Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Samuel 4

4
Ish-bosheth yn cael ei ladd
1Pan glywodd Ish-bosheth, mab Saul, fod Abner wedi’i ladd yn Hebron roedd wedi anobeithio’n llwyr, ac roedd Israel gyfan wedi dychryn. 2Roedd gan Ish-bosheth ddau ddyn yn gapteiniaid yn ei fyddin, Baana a Rechab. Roedden nhw’n feibion i Rimmon o Beëroth#4:2 Beëroth Tref ryw 9 milltir i’r gogledd o Jerwsalem. ac yn perthyn i lwyth Benjamin. (Roedd Beëroth yn cael ei gyfri fel rhan o Benjamin. 3Roedd pobl wreiddiol Beëroth wedi ffoi i Gittaïm, ac maen nhw’n dal i fyw yno hyd heddiw fel mewnfudwyr.)
4Roedd gan Jonathan, mab Saul, fab o’r enw Meffibosheth oedd yn gloff. Roedd e’n bump oed pan ddaeth y newydd o Jesreel fod Saul a Jonathan wedi’u lladd.#1 Samuel 29:1,11; 31:6 Dyma’i nyrs yn gafael ynddo i ffoi, ond wrth iddi ruthro dyma fe’n cwympo, a dyna pryd aeth e’n gloff.
5Aeth Rechab a Baana, meibion Rimmon o Beëroth, i dŷ Ish-bosheth. Roedd hi’n ganol dydd a’r haul ar ei boethaf, ac roedd Ish-bosheth yn gorffwys. 6Aethon nhw i mewn i’w dŷ gan esgus eu bod yn nôl gwenith, ond dyma nhw’n ei drywanu yn ei fol. Wedyn dyma’r ddau yn dianc. 7Roedden nhw wedi mynd i’r tŷ tra oedd Ish-bosheth yn ei ystafell yn gorffwys ar ei wely. Ar ôl ei drywanu a’i ladd, dyma nhw’n torri ei ben i ffwrdd. Yna cymryd y pen, a theithio drwy’r nos ar hyd ffordd yr Araba. 8Dyma nhw’n dod â phen Ish-bosheth i’r brenin Dafydd yn Hebron, a dweud wrtho, “Dyma ben Ish-bosheth, mab Saul, dy elyn oedd yn ceisio dy ladd di. Heddiw mae’r ARGLWYDD wedi dial ar Saul a’i deulu ar ran ein meistr y brenin.”
9Ond dyma Dafydd yn eu hateb nhw: “Mor sicr a bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr un sydd wedi fy achub i o bob helynt. 10Pan ddaeth rhyw ddyn ata i yn Siclag i ddweud fod Saul wedi marw,#2 Samuel 1:2-16 roedd yn meddwl ei fod yn dod â newyddion da. Ond gafaelais ynddo a’i ladd! Dyna oedd y wobr gafodd hwnnw am ei ‘newyddion da’! 11Dych chi wedi lladd dyn diniwed tra oedd yn cysgu yn ei dŷ ei hun! Rhaid i mi wneud i chi dalu am dywallt ei waed e, a chael gwared â chi oddi ar wyneb y ddaear yma!” 12Felly dyma Dafydd yn gorchymyn i’w filwyr ladd y ddau. Dyma nhw’n gwneud hynny, torri eu dwylo a’u traed i ffwrdd, a hongian y cyrff wrth y pwll yn Hebron. Ond dyma nhw’n cymryd pen Ish-bosheth, a’i gladdu lle roedd bedd Abner, yn Hebron.

Dewis Presennol:

2 Samuel 4: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd