Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Effesiaid 2:11-22

Effesiaid 2:11-22 BNET

Mae’n dda i chi gofio eich bod chi sydd o genhedloedd eraill yn arfer bod ‘ar y tu allan’. ‘Y dienwaediad’ oeddech chi’n cael eich galw gan ‘bobl yr enwaediad’ – sef yr Iddewon sy’n cadw’r ddefod o dorri’r blaengroen ar fechgyn i ddangos eu bod nhw’n perthyn i Dduw. Cofiwch eich bod chi bryd hynny yn gwybod dim am y Meseia. Doeddech chi ddim yn perthyn i bobl Dduw, nac yn gwybod dim am yr addewid a’r ymrwymiad wnaeth Duw. Roeddech chi’n byw yn y byd heb unrhyw obaith a heb berthynas gyda Duw. Ond bellach, dych chi wedi cael eich uno gyda’r Meseia Iesu! Dych chi, oedd mor bell i ffwrdd ar un adeg, wedi cael dod i berthyn, a hynny am fod y Meseia wedi gwaedu a marw ar y groes. Ac ydy, mae Iesu’n gwneud y berthynas rhyngon ni a’n gilydd yn iawn hefyd – ni’r Iddewon a chi sydd o genhedloedd eraill. Mae wedi’n huno ni gyda’n gilydd. Mae’r wal o gasineb oedd yn ein gwahanu ni wedi cael ei chwalu ganddo! Wrth farw ar y groes mae wedi delio gyda’r ffens oedd yn eich cau chi allan, sef holl ofynion y Gyfraith Iddewig a’i rheolau. Gwnaeth hyn er mwyn dod â ni i berthynas iawn â’n gilydd, a chreu un ddynoliaeth newydd allan o’r ddau grŵp o bobl. Mae’r ddau yn dod yn un corff sy’n cael ei gymodi gyda Duw drwy beth wnaeth e ar y groes. Dyna sut daeth â’r casineb rhyngon ni i ben. Daeth i gyhoeddi’r newyddion da am heddwch i chi o genhedloedd eraill oedd yn ‘bell oddi wrtho’, a heddwch i ni’r Iddewon oedd yn ‘agos’. Bellach, o achos beth wnaeth Iesu y Meseia mae’r ddau grŵp gyda’i gilydd yn gallu closio at Dduw y Tad drwy’r un Ysbryd Glân. Felly dych chi o’r cenhedloedd eraill ddim yn bobl estron mwyach, nac yn bobl sydd ‘y tu allan’. Dych chi bellach yn perthyn i genedl Dduw! Dych chi’n aelodau o’i deulu! Dych chi’n rhan o’r un adeilad! Dŷn ni’r cynrychiolwyr personol ddewisodd e, a’r proffwydi, wedi gosod y sylfeini, a’r Meseia Iesu ei hun ydy’r maen clo. Dŷn ni i gyd yn cael ein hadeiladu a’n cysylltu â’n gilydd i wneud teml sydd wedi’i chysegru i’r Arglwydd. A dych chi, y bobl o genhedloedd eraill sy’n perthyn iddo, yn rhan o’r un adeilad hwnnw lle mae Duw yn byw drwy ei Ysbryd.