Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Pregethwr 4:1-16

Pregethwr 4:1-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dyma fi’n ystyried yr holl orthrwm sy’n digwydd yn y byd. Gwelais ddagrau’r rhai sy’n cael eu gorthrymu, ond doedd neb yn eu cysuro nhw. Doedd neb i’w hachub nhw o afael y gorthrymwyr. Roedd rhaid i mi longyfarch y rhai oedd eisoes wedi marw, am eu bod yn well eu byd na’r rhai sy’n dal yn fyw. Ond mae’n well fyth ar y rhai hynny sydd ddim wedi cael eu geni, a ddim yn gorfod edrych ar yr holl ddrygioni sy’n digwydd yn y byd! Yna dyma fi’n ystyried holl waith caled a thalentau pobl. Dydy hynny i gyd yn ddim byd ond cystadleuaeth rhwng pobl a’i gilydd! Does dim sens yn y peth! Mae fel ceisio rheoli’r gwynt! “Mae’r ffŵl yn plethu ei freichiau ac yn gwastraffu ei fywyd,” Ac eto, “Mae un llond llaw gyda gorffwys yn well na dau lond llaw o ganlyniad i orweithio.” Ydy, mae fel ceisio rheoli’r gwynt! Yna dyma fi’n ystyried rhywbeth arall sy’n gwneud dim sens o gwbl: Rhywun sydd ar ei ben ei hun yn llwyr – heb gymar na phlant na pherthnasau – ac eto’n gweithio’n ddi-stop, a byth yn fodlon gyda beth sydd ganddo. “Pam dw i’n gwneud hyn, ac amddifadu fy hun o fwynhad?” meddai. Dydy peth felly yn gwneud dim sens! Mae’n drist iawn. “Mae dau gyda’i gilydd yn well nag un.” Wrth weithio gyda’i gilydd mae’r ddau berson ar eu hennill. Os bydd un yn syrthio, bydd y llall yn gallu ei helpu i godi. Ond druan o’r person sydd ar ei ben ei hun, heb neb i’w helpu i godi. Hefyd, “Os ydy dau yn gorwedd gyda’i gilydd, maen nhw’n cadw’n gynnes.” Ond sut mae rhywun i fod i gadw’n gynnes pan fydd ar ei ben ei hun? “Pan fydd rhywun yn ymosod, mae dau yn fwy tebygol o’i rwystro nag un.” “Dydy rhaff deircainc ddim yn hawdd i’w thorri!” “Mae bachgen ifanc doeth o gefndir tlawd yn well na brenin mewn oed sy’n ffôl ac yn gwrthod derbyn cyngor.” Hyd yn oed os oedd e’n y carchar cyn dod i reoli, ac wedi’i eni’n dlawd yn y wlad y byddai’n teyrnasu arni. Yna dyma fi’n gweld yr holl bobl sy’n byw yn y byd yn sefyll o gwmpas bachgen ifanc arall fyddai’n ei olynu. Doedd dim posib cyfri’r holl bobl roedd yn eu harwain! Ac eto fydd y cenedlaethau i ddod ddim yn gwerthfawrogi hwnnw. Dydy hyn chwaith yn gwneud dim sens – mae fel ceisio rheoli’r gwynt.

Pregethwr 4:1-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Unwaith eto ystyriais yr holl orthrymderau sy'n digwydd dan yr haul. Gwelais ddagrau y rhai a orthrymwyd, ac nid oedd neb i'w cysuro; yr oedd nerth o blaid eu gorthrymwyr, ac nid oedd neb i'w cysuro. Yna deuthum i'r casgliad ei bod yn well ar y rhai sydd eisoes wedi marw na'r rhai sy'n dal yn fyw. Ond gwell na'r ddau yw'r rhai sydd eto heb eu geni, ac sydd heb weld y drwg a wneir dan yr haul. Hefyd sylwais ar yr holl lafur a medr mewn gwaith, ei fod yn codi o genfigen rhwng rhywun a'i gymydog. Y mae hyn hefyd yn wagedd ac yn ymlid gwynt. Y mae'r ffôl yn plethu ei ddwylo, ac yn ei ddifa'i hun. Gwell yw llond un llaw mewn llonyddwch na llond dwy law mewn gofid ac ymlid gwynt. Unwaith eto gwelais y gwagedd sydd dan yr haul: rhywun unig heb fod ganddo na chyfaill, na mab na brawd; nid oes diwedd ar ei holl lafur, eto nid yw cyfoeth yn rhoi boddhad iddo. Nid yw'n gofyn, “I bwy yr wyf yn llafurio, ac yn fy amddifadu fy hun o bleser?” Y mae hyn hefyd yn wagedd ac yn orchwyl diflas. Y mae dau yn well nag un, oherwydd y maent yn cael tâl da am eu llafur; os bydd y naill yn syrthio, y mae'r llall yn gallu ei godi, ond gwae'r un sydd ar ei ben ei hun; pan yw'n syrthio, nid oes ganddo neb i'w godi. Hefyd os bydd dau yn gorwedd gyda'i gilydd, y mae'r naill yn cadw'r llall yn gynnes; ond sut y gall un gadw'n gynnes ar ei ben ei hun? Er y gellir trechu un, y mae dau yn gallu gwrthsefyll. Ni ellir torri rhaff deircainc ar frys. Y mae bachgen tlawd, ond doeth, yn well na brenin hen a ffôl, nad yw bellach yn gwybod sut i dderbyn cyngor. Yn wir, gall un ddod allan o garchar i fod yn frenin, er iddo gael ei eni'n dlawd yn ei deyrnas. Gwelais bawb oedd yn byw ac yn rhodio dan yr haul yn dilyn y bachgen oedd yn lle'r brenin. Nid oedd terfyn ar yr holl bobl, ac yr oedd ef yn ben arnynt i gyd; ond nid oedd y rhai a ddaeth ar ei ôl yn ymhyfrydu ynddo. Yn wir, y mae hyn hefyd yn wagedd ac yn ymlid gwynt.

Pregethwr 4:1-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Felly mi a ddychwelais, ac a edrychais ar yr holl orthrymderau sydd dan yr haul: ac wele ddagrau y rhai gorthrymedig heb neb i’w cysuro; ac ar law eu treiswyr yr oedd gallu, a hwythau heb neb i’w cysuro. A mi a ganmolais y meirw y rhai sydd yn barod wedi marw, yn fwy na’r byw y rhai sydd yn fyw eto. Gwell na’r ddau yw y neb ni bu erioed, yr hwn ni welodd y gwaith blin sydd dan haul. A mi a welais fod pob llafur, a phob uniondeb gwaith dyn, yn peri iddo genfigen gan ei gymydog. Hyn hefyd sydd wagedd a gorthrymder ysbryd. Y ffôl a wasg ei ddwylo ynghyd, ac a fwyty ei gnawd ei hun. Gwell yw llonaid llaw trwy lonyddwch, na llonaid dwy law trwy flinder a gorthrymder ysbryd. Yna mi a droais, ac a welais wagedd dan yr haul. Y mae un yn unig, ac heb ail; ie, nid oes iddo na mab na brawd; ac eto nid oes diwedd ar ei lafur oll: ie, ni chaiff ei lygaid ddigon o gyfoeth; ni ddywed efe, I bwy yr ydwyf yn llafurio, ac yn difuddio fy enaid oddi wrth hyfrydwch? Hyn hefyd sydd wagedd, a dyma drafferth flin. Gwell yw dau nag un, o achos bod iddynt wobr da am eu llafur. Canys os syrthiant, y naill a gyfyd y llall: ond gwae yr unig; canys pan syrthio efe, nid oes ail i’w gyfodi. Hefyd os dau a gydorweddant, hwy a ymgynhesant; ond yr unig, pa fodd y cynhesa efe? Ac os cryfach fydd un nag ef, dau a’i gwrthwynebant yntau; a rhaff deircainc ni thorrir ar frys. Gwell yw bachgen tlawd a doeth, na brenin hen ac ynfyd, yr hwn ni fedr gymryd rhybudd mwyach: Canys y naill sydd yn dyfod allan o’r carchardy i deyrnasu, a’r llall wedi ei eni yn ei frenhiniaeth, yn myned yn dlawd. Mi a welais y rhai byw oll y rhai sydd yn rhodio dan yr haul, gyda’r ail fab yr hwn a saif yn ei le ef. Nid oes diben ar yr holl bobl, sef ar y rhai oll a fu o’u blaen hwynt; a’r rhai a ddêl ar ôl, ni lawenychant ynddo: gwagedd yn ddiau a blinder ysbryd yw hyn hefyd.