Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Pregethwr 4

4
1Unwaith eto ystyriais yr holl orthrymderau sy'n digwydd dan yr haul. Gwelais ddagrau y rhai a orthrymwyd, ac nid oedd neb i'w cysuro; yr oedd nerth o blaid eu gorthrymwyr, ac nid oedd neb i'w cysuro. 2Yna deuthum i'r casgliad ei bod yn well ar y rhai sydd eisoes wedi marw na'r rhai sy'n dal yn fyw. 3Ond gwell na'r ddau yw'r rhai sydd eto heb eu geni, ac sydd heb weld y drwg a wneir dan yr haul.
4Hefyd sylwais ar yr holl lafur a medr mewn gwaith, ei fod yn codi o genfigen rhwng rhywun a'i gymydog. Y mae hyn hefyd yn wagedd ac yn ymlid gwynt.
5Y mae'r ffôl yn plethu ei ddwylo, ac yn ei ddifa'i hun.
6Gwell yw llond un llaw mewn llonyddwch na llond dwy law mewn gofid ac ymlid gwynt.
7Unwaith eto gwelais y gwagedd sydd dan yr haul: 8rhywun unig heb fod ganddo na chyfaill, na mab na brawd; nid oes diwedd ar ei holl lafur, eto nid yw cyfoeth yn rhoi boddhad iddo. Nid yw'n gofyn, “I bwy yr wyf yn llafurio, ac yn fy amddifadu fy hun o bleser?” Y mae hyn hefyd yn wagedd ac yn orchwyl diflas.
9Y mae dau yn well nag un, oherwydd y maent yn cael tâl da am eu llafur; 10os bydd y naill yn syrthio, y mae'r llall yn gallu ei godi, ond gwae'r un sydd ar ei ben ei hun; pan yw'n syrthio, nid oes ganddo neb i'w godi. 11Hefyd os bydd dau yn gorwedd gyda'i gilydd, y mae'r naill yn cadw'r llall yn gynnes; ond sut y gall un gadw'n gynnes ar ei ben ei hun? 12Er y gellir trechu un, y mae dau yn gallu gwrthsefyll. Ni ellir torri rhaff deircainc ar frys.
13Y mae bachgen tlawd, ond doeth, yn well na brenin hen a ffôl, nad yw bellach yn gwybod sut i dderbyn cyngor. 14Yn wir, gall un ddod allan o garchar i fod yn frenin, er iddo gael ei eni'n dlawd yn ei deyrnas. 15Gwelais bawb oedd yn byw ac yn rhodio dan yr haul yn dilyn y bachgen oedd yn lle'r brenin. 16Nid oedd terfyn ar yr holl bobl, ac yr oedd ef yn ben arnynt i gyd; ond nid oedd y rhai a ddaeth ar ei ôl yn ymhyfrydu ynddo. Yn wir, y mae hyn hefyd yn wagedd ac yn ymlid gwynt.

Dewis Presennol:

Y Pregethwr 4: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd