Esther 8:15-17
Esther 8:15-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan aeth Mordecai allan oddi wrth y brenin, roedd wedi’i arwisgo mewn dillad brenhinol o borffor a gwyn. Roedd twrban euraid mawr ar ei ben, a mantell o liain main porffor ar ei ysgwyddau. Roedd pawb yn Shwshan yn dathlu, ac roedd yr Iddewon wrth eu boddau ac yn cael eu parchu gan bawb. Yn y taleithiau a’r trefi i gyd lle roedd gorchymyn y brenin wedi’i gyhoeddi, roedd yr Iddewon wedi cymryd gwyliau i ddathlu a gwledda. Ac roedd llawer o bobl eraill yn honni eu bod wedi troi’n Iddewon, am fod ganddyn nhw gymaint o ofn beth fyddai’r Iddewon yn ei wneud iddyn nhw.
Esther 8:15-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna aeth Mordecai allan o ŵydd y brenin mewn gwisg frenhinol o las a gwyn, a chyda choron fawr o aur, a mantell o liain main a phorffor; ac yr oedd dinas Susan yn orfoleddus. Daeth goleuni, llawenydd, hapusrwydd ac anrhydedd i ran yr Iddewon. Ym mhob talaith a dinas lle daeth gair a gorchymyn y brenin, yr oedd yr Iddewon yn gwledda ac yn cadw gŵyl yn llawen a hapus. Ac yr oedd llawer o bobl y wlad yn honni mai Iddewon oeddent, am fod arnynt ofn yr Iddewon.
Esther 8:15-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A Mordecai a aeth allan o ŵydd y brenin mewn brenhinol wisg o ruddgoch a gwyn, ac â choron fawr o aur, ac mewn dillad sidan a phorffor; a dinas Susan a orfoleddodd ac a lawenychodd: I’r Iddewon yr oedd goleuni, a llawenydd, a hyfrydwch, ac anrhydedd. Ac ym mhob talaith, ac ym mhob dinas, lle y daeth gair y brenin a’i orchymyn, yr oedd llawenydd a hyfrydwch gan yr Iddewon, gwledd hefyd a diwrnod daionus: a llawer o bobl y wlad a aethant yn Iddewon; oblegid arswyd yr Iddewon a syrthiasai arnynt hwy.