Tydi gan hynny, fy mab, ymnertha yn y gras sydd yng Nghrist Iesu. A’r pethau a glywaist gennyf trwy lawer o dystion, traddoda’r rhai hynny i ddynion ffyddlon, y rhai a fyddant gymwys i ddysgu eraill hefyd. Tydi gan hynny goddef gystudd, megis milwr da i Iesu Grist. Nid yw neb a’r sydd yn milwrio, yn ymrwystro â negeseuau’r bywyd hwn; fel y rhyngo fodd i’r hwn a’i dewisodd yn filwr. Ac od ymdrech neb hefyd, ni choronir ef, onid ymdrech yn gyfreithlon. Y llafurwr sydd yn llafurio, sydd raid iddo yn gyntaf dderbyn y ffrwythau. Ystyria’r hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd; a’r Arglwydd a roddo i ti ddeall ym mhob peth. Cofia gyfodi Iesu Grist o had Dafydd, o feirw, yn ôl fy efengyl i: Yn yr hon yr ydwyf yn goddef cystudd hyd rwymau, fel drwgweithredwr; eithr gair Duw nis rhwymir. Am hynny yr ydwyf yn goddef pob peth er mwyn yr etholedigion, fel y gallont hwythau gael yr iachawdwriaeth sydd yng Nghrist Iesu, gyda gogoniant tragwyddol. Gwir yw’r gair: Canys os buom feirw gydag ef, byw fyddwn hefyd gydag ef: Os dioddefwn, ni a deyrnaswn gydag ef: os gwadwn ef, yntau hefyd a’n gwad ninnau: Os ŷm ni heb gredu, eto y mae efe yn aros yn ffyddlon: nis gall efe ei wadu ei hun. Dwg y pethau hyn ar gof, gan orchymyn gerbron yr Arglwydd, na byddo iddynt ymryson ynghylch geiriau, yr hyn nid yw fuddiol i ddim, ond i ddadymchwelyd y gwrandawyr.
Darllen 2 Timotheus 2
Gwranda ar 2 Timotheus 2
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 2 Timotheus 2:1-14
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos