Effesiaid 2:11-22
Effesiaid 2:11-22 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Mae’n dda i chi gofio eich bod chi sydd o genhedloedd eraill yn arfer bod ‘ar y tu allan’. ‘Y dienwaediad’ oeddech chi’n cael eich galw gan ‘bobl yr enwaediad’ – sef yr Iddewon sy’n cadw’r ddefod o dorri’r blaengroen ar fechgyn i ddangos eu bod nhw’n perthyn i Dduw. Cofiwch eich bod chi bryd hynny yn gwybod dim am y Meseia. Doeddech chi ddim yn perthyn i bobl Dduw, nac yn gwybod dim am yr addewid a’r ymrwymiad wnaeth Duw. Roeddech chi’n byw yn y byd heb unrhyw obaith a heb berthynas gyda Duw. Ond bellach, dych chi wedi cael eich uno gyda’r Meseia Iesu! Dych chi, oedd mor bell i ffwrdd ar un adeg, wedi cael dod i berthyn, a hynny am fod y Meseia wedi gwaedu a marw ar y groes. Ac ydy, mae Iesu’n gwneud y berthynas rhyngon ni a’n gilydd yn iawn hefyd – ni’r Iddewon a chi sydd o genhedloedd eraill. Mae wedi’n huno ni gyda’n gilydd. Mae’r wal o gasineb oedd yn ein gwahanu ni wedi cael ei chwalu ganddo! Wrth farw ar y groes mae wedi delio gyda’r ffens oedd yn eich cau chi allan, sef holl ofynion y Gyfraith Iddewig a’i rheolau. Gwnaeth hyn er mwyn dod â ni i berthynas iawn â’n gilydd, a chreu un ddynoliaeth newydd allan o’r ddau grŵp o bobl. Mae’r ddau yn dod yn un corff sy’n cael ei gymodi gyda Duw drwy beth wnaeth e ar y groes. Dyna sut daeth â’r casineb rhyngon ni i ben. Daeth i gyhoeddi’r newyddion da am heddwch i chi o genhedloedd eraill oedd yn ‘bell oddi wrtho’, a heddwch i ni’r Iddewon oedd yn ‘agos’. Bellach, o achos beth wnaeth Iesu y Meseia mae’r ddau grŵp gyda’i gilydd yn gallu closio at Dduw y Tad drwy’r un Ysbryd Glân. Felly dych chi o’r cenhedloedd eraill ddim yn bobl estron mwyach, nac yn bobl sydd ‘y tu allan’. Dych chi bellach yn perthyn i genedl Dduw! Dych chi’n aelodau o’i deulu! Dych chi’n rhan o’r un adeilad! Dŷn ni’r cynrychiolwyr personol ddewisodd e, a’r proffwydi, wedi gosod y sylfeini, a’r Meseia Iesu ei hun ydy’r maen clo. Dŷn ni i gyd yn cael ein hadeiladu a’n cysylltu â’n gilydd i wneud teml sydd wedi’i chysegru i’r Arglwydd. A dych chi, y bobl o genhedloedd eraill sy’n perthyn iddo, yn rhan o’r un adeilad hwnnw lle mae Duw yn byw drwy ei Ysbryd.
Effesiaid 2:11-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gan hynny, chwi oedd gynt yn Genhedloedd o ran y cnawd, chwi sydd yn cael eich galw yn ddienwaededig gan y rhai a elwir yn enwaededig (ar gyfrif gwaith dwylo dynol ar y cnawd), chwi, meddaf, cofiwch eich bod yr amser hwnnw heb Grist, yn ddieithriaid i ddinasyddiaeth Israel, yn estroniaid i'r cyfamodau a'u haddewid, heb obaith a heb Dduw yn y byd. Ond yn awr, yng Nghrist Iesu, yr ydych chwi, a fu unwaith ymhell, wedi eich dwyn yn agos trwy waed Crist. Oherwydd ef yw ein heddwch ni. Gwnaeth y ddau, yr Iddewon a'r Cenhedloedd, yn un, wedi chwalu trwy ei gnawd ei hun y canolfur o elyniaeth oedd yn eu gwahanu. Dirymodd y Gyfraith, a'i gorchmynion a'i hordeiniadau. Ac felly, i wneud heddwch, creodd o'r ddau un ddynoliaeth newydd ynddo ef ei hun, er mwyn cymodi'r ddau â Duw, mewn un corff, trwy'r groes; trwyddi hi fe laddodd yr elyniaeth. Fe ddaeth, a phregethu heddwch i chwi y rhai pell, a heddwch hefyd i'r rhai agos. Oherwydd trwyddo ef y mae gennym ni ein dau ffordd i ddod, mewn un Ysbryd, at y Tad. Felly, nid estroniaid a dieithriaid ydych mwyach, ond cyd-ddinasyddion â'r saint ac aelodau o deulu Duw. Yr ydych wedi eich adeiladu ar sylfaen yr apostolion a'r proffwydi, a'r conglfaen yw Crist Iesu ei hun. Ynddo ef y mae pob rhan a adeiledir yn cyd-gloi yn ei gilydd ac yn codi'n deml sanctaidd yn yr Arglwydd. Ynddo ef yr ydych chwithau hefyd yn cael eich cydadeiladu i fod yn breswylfod i Dduw yn yr Ysbryd.
Effesiaid 2:11-22 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Am hynny cofiwch, a chwi gynt yn Genhedloedd yn y cnawd, y rhai a elwid yn ddienwaediad, gan yr hyn a elwir enwaediad o waith llaw yn y cnawd; Eich bod chwi y pryd hwnnw heb Grist, wedi eich dieithrio oddi wrth wladwriaeth Israel, ac yn estroniaid oddi wrth amodau’r addewid, heb obaith gennych, ac heb Dduw yn y byd: Eithr yr awron yng Nghrist Iesu, chwychwi, y rhai oeddech gynt ymhell, a wnaethpwyd yn agos trwy waed Crist. Canys efe yw ein tangnefedd ni, yr hwn a wnaeth y ddau yn un, ac a ddatododd ganolfur y gwahaniaeth rhyngom ni: Ac a ddirymodd trwy ei gnawd ei hun y gelyniaeth, sef deddf y gorchmynion mewn ordeiniadau, fel y creai’r ddau ynddo’i hun yn un dyn newydd, gan wneuthur heddwch; Ac fel y cymodai’r ddau â Duw yn un corff trwy’r groes, wedi lladd y gelyniaeth trwyddi hi. Ac efe a ddaeth, ac a bregethodd dangnefedd i chwi’r rhai pell, ac i’r rhai agos. Oblegid trwyddo ef y mae i ni ein dau ddyfodfa mewn un Ysbryd at y Tad. Weithian gan hynny nid ydych chwi mwyach yn ddieithriaid a dyfodiaid, ond yn gyd-ddinasyddion â’r saint, ac yn deulu Duw; Wedi eich goruwchadeiladu ar sail yr apostolion a’r proffwydi, ac Iesu Grist ei hun yn benconglfaen; Yn yr hwn y mae’r holl adeilad wedi ei chymwys gydgysylltu, yn cynyddu’n deml sanctaidd yn yr Arglwydd: Yn yr hwn y’ch cydadeiladwyd chwithau yn breswylfod i Dduw trwy’r Ysbryd.