Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Timotheus 2:1-14

2 Timotheus 2:1-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Felly, fy mab, gad i haelioni rhyfeddol y Meseia Iesu dy wneud di’n gryf. Dwed di wrth eraill beth glywaist ti fi’n ei ddweud o flaen llawer o dystion – rhanna’r cwbl gyda phobl y gelli di ddibynnu arnyn nhw i ddysgu eraill. A bydd dithau hefyd yn barod i ddioddef, fel milwr da i Iesu y Meseia. Dydy milwr ddim yn poeni am y mân bethau sy’n poeni pawb arall – mae e eisiau plesio’i gapten. Neu meddylia am athletwr yn cystadlu mewn mabolgampau – fydd e ddim yn ennill yn ei gamp heb gystadlu yn ôl y rheolau. A’r ffermwr sy’n gweithio mor galed ddylai fod y cyntaf i gael peth o’r cnwd. Meddylia am beth dw i’n ddweud. Bydd yr Arglwydd yn dy helpu di i ddeall hyn i gyd. Cofia fod Iesu y Meseia, oedd yn perthyn i deulu y Brenin Dafydd, wedi’i godi yn ôl yn fyw ar ôl marw. Dyma’r newyddion da dw i’n ei gyhoeddi. A dyna’r union reswm pam dw i’n dioddef – hyd yn oed wedi fy rhwymo gyda chadwyni yn y carchar, fel taswn i’n droseddwr. Ond dydy cadwyni ddim yn gallu rhwymo neges Duw! Felly dw i’n fodlon diodde’r cwbl er mwyn i’r bobl mae Duw wedi’u dewis gael eu hachub gan y Meseia Iesu a chael eu anrhydeddu ag ysblander tragwyddol. Mae’r hyn sy’n cael ei ddweud mor wir!: Os buon ni farw gyda’r Meseia, byddwn ni hefyd yn byw gydag e; os byddwn ni’n dal ati, byddwn ni hefyd yn cael teyrnasu gydag e. Os byddwn ni’n gwadu ein bod ni’n ei nabod e, bydd e hefyd yn gwadu ei fod yn ein nabod ni; Os ydyn ni’n anffyddlon, bydd e’n siŵr o fod yn ffyddlon; oherwydd dydy e ddim yn gallu gwadu pwy ydy e. Dal ati i atgoffa pobl o’r pethau hyn. Rhybuddia nhw, o flaen Duw, i beidio hollti blew am ystyr geiriau. Dydy peth felly ddim help i neb. Mae’n drysu’r bobl sy’n gwrando.

2 Timotheus 2:1-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Felly ymnertha di, fy mab, yn y gras sydd yng Nghrist Iesu. Cymer y geiriau a glywaist gennyf fi yng nghwmni tystion lawer, a throsglwydda hwy i ofal pobl ffyddlon a fydd yn abl i hyfforddi eraill hefyd. Cymer dy gyfran o ddioddefaint, fel milwr da i Grist Iesu. Nid yw milwr sydd ar ymgyrch yn ymdrafferthu â gofalon bywyd bob dydd, gan fod ei holl fryd ar ennill cymeradwyaeth ei gadfridog. Ac os yw rhywun yn cystadlu mewn mabolgampau, ni all ennill y dorch heb gystadlu yn ôl y rheolau. Y ffermwr sy'n llafurio sydd â'r hawl gyntaf ar y cnwd. Ystyria beth yr wyf yn ei ddweud, oherwydd fe rydd yr Arglwydd iti ddealltwriaeth ym mhob peth. Cofia Iesu Grist: ei gyfodi oddi wrth y meirw, ei eni o linach Dafydd, yn ôl yr Efengyl yr wyf fi yn ei phregethu. Yng ngwasanaeth yr Efengyl hon yr wyf yn dioddef hyd at garchar, fel rhyw droseddwr, ond nid oes carchar i ddal gair Duw. Felly, yr wyf yn goddef y cyfan er mwyn ei etholedigion, iddynt hwythau hefyd gael yr iachawdwriaeth sydd yng Nghrist Iesu, ynghyd â gogoniant tragwyddol. Dyma air i'w gredu: “Os buom farw gydag ef, byddwn fyw hefyd gydag ef; os dyfalbarhawn, cawn deyrnasu hefyd gydag ef; os gwadwn ef, bydd ef hefyd yn ein gwadu ninnau; os ydym yn anffyddlon, y mae ef yn aros yn ffyddlon, oherwydd ni all ef ei wadu ei hun.” Dwg ar gof i bobl y pethau hyn, gan eu rhybuddio yng ngŵydd Duw i beidio â dadlau am eiriau, peth cwbl anfuddiol, ac andwyol hefyd i'r rhai sy'n gwrando.