Am hynny cofiwch, a chwi gynt yn Genhedloedd yn y cnawd, y rhai a elwid yn ddienwaediad, gan yr hyn a elwir enwaediad o waith llaw yn y cnawd; Eich bod chwi y pryd hwnnw heb Grist, wedi eich dieithrio oddi wrth wladwriaeth Israel, ac yn estroniaid oddi wrth amodau’r addewid, heb obaith gennych, ac heb Dduw yn y byd: Eithr yr awron yng Nghrist Iesu, chwychwi, y rhai oeddech gynt ymhell, a wnaethpwyd yn agos trwy waed Crist. Canys efe yw ein tangnefedd ni, yr hwn a wnaeth y ddau yn un, ac a ddatododd ganolfur y gwahaniaeth rhyngom ni: Ac a ddirymodd trwy ei gnawd ei hun y gelyniaeth, sef deddf y gorchmynion mewn ordeiniadau, fel y creai’r ddau ynddo’i hun yn un dyn newydd, gan wneuthur heddwch; Ac fel y cymodai’r ddau â Duw yn un corff trwy’r groes, wedi lladd y gelyniaeth trwyddi hi. Ac efe a ddaeth, ac a bregethodd dangnefedd i chwi’r rhai pell, ac i’r rhai agos. Oblegid trwyddo ef y mae i ni ein dau ddyfodfa mewn un Ysbryd at y Tad. Weithian gan hynny nid ydych chwi mwyach yn ddieithriaid a dyfodiaid, ond yn gyd-ddinasyddion â’r saint, ac yn deulu Duw; Wedi eich goruwchadeiladu ar sail yr apostolion a’r proffwydi, ac Iesu Grist ei hun yn benconglfaen; Yn yr hwn y mae’r holl adeilad wedi ei chymwys gydgysylltu, yn cynyddu’n deml sanctaidd yn yr Arglwydd: Yn yr hwn y’ch cydadeiladwyd chwithau yn breswylfod i Dduw trwy’r Ysbryd.
Darllen Effesiaid 2
Gwranda ar Effesiaid 2
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Effesiaid 2:11-22
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos