2 Samuel 4:4
2 Samuel 4:4 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Roedd gan Jonathan, mab Saul, fab o’r enw Meffibosheth oedd yn gloff. Roedd e’n bump oed pan ddaeth y newydd o Jesreel fod Saul a Jonathan wedi’u lladd. Dyma’i nyrs yn gafael ynddo i ffoi, ond wrth iddi ruthro dyma fe’n cwympo, a dyna pryd aeth e’n gloff.
2 Samuel 4:4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr oedd mab gan Jonathan fab Saul oedd yn gloff yn ei draed. Pum mlwydd oed ydoedd pan ddaeth y newydd o Jesreel am Saul a Jonathan; cododd ei famaeth ef a ffoi, ond wrth iddi frysio i ffoi, fe syrthiodd ef a chael ei gloffi. Meffiboseth oedd ei enw.
2 Samuel 4:4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac i Jonathan, mab Saul, yr oedd mab cloff o’i draed. Mab pum mlwydd oedd efe pan ddaeth y gair am Saul a Jonathan o Jesreel; a’i famaeth a’i cymerth ef ac a ffodd: a bu, wrth frysio ohoni i ffoi, iddo ef syrthio, fel y cloffodd efe. A’i enw ef oedd Meffiboseth.