Effesiaid 5:25-32
Effesiaid 5:25-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Chwi wŷr, carwch eich gwragedd, fel y carodd Crist yntau'r eglwys a'i roi ei hun drosti, i'w sancteiddio a'i glanhau â'r golchiad dŵr a'r gair, er mwyn iddo ef ei hun ei chyflwyno iddo'i hun yn ei llawn ogoniant, heb fod arni frycheuyn na chrychni na dim byd o'r fath, iddi fod yn sanctaidd a di-fai. Yn yr un modd, dylai'r gwŷr garu eu gwragedd fel eu cyrff eu hunain. Y mae'r gŵr sy'n caru ei wraig yn ei garu ei hun. Ni chasaodd neb erioed ei gnawd ei hun; yn hytrach y mae'n ei feithrin a'i ymgeleddu. Felly y gwna Crist hefyd â'r eglwys; oherwydd yr ydym ni'n aelodau o'i gorff ef. Yng ngeiriau'r Ysgrythur: “Dyna pam y bydd dyn yn gadael ei dad a'i fam ac yn glynu wrth ei wraig; a bydd y ddau yn un cnawd.” Y mae'r dirgelwch hwn yn fawr. Cyfeirio yr wyf at Grist ac at yr eglwys.
Effesiaid 5:25-32 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Chi’r gwŷr, dylech garu eich gwragedd yn union fel mae’r Meseia wedi caru’r eglwys. Rhoddodd ei fywyd yn aberth drosti, i’w chysegru hi a’i gwneud yn lân. Mae dŵr y bedydd yn arwydd o’r golchi sy’n digwydd drwy’r neges sy’n cael ei chyhoeddi. Mae’r Meseia am gymryd yr eglwys iddo’i hun fel priodferch hardd – heb smotyn na chrychni na dim arall o’i le arni – yn berffaith lân a di-fai. Dyna sut ddylai gwŷr garu eu gwragedd – fel eu cyrff eu hunain! Mae’r gŵr sy’n caru ei wraig yn ei garu ei hun! Dydy pobl ddim yn casáu eu cyrff eu hunain – maen nhw’n eu bwydo nhw a gofalu amdanyn nhw. A dyna sut mae’r Meseia yn gofalu am yr eglwys, gan ein bod ni’n wahanol rannau o’i gorff e. Mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud y peth fel hyn: “bydd dyn yn gadael ei dad a’i fam ac yn cael ei uno â’i wraig, a bydd y ddau yn dod yn un.” Mae rhyw wirionedd mawr yn guddiedig yma – sôn ydw i am berthynas y Meseia a’i eglwys.
Effesiaid 5:25-32 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Y gwŷr, cerwch eich gwragedd, megis ag y carodd Crist yr eglwys, ac a’i rhoddes ei hun drosti; Fel y sancteiddiai efe hi, a’i glanhau â’r olchfa ddwfr trwy y gair; Fel y gosodai efe hi yn ogoneddus iddo ei hun, yn eglwys heb arni na brycheuyn na chrychni, na dim o’r cyfryw; ond fel y byddai yn sanctaidd ac yn ddifeius. Felly y dylai’r gwŷr garu eu gwragedd, megis eu cyrff eu hunain. Yr hwn a garo ei wraig, sydd yn ei garu ei hun. Canys ni chasaodd neb erioed ei gnawd ei hun; eithr ei fagu a’i feithrin y mae, megis ag y mae’r Arglwydd am yr eglwys: Oblegid aelodau ydym o’i gorff ef, o’i gnawd ef, ac o’i esgyrn ef. Am hynny y gad dyn ei dad a’i fam, ac y glŷn wrth ei wraig, a hwy a fyddant ill dau yn un cnawd. Y dirgelwch hwn sydd fawr: eithr am Grist ac am yr eglwys yr wyf fi yn dywedyd.