A Mordecai a aeth allan o ŵydd y brenin mewn brenhinol wisg o ruddgoch a gwyn, ac â choron fawr o aur, ac mewn dillad sidan a phorffor; a dinas Susan a orfoleddodd ac a lawenychodd: I’r Iddewon yr oedd goleuni, a llawenydd, a hyfrydwch, ac anrhydedd. Ac ym mhob talaith, ac ym mhob dinas, lle y daeth gair y brenin a’i orchymyn, yr oedd llawenydd a hyfrydwch gan yr Iddewon, gwledd hefyd a diwrnod daionus: a llawer o bobl y wlad a aethant yn Iddewon; oblegid arswyd yr Iddewon a syrthiasai arnynt hwy.
Darllen Esther 8
Gwranda ar Esther 8
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Esther 8:15-17
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos