Felly, fy mab, gad i haelioni rhyfeddol y Meseia Iesu dy wneud di’n gryf. Dwed di wrth eraill beth glywaist ti fi’n ei ddweud o flaen llawer o dystion – rhanna’r cwbl gyda phobl y gelli di ddibynnu arnyn nhw i ddysgu eraill. A bydd dithau hefyd yn barod i ddioddef, fel milwr da i Iesu y Meseia. Dydy milwr ddim yn poeni am y mân bethau sy’n poeni pawb arall – mae e eisiau plesio’i gapten. Neu meddylia am athletwr yn cystadlu mewn mabolgampau – fydd e ddim yn ennill yn ei gamp heb gystadlu yn ôl y rheolau. A’r ffermwr sy’n gweithio mor galed ddylai fod y cyntaf i gael peth o’r cnwd. Meddylia am beth dw i’n ddweud. Bydd yr Arglwydd yn dy helpu di i ddeall hyn i gyd. Cofia fod Iesu y Meseia, oedd yn perthyn i deulu y Brenin Dafydd, wedi’i godi yn ôl yn fyw ar ôl marw. Dyma’r newyddion da dw i’n ei gyhoeddi. A dyna’r union reswm pam dw i’n dioddef – hyd yn oed wedi fy rhwymo gyda chadwyni yn y carchar, fel taswn i’n droseddwr. Ond dydy cadwyni ddim yn gallu rhwymo neges Duw! Felly dw i’n fodlon diodde’r cwbl er mwyn i’r bobl mae Duw wedi’u dewis gael eu hachub gan y Meseia Iesu a chael eu anrhydeddu ag ysblander tragwyddol. Mae’r hyn sy’n cael ei ddweud mor wir!: Os buon ni farw gyda’r Meseia, byddwn ni hefyd yn byw gydag e; os byddwn ni’n dal ati, byddwn ni hefyd yn cael teyrnasu gydag e. Os byddwn ni’n gwadu ein bod ni’n ei nabod e, bydd e hefyd yn gwadu ei fod yn ein nabod ni; Os ydyn ni’n anffyddlon, bydd e’n siŵr o fod yn ffyddlon; oherwydd dydy e ddim yn gallu gwadu pwy ydy e. Dal ati i atgoffa pobl o’r pethau hyn. Rhybuddia nhw, o flaen Duw, i beidio hollti blew am ystyr geiriau. Dydy peth felly ddim help i neb. Mae’n drysu’r bobl sy’n gwrando.
Darllen 2 Timotheus 2
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 2 Timotheus 2:1-14
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos