Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Samuel 4

4
Llofruddio Isboseth
1Pan glywodd mab Saul fod Abner wedi marw yn Hebron, digalonnodd, ac yr oedd Israel gyfan mewn dryswch. 2Yr oedd gan fab Saul ddau ddyn yn benaethiaid ar finteioedd; Baana oedd enw un a Rechab oedd enw'r llall. Meibion i Rimmon o Beeroth oeddent, ac aelodau o lwyth Benjamin. 3Ystyrid bod Beeroth yn perthyn i Benjamin, er bod trigolion Beeroth wedi ffoi i Gittaim ac wedi aros yno hyd heddiw fel dyfodiaid.
4Yr oedd mab gan Jonathan fab Saul oedd yn gloff yn ei draed. Pum mlwydd oed ydoedd pan ddaeth y newydd o Jesreel am Saul a Jonathan; cododd ei famaeth ef a ffoi, ond wrth iddi frysio i ffoi, fe syrthiodd ef a chael ei gloffi. Meffiboseth oedd ei enw.
5Aeth Rechab a Baana, meibion Rimmon o Beeroth, i dŷ Isboseth yng ngwres y dydd, tra oedd ef yn gorffwys ganol dydd. 6Yr oedd y wraig a oedd yn cadw drws y tŷ wedi bod yn glanhau gwenith, ond yr oedd wedi hepian a chysgu, a llithrodd Rechab a'i frawd heibio iddi#4:6 Felly Groeg. Hebraeg, Daethant i mewn i'r tŷ i nôl gwenith, a thrawsant ef yn ei fol; yna dihangodd Rechab a'i frawd Baana.. 7Pan ddaethant i'r tŷ, yr oedd ef yn gorwedd ar ei wely yn ei ystafell gysgu, a thrawsant ef yn farw a thorri ei ben i ffwrdd, ac yna cymryd ei ben a mynd drwy'r nos ar hyd ffordd yr Araba. 8Daethant â phen Isboseth at Ddafydd i Hebron, a dweud wrth y brenin, “Dyma ben Isboseth, mab Saul, dy elyn oedd yn ceisio dy fywyd. Rhoddodd yr ARGLWYDD ddial heddiw i'n harglwydd frenin ar Saul a'i blant.” 9Ond atebodd Dafydd Rechab a'i frawd Baana, meibion Rimmon o Beeroth, a dweud, “Cyn wired â bod yr ARGLWYDD, a'm gwaredodd o bob cyfyngdra, yn fyw, 10pan ddaeth un i'm hysbysu fod Saul wedi marw, gan dybio'i fod yn dwyn newydd da, fe gydiais ynddo a'i ladd yn Siclag; dyna a roddais i hwnnw am ei newyddion! 11Pa faint mwy pan fo dynion drwg wedi lladd dyn cyfiawn yn ei gartref, ar ei wely? Oni fyddaf yn awr yn ceisio iawn am ei waed oddi ar eich llaw chwi, a'ch difa oddi ar y ddaear?” 12Rhoddodd Dafydd orchymyn i'w lanciau, a lladdasant hwy, a thorri eu dwylo a'u traed i ffwrdd, a'u crogi wrth y pwll yn Hebron. Yna cymerwyd pen Isboseth a'i gladdu ym meddrod Abner yn Hebron.

Dewis Presennol:

2 Samuel 4: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd