a gwartheg arni – yr offrymau i’w llosgi’n llwyr a’r offrymau i gydnabod daioni’r ARGLWYDD. Ble bynnag fydda i’n cael fy anrhydeddu, bydda i’n dod atoch chi ac yn eich bendithio chi. Os codwch allor o gerrig, rhaid iddyn nhw beidio bod yn gerrig sydd wedi’u naddu. Os bydd cŷn wedi’i defnyddio arni, bydd yr allor wedi’i halogi. A pheidiwch dringo grisiau i fynd at fy allor, rhag i’ch rhannau preifat gael eu gweld.’”

Exodus 20:1-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Llefarodd Duw yr holl eiriau hyn, a dweud: “Myfi yw'r ARGLWYDD dy Dduw, a'th arweiniodd allan o wlad yr Aifft, o dŷ caethiwed. “Na chymer dduwiau eraill ar wahân i mi. “Na wna iti ddelw gerfiedig ar ffurf dim sydd yn y nefoedd uchod na'r ddaear isod nac yn y dŵr dan y ddaear; nac ymgryma iddynt na'u gwasanaethu, oherwydd yr wyf fi, yr ARGLWYDD dy Dduw, yn Dduw eiddigeddus; yr wyf yn cosbi'r plant am ddrygioni'r rhieni hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth o'r rhai sy'n fy nghasáu, ond yn dangos trugaredd i filoedd o'r rhai sy'n fy ngharu ac yn cadw fy ngorchmynion. “Na chymer enw'r ARGLWYDD dy Dduw yn ofer, oherwydd ni fydd yr ARGLWYDD yn ystyried yn ddieuog y sawl sy'n cymryd ei enw'n ofer. “Cofia'r dydd Saboth, i'w gadw'n gysegredig. Chwe diwrnod yr wyt i weithio a gwneud dy holl waith, ond y mae'r seithfed dydd yn Saboth yr ARGLWYDD dy Dduw; na wna ddim gwaith y dydd hwnnw, ti na'th fab, na'th ferch, na'th was, na'th forwyn, na'th anifail, na'r estron sydd o fewn dy byrth; oherwydd mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr ARGLWYDD y nefoedd a'r ddaear, y môr a'r cyfan sydd ynddo; ac ar y seithfed dydd fe orffwysodd; am hynny, bendithiodd yr ARGLWYDD y dydd Saboth a'i gysegru. “Anrhydedda dy dad a'th fam, er mwyn amlhau dy ddyddiau yn y wlad y mae'r ARGLWYDD yn ei rhoi iti. “Na ladd. “Na odineba. “Na ladrata. “Na ddwg gamdystiolaeth yn erbyn dy gymydog. “Na chwennych dŷ dy gymydog, na'i wraig, na'i was, na'i forwyn, na'i ych, na'i asyn, na dim sy'n eiddo i'th gymydog.” Pan welodd yr holl bobl y taranau a'r mellt, yr utgorn yn seinio a'r mynydd yn mygu, safasant o hirbell mewn petruster, a dweud wrth Moses, “Llefara di wrthym, ac fe wrandawn; ond paid â gadael i Dduw lefaru wrthym, rhag inni farw.” Dywedodd Moses wrthynt, “Peidiwch ag ofni, oherwydd fe ddaeth Duw i'ch profi, er mwyn ichwi ddal i'w barchu ef, a pheidio â phechu.” Safodd y bobl o bell, ond nesaodd Moses at y tywyllwch lle'r oedd Duw. Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Fel hyn y dywedi wrth bobl Israel: ‘Gwelsoch i mi lefaru wrthych o'r nefoedd. Peidiwch â gwneud duwiau o arian nac o aur i'w haddoli gyda mi. Gwna imi allor o bridd, ac abertha arni dy boethoffrymau a'th heddoffrymau, dy ddefaid a'th ychen; yna mi ddof atat i'th fendithio ym mha le bynnag y coffeir fy enw. Ond os gwnei imi allor o gerrig, paid â'i gwneud o gerrig nadd; oherwydd wrth iti ei thrin â'th forthwyl, yr wyt yn ei halogi. Hefyd, paid â mynd i fyny i'm hallor ar risiau, rhag iti amlygu dy noethni.’

Exodus 20:1-26 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A DUW a lefarodd yr holl eiriau hyn, gan ddywedyd, Myfi yw yr ARGLWYDD dy DDUW, yr hwn a’th ddug di allan o wlad yr Aifft, o dŷ y caethiwed. Na fydded i ti dduwiau eraill ger fy mron i. Na wna i ti ddelw gerfiedig, na llun dim a’r y sydd yn y nefoedd uchod, nac a’r y sydd yn y ddaear isod, nac a’r sydd yn y dwfr tan y ddaear. Nac ymgryma iddynt, ac na wasanaetha hwynt: oblegid myfi yr ARGLWYDD dy DDUW, wyf DDUW eiddigus; yn ymweled ag anwiredd y tadau ar y plant, hyd y drydedd a’r bedwaredd genhedlaeth o’r rhai a’m casânt; Ac yn gwneuthur trugaredd i filoedd o’r rhai a’m carant, ac a gadwant fy ngorchmynion. Na chymer enw yr ARGLWYDD dy DDUW yn ofer: canys nid dieuog gan yr ARGLWYDD yr hwn a gymero ei enw ef yn ofer. Cofia y dydd Saboth, i’w sancteiddio ef. Chwe diwrnod y gweithi, ac y gwnei dy holl waith: Ond y seithfed dydd yw Saboth yr ARGLWYDD dy DDUW: na wna ynddo ddim gwaith, tydi, na’th fab, na’th ferch, na’th wasanaethwr, na’th wasanaethferch, na’th anifail, na’th ddieithr ddyn a fyddo o fewn dy byrth: Oherwydd mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr ARGLWYDD y nefoedd a’r ddaear, y môr, a’r hyn oll sydd ynddynt; ac a orffwysodd y seithfed dydd: am hynny y bendithiodd yr ARGLWYDD y dydd Saboth, ac a’i sancteiddiodd ef. Anrhydedda dy dad a’th fam; fel yr estynner dy ddyddiau ar y ddaear, yr hon y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei rhoddi i ti. Na ladd. Na wna odineb. Na ladrata. Na ddwg gam dystiolaeth yn erbyn dy gymydog. Na chwennych dŷ dy gymydog, na chwennych wraig dy gymydog, na’i wasanaethwr, na’i wasanaethferch, na’i ych, na’i asyn, na dim a’r sydd eiddo dy gymydog. A’r holl bobl a welsant y taranau, a’r mellt, a sain yr utgorn, a’r mynydd yn mygu: a phan welodd y bobl, ciliasant, a safasant o hirbell. A dywedasant wrth Moses, Llefara di wrthym ni, a nyni a wrandawn: ond na lefared DUW wrthym, rhag i ni farw. A dywedodd Moses wrth y bobl, Nac ofnwch; oherwydd i’ch profi chwi y daeth DUW, ac i fod ei ofn ef ger eich bronnau, fel na phechech. A safodd y bobl o hirbell; a nesaodd Moses i’r tywyllwch, lle yr ydoedd DUW. A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Moses, Fel hyn y dywedi wrth feibion Israel; Chwi a welsoch mai o’r nefoedd y lleferais wrthych. Na wnewch gyda mi dduwiau arian, ac na wnewch i chwi dduwiau aur. Gwna i mi allor bridd, ac abertha arni dy boethebyrth a’th offrymau hedd, dy ddefaid, a’th eidionau: ym mhob man lle y rhoddwyf goffadwriaeth o’m henw, y deuaf atat, ac y’th fendithiaf. Ond os gwnei i mi allor gerrig, na wna hi o gerrig nadd: pan gotech dy forthwyl arni, ti a’i halogaist hi. Ac na ddos i fyny ar hyd grisiau i’m hallor; fel nad amlyger dy noethni wrthi.