Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Effesiaid 5

5
1Byddwch gan hynny ddilynwyr Duw, fel plant annwyl; 2A rhodiwch mewn cariad, megis y carodd Crist ninnau, ac a’i rhoddodd ei hun drosom ni, yn offrwm ac yn aberth i Dduw o arogl peraidd. 3Eithr godineb, a phob aflendid, neu gybydd-dra, nac enwer chwaith yn eich plith, megis y gweddai i saint; 4Na serthedd, nac ymadrodd ffôl, na choeg ddigrifwch, pethau nid ydynt weddus: eithr yn hytrach rhoddi diolch. 5Canys yr ydych chwi yn gwybod hyn, am bob puteiniwr, neu aflan, neu gybydd, yr hwn sydd ddelw-addolwr, nad oes iddynt etifeddiaeth yn nheyrnas Crist a Duw. 6Na thwylled neb chwi â geiriau ofer: canys oblegid y pethau hyn y mae digofaint Duw yn dyfod ar blant yr anufudd-dod. 7Na fyddwch gan hynny gyfranogion â hwynt. 8Canys yr oeddech chwi gynt yn dywyllwch, ond yr awron goleuni ydych yn yr Arglwydd: rhodiwch fel plant y goleuni; 9(Canys ffrwyth yr Ysbryd sydd ym mhob daioni, a chyfiawnder, a gwirionedd;) 10Gan brofi beth sydd gymeradwy gan yr Arglwydd. 11Ac na fydded i chwi gydgyfeillach â gweithredoedd anffrwythlon y tywyllwch, eithr yn hytrach argyhoeddwch hwynt. 12Canys brwnt yw adrodd y pethau a wneir ganddynt hwy yn ddirgel. 13Eithr pob peth, wedi yr argyhoedder, a eglurir gan y goleuni: canys beth bynnag sydd yn egluro, goleuni yw. 14Oherwydd paham y mae efe yn dywedyd, Deffro di yr hwn wyt yn cysgu, a chyfod oddi wrth y meirw; a Christ a oleua i ti. 15Gwelwch gan hynny pa fodd y rhodioch yn ddiesgeulus, nid fel annoethion, ond fel doethion; 16Gan brynu’r amser, oblegid y dyddiau sydd ddrwg. 17Am hynny na fyddwch annoethion, eithr yn deall beth yw ewyllys yr Arglwydd. 18Ac na feddwer chwi gan win, yn yr hyn y mae gormodedd; eithr llanwer chwi â’r Ysbryd; 19Gan lefaru wrth eich gilydd mewn salmau, a hymnau, ac odlau ysbrydol; gan ganu a phyncio yn eich calon i’r Arglwydd; 20Gan ddiolch yn wastad i Dduw a’r Tad am bob peth, yn enw ein Harglwydd Iesu Grist; 21Gan ymddarostwng i’ch gilydd yn ofn Duw. 22Y gwragedd, ymostyngwch i’ch gwŷr priod, megis i’r Arglwydd. 23Oblegid y gŵr yw pen y wraig, megis ag y mae Crist yn ben i’r eglwys; ac efe yw Iachawdwr y corff. 24Ond fel y mae’r eglwys yn ddarostyngedig i Grist, felly hefyd bydded y gwragedd i’w gwŷr priod ym mhob peth. 25Y gwŷr, cerwch eich gwragedd, megis ag y carodd Crist yr eglwys, ac a’i rhoddes ei hun drosti; 26Fel y sancteiddiai efe hi, a’i glanhau â’r olchfa ddwfr trwy y gair; 27Fel y gosodai efe hi yn ogoneddus iddo ei hun, yn eglwys heb arni na brycheuyn na chrychni, na dim o’r cyfryw; ond fel y byddai yn sanctaidd ac yn ddifeius. 28Felly y dylai’r gwŷr garu eu gwragedd, megis eu cyrff eu hunain. Yr hwn a garo ei wraig, sydd yn ei garu ei hun. 29Canys ni chasaodd neb erioed ei gnawd ei hun; eithr ei fagu a’i feithrin y mae, megis ag y mae’r Arglwydd am yr eglwys: 30Oblegid aelodau ydym o’i gorff ef, o’i gnawd ef, ac o’i esgyrn ef. 31Am hynny y gad dyn ei dad a’i fam, ac y glŷn wrth ei wraig, a hwy a fyddant ill dau yn un cnawd. 32Y dirgelwch hwn sydd fawr: eithr am Grist ac am yr eglwys yr wyf fi yn dywedyd. 33Ond chwithau hefyd cymain un, felly cared pob un ohonoch ei wraig, fel ef ei hunan; a’r wraig edryched ar iddi berchi ei gŵr.

Dewis Presennol:

Effesiaid 5: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd