Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Pregethwr 3

3
Tymor i Bob Peth
1Y mae tymor i bob peth, ac amser i bob gorchwyl dan y nef:
2amser i eni, ac amser i farw,
amser i blannu, ac amser i ddiwreiddio'r hyn a blannwyd;
3amser i ladd, ac amser i iacháu,
amser i dynnu i lawr, ac amser i adeiladu;
4amser i wylo, ac amser i chwerthin,
amser i alaru, ac amser i ddawnsio;
5amser i daflu cerrig, ac amser i'w casglu,
amser i gofleidio, ac amser i ymatal;
6amser i geisio, ac amser i golli,
amser i gadw, ac amser i daflu ymaith;
7amser i rwygo, ac amser i drwsio,
amser i dewi, ac amser i siarad;
8amser i garu, ac amser i gasáu,
amser i ryfel, ac amser i heddwch.
9Pa elw a gaiff y gweithiwr wrth lafurio? 10Gwelais y dasg a roddodd Duw i bobl i'w chyflawni. 11Gwnaeth bopeth yn hyfryd yn ei amser, a hefyd rhoddodd dragwyddoldeb yng nghalonnau pobl; eto ni all neb ddirnad yr hyn a wnaeth Duw o'r dechrau i'r diwedd. 12Yr wyf yn gwybod nad oes dim yn well i bobl mewn bywyd na bod yn llawen a gwneud da, 13a gwn mai rhodd Duw yw fod pob un yn bwyta ac yn yfed ac yn cael mwynhad o'i holl lafur. 14Yr wyf yn gwybod hefyd fod y cyfan a wna Duw yn aros byth; ni ellir ychwanegu ato na thynnu oddi wrtho. Gweithreda Duw fel hyn er mwyn i bobl ei barchu. 15Y mae'r hyn sy'n bod wedi bod eisoes, a'r hyn sydd i ddod hefyd wedi bod eisoes, ac y mae Duw yn chwilio am yr hyn a ddiflannodd.
Anghyfiawnder
16Hefyd gwelais dan yr haul fod drygioni wedi cymryd lle barn a chyfiawnder. 17Ond dywedais wrthyf fy hun, “Bydd Duw yn barnu'r cyfiawn a'r drygionus, oherwydd y mae wedi trefnu amser i bob gorchwyl a gwaith.” 18Dywedais wrthyf fy hun, “Y mae Duw yn profi pobl er mwyn iddynt weld eu bod fel yr anifeiliaid.” 19Oherwydd yr un peth a ddigwydd i bobl ac anifeiliaid, yr un yw eu tynged; y mae'r naill fel y llall yn marw. Yr un anadl sydd ynddynt i gyd; nid oes gan neb dynol fantais dros anifail. Y mae hyn i gyd yn wagedd. 20Y maent i gyd yn mynd i'r un lle; daethant i gyd o'r llwch, ac i'r llwch y maent yn dychwelyd. 21Pwy sy'n gwybod a yw ysbryd dynol yn mynd i fyny ac ysbryd anifail yn mynd i lawr i'r ddaear? 22Yna gwelais nad oes dim yn well i rywun na'i fwynhau ei hun yn ei waith, oherwydd dyna yw ei dynged. Pwy all wneud iddo weld beth fydd ar ei ôl?

Dewis Presennol:

Y Pregethwr 3: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda