Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Pregethwr 4

4
1Felly mi a ddychwelais, ac a edrychais ar yr holl orthrymderau sydd dan yr haul: ac wele ddagrau y rhai gorthrymedig heb neb i’w cysuro; ac ar law eu treiswyr yr oedd gallu, a hwythau heb neb i’w cysuro. 2A mi a ganmolais y meirw y rhai sydd yn barod wedi marw, yn fwy na’r byw y rhai sydd yn fyw eto. 3Gwell na’r ddau yw y neb ni bu erioed, yr hwn ni welodd y gwaith blin sydd dan haul.
4A mi a welais fod pob llafur, a phob uniondeb gwaith dyn, yn peri iddo genfigen gan ei gymydog. Hyn hefyd sydd wagedd a gorthrymder ysbryd. 5Y ffôl a wasg ei ddwylo ynghyd, ac a fwyty ei gnawd ei hun. 6Gwell yw llonaid llaw trwy lonyddwch, na llonaid dwy law trwy flinder a gorthrymder ysbryd.
7Yna mi a droais, ac a welais wagedd dan yr haul. 8Y mae un yn unig, ac heb ail; ie, nid oes iddo na mab na brawd; ac eto nid oes diwedd ar ei lafur oll: ie, ni chaiff ei lygaid ddigon o gyfoeth; ni ddywed efe, I bwy yr ydwyf yn llafurio, ac yn difuddio fy enaid oddi wrth hyfrydwch? Hyn hefyd sydd wagedd, a dyma drafferth flin.
9Gwell yw dau nag un, o achos bod iddynt wobr da am eu llafur. 10Canys os syrthiant, y naill a gyfyd y llall: ond gwae yr unig; canys pan syrthio efe, nid oes ail i’w gyfodi. 11Hefyd os dau a gydorweddant, hwy a ymgynhesant; ond yr unig, pa fodd y cynhesa efe? 12Ac os cryfach fydd un nag ef, dau a’i gwrthwynebant yntau; a rhaff deircainc ni thorrir ar frys.
13Gwell yw bachgen tlawd a doeth, na brenin hen ac ynfyd, yr hwn ni fedr gymryd rhybudd mwyach: 14Canys y naill sydd yn dyfod allan o’r carchardy i deyrnasu, a’r llall wedi ei eni yn ei frenhiniaeth, yn myned yn dlawd. 15Mi a welais y rhai byw oll y rhai sydd yn rhodio dan yr haul, gyda’r ail fab yr hwn a saif yn ei le ef. 16Nid oes diben ar yr holl bobl, sef ar y rhai oll a fu o’u blaen hwynt; a’r rhai a ddêl ar ôl, ni lawenychant ynddo: gwagedd yn ddiau a blinder ysbryd yw hyn hefyd.

Dewis Presennol:

Y Pregethwr 4: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd