Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Samuel 5

5
Dafydd yn Frenin ar Israel Gyfan
1 Cron. 11:1–9; 14:1–7
1Daeth holl lwythau Israel at Ddafydd i Hebron a dweud wrtho, “Edrych, dy asgwrn a'th gnawd di ydym ni. 2Gynt, pan oedd Saul yn frenin arnom, ti oedd yn arwain Israel allan i ryfel ac yn ôl wedyn; ac fe ddywedodd yr ARGLWYDD wrthyt, ‘Ti sydd i fugeilio fy mhobl Israel; ti sydd i fod yn dywysog Israel’.” 3Yna daeth holl henuriaid Israel i Hebron at y brenin, a gwnaeth y Brenin Dafydd gyfamod â hwy yn Hebron gerbron yr ARGLWYDD, ac eneiniwyd Dafydd yn frenin ar Israel. 4Deng mlwydd ar hugain oed oedd Dafydd pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am ddeugain mlynedd. 5Yn Hebron teyrnasodd dros Jwda am saith mlynedd a chwe mis; yna yn Jerwsalem fe deyrnasodd dros Israel a Jwda gyfan am dair ar ddeg ar hugain o flynyddoedd.
6Pan aeth Dafydd a'i ddynion i Jerwsalem yn erbyn y Jebusiaid oedd yn byw yn y wlad, dywedasant wrth Ddafydd, “Ni ddoi i mewn yma; bydd deillion a chloffion yn dy droi di'n ôl”—gan dybio nad âi Dafydd i mewn yno. 7Eto fe enillodd Dafydd gaer Seion, sef Dinas Dafydd. 8Y diwrnod hwnnw fe ddywedodd Dafydd, “Pob un sydd am daro'r Jebusiaid, aed i fyny trwy'r siafft ddŵr at y cloffion a'r deillion sy'n gas gan enaid Dafydd.” Dyna pam y dywedir, “Ni chaiff y dall na'r cloff ddod i'r deml.” 9Pan ymsefydlodd Dafydd yn y gaer, galwodd hi yn Ddinas Dafydd, ac adeiladodd fur#5:9 Tebygol. Cymh. 1 Cron. 11:8. Hebraeg, Dafydd. o'i chwmpas, o'r Milo at y deml#5:9 Neu, at i mewn.. 10Cynyddodd Dafydd fwyfwy, ac yr oedd ARGLWYDD Dduw y Lluoedd o'i blaid.
11Anfonodd Hiram brenin Tyrus negeswyr at Ddafydd, a hefyd goed cedrwydd a seiri coed a seiri maen, ac adeiladodd y rhain dŷ ar gyfer Dafydd. 12Sylweddolodd Dafydd fod yr ARGLWYDD wedi ei gadarnhau yn frenin ar Israel, a'i fod wedi dyrchafu ei frenhiniaeth er mwyn ei bobl Israel.
13Wedi iddo ddod o Hebron, cymerodd Dafydd ragor o ordderchwragedd ac o wragedd o Jerwsalem; a ganed rhagor o feibion ac o ferched iddo. 14Dyma enwau'r rhai a aned iddo yn Jerwsalem: Samua, Sobab, Nathan, Solomon, 15Ibhar, Elisua, Neffeg, Jaffia, 16Elisama, Eliada ac Eliffelet.
Buddugoliaeth dros y Philistiaid
1 Cron. 14:8–17
17Pan glywodd y Philistiaid fod Dafydd wedi ei eneinio yn frenin ar Israel, aethant oll i chwilio amdano, ond clywodd ef am hyn ac aeth i lawr i'r gaer. 18Wedi i'r Philistiaid ddod ac ymledu dros ddyffryn Reffaim, 19ymofynnodd Dafydd â'r ARGLWYDD a dweud, “A af i fyny yn erbyn y Philistiaid? A roi di hwy yn fy llaw?” Atebodd yr ARGLWYDD, “Dos i fyny, oherwydd yn sicr fe roddaf y Philistiaid yn dy law.” 20Felly aeth Dafydd i Baal-perasim, a'u taro yno. Ac meddai Dafydd, “Torrodd yr ARGLWYDD drwy fy ngelynion o'm blaen fel toriad dyfroedd.” Dyna pam yr enwodd y lle hwnnw, Baal-perasim#5:20 H.y., Toriad.. 21Yr oedd y Philistiaid wedi gadael eu delwau ar ôl yno, felly dygodd Dafydd a'i wŷr hwy i ffwrdd.
22Ymosododd y Philistiaid unwaith eto, ac ymledu dros ddyffryn Reffaim. 23Ymofynnodd Dafydd â'r ARGLWYDD a chael yr ateb, “Paid â mynd i fyny, dos ar gylch i'r tu cefn iddynt, a thyrd atynt gyferbyn â'r morwydd. 24Yna, pan glywi sŵn cerdded ym mrig y morwydd, dos yn dy flaen, oherwydd yr adeg honno bydd yr ARGLWYDD yn mynd allan o'th flaen i daro gwersyll y Philistiaid.” 25Gwnaeth Dafydd hynny, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD, a tharo'r Philistiaid o Geba hyd gyrion Geser.

Dewis Presennol:

2 Samuel 5: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda