Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Samuel 24:15-25

2 Samuel 24:15-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Felly dewisodd Dafydd yr haint. Yr oedd yn dymor y cynhaeaf gwenith, ac anfonodd yr ARGLWYDD haint ar Israel o'r bore hyd derfyn y cyfnod penodedig. Bu farw deng mil a thrigain o'r bobl o Dan i Beerseba. Ond pan estynnodd yr angel ei law yn erbyn Jerwsalem i'w dinistrio, edifarhaodd yr ARGLWYDD am y niwed, a dywedodd wrth yr angel oedd yn distrywio'r bobl, “Digon bellach! Atal dy law.” Yr oedd angel yr ARGLWYDD yn ymyl llawr dyrnu Arafna y Jebusiad. Pan welodd Dafydd yr angel yn taro'r bobl, dywedodd wrth yr ARGLWYDD, “Myfi sydd wedi pechu, a myfi sydd wedi gwneud drwg; ond am y defaid hyn, beth a wnaethant hwy? Bydded dy law yn f'erbyn i a'm teulu.” Daeth Gad at Ddafydd y diwrnod hwnnw a dweud wrtho, “Dos, a chyfod allor i'r ARGLWYDD ar lawr dyrnu Arafna y Jebusiad.” Felly, ar air Gad, fe aeth Dafydd fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD. Pan edrychodd Arafna a gweld y brenin a'i weision yn dod tuag ato, aeth allan a moesymgrymu i'r brenin â'i wyneb i'r llawr. Ac meddai Arafna, “Pam y daeth f'arglwydd frenin at ei was?” Atebodd Dafydd, “I brynu gennyt y llawr dyrnu, i godi allor i'r ARGLWYDD er mwyn atal y pla sydd ar y bobl.” Yna dywedodd Arafna wrth Ddafydd, “Cymered f'arglwydd frenin ef ac offrymu'r hyn a fyn; edrych, dyma'r ychen ar gyfer y poethoffrwm, a'r sled ddyrnu ac iau'r ychen yn danwydd.” Rhoddodd Arafna'r cwbl i'r brenin, a dweud wrtho, “Bydded yr ARGLWYDD dy Dduw yn fodlon arnat.” Ond dywedodd y brenin wrth Arafna, “Na, rhaid imi ei brynu gennyt am bris. Nid wyf am aberthu i'r ARGLWYDD fy Nuw boethoffrwm di-gost.” Felly prynodd Dafydd y llawr dyrnu a'r ychen am hanner can sicl o arian; a chododd yno allor i'r ARGLWYDD, ac aberthu poethoffrymau a heddoffrymau. Derbyniodd yr ARGLWYDD ymbil ar ran y wlad, ac ataliwyd y pla oddi ar Israel.

2 Samuel 24:15-25 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Felly’r bore hwnnw dyma’r ARGLWYDD yn anfon haint ar wlad Israel wnaeth bara am dri diwrnod, a buodd saith deg mil o bobl o bob rhan o’r wlad farw. Ond wrth i’r angel bwyntio ei fys at Jerwsalem i’w difa, dyma’r ARGLWYDD yn teimlo’n sori am y niwed oedd yn cael ei wneud. A dyma fe’n rhoi gorchymyn i’r angel oedd wrthi’n difa’r bobl, “Dyna ddigon! Stopia nawr!” (Ar y pryd roedd yr angel yn sefyll wrth ymyl llawr dyrnu Arafna y Jebwsiad.) Pan welodd Dafydd yr angel yn taro’r bobl, dyma fe’n dweud, “ARGLWYDD, fi sydd wedi pechu a gwneud y drwg! Wnaeth y bobl ddiniwed yma ddim byd o’i le. Cosba fi a’m teulu!” ARGLWYDD Y diwrnod hwnnw dyma Gad yn mynd at Dafydd a dweud wrtho, “Dos, a chodi allor i’r ARGLWYDD ar lawr dyrnu Arafna y Jebwsiad.” Felly dyma Dafydd yn mynd a gwneud beth roedd yr ARGLWYDD wedi’i ddweud wrth Gad. Pan welodd Arafna y brenin a’i weision yn dod ato, dyma fe’n ymgrymu o’i flaen â’i wyneb ar lawr. “Pam mae fy meistr, y brenin, wedi dod yma ata i?” meddai. A dyma Dafydd yn ateb, “I brynu dy lawr dyrnu di. Dw i eisiau codi allor i’r ARGLWYDD i stopio’r pla yma ladd y bobl.” Dyma Arafna’n ateb, “Syr, cymer beth bynnag wyt ti eisiau. Cymer yr ychen i’w llosgi’n aberth, a defnyddia’r sled dyrnu a iau’r ychen yn goed tân. Dw i am roi’r cwbl i’m meistr, y brenin. Gobeithio bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn derbyn beth wyt ti’n wneud.” Ond dyma’r brenin yn ei ateb, “Na, mae’n rhaid i mi dalu’r pris llawn i ti. Dw i ddim yn mynd i gyflwyno aberthau i’w llosgi i’r ARGLWYDD sydd wedi costio dim byd i mi.” Felly dyma Dafydd yn prynu’r llawr dyrnu a’r ychen am bum deg darn arian. Wedyn adeiladodd allor i’r ARGLWYDD yno, a chyflwyno arni aberthau i’w llosgi ac offrymau i gydnabod daioni’r ARGLWYDD. A dyma’r ARGLWYDD yn ateb ei weddi a stopio’r pla oedd yn mynd drwy’r wlad.

2 Samuel 24:15-25 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Yna y rhoddes yr ARGLWYDD haint yn Israel, o’r bore hyd yr amser nodedig: a bu farw o’r bobl, o Dan hyd Beer-seba, ddeng mil a thrigain o wŷr. A phan estynasai yr angel ei law at Jerwsalem i’w dinistrio hi, edifarhaodd ar yr ARGLWYDD y drwg hwn, ac a ddywedodd wrth yr angel oedd yn dinistrio y bobl, Digon bellach: atal dy law. Ac angel yr ARGLWYDD oedd wrth lawr dyrnu Arafna y Jebusiad. A llefarodd Dafydd wrth yr ARGLWYDD, pan ganfu efe yr angel a drawsai y bobl, a dywedodd, Wele, myfi a bechais, ac a wneuthum yn ddrygionus: ond y defaid hyn, beth a wnaethant hwy? bydded, atolwg, dy law arnaf fi, ac ar dŷ fy nhad. A Gad a ddaeth at Dafydd y dwthwn hwnnw, ac a ddywedodd wrtho, Dos i fyny, cyfod allor i’r ARGLWYDD yn llawr dyrnu Arafna y Jebusiad. A Dafydd a aeth i fyny, yn ôl gair Gad, fel y gorchmynasai yr ARGLWYDD. Ac Arafna a edrychodd, ac a ganfu y brenin a’i weision yn dyfod tuag ato. Ac Arafna a aeth allan, ac a ostyngodd ei wyneb i lawr gerbron y brenin. Ac Arafna a ddywedodd, Paham y daeth fy arglwydd frenin at ei was? A dywedodd Dafydd, I brynu gennyt ti y llawr dyrnu, i adeiladu allor i’r ARGLWYDD, fel yr atalier y pla oddi wrth y bobl. A dywedodd Arafna wrth Dafydd, Cymered, ac offrymed fy arglwydd frenin yr hyn fyddo da yn ei olwg: wele yr ychen yn boethoffrwm, a’r ffustiau ac offer yr ychen yn lle cynnud. Hyn oll a roddodd Arafna, megis brenin, i’r brenin. A dywedodd Arafna wrth y brenin, Yr ARGLWYDD dy DDUW a fyddo bodlon i ti. A dywedodd y brenin wrth Arafna, Nage; eithr gan brynu y prynaf ef mewn pris gennyt: ac nid offrymaf i’r ARGLWYDD fy NUW boethoffrymau rhad. Felly Dafydd a brynodd y llawr dyrnu a’r ychen, er deg a deugain o siclau arian. Ac yno yr adeiladodd Dafydd allor i’r ARGLWYDD, ac a offrymodd boethoffrymau ac offrymau hedd. A’r ARGLWYDD a gymododd â’r wlad, a’r pla a ataliwyd oddi wrth Israel.