Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Samuel 24:15-25

2 Samuel 24:15-25 BNET

Felly’r bore hwnnw dyma’r ARGLWYDD yn anfon haint ar wlad Israel wnaeth bara am dri diwrnod, a buodd saith deg mil o bobl o bob rhan o’r wlad farw. Ond wrth i’r angel bwyntio ei fys at Jerwsalem i’w difa, dyma’r ARGLWYDD yn teimlo’n sori am y niwed oedd yn cael ei wneud. A dyma fe’n rhoi gorchymyn i’r angel oedd wrthi’n difa’r bobl, “Dyna ddigon! Stopia nawr!” (Ar y pryd roedd yr angel yn sefyll wrth ymyl llawr dyrnu Arafna y Jebwsiad.) Pan welodd Dafydd yr angel yn taro’r bobl, dyma fe’n dweud, “ARGLWYDD, fi sydd wedi pechu a gwneud y drwg! Wnaeth y bobl ddiniwed yma ddim byd o’i le. Cosba fi a’m teulu!” ARGLWYDD Y diwrnod hwnnw dyma Gad yn mynd at Dafydd a dweud wrtho, “Dos, a chodi allor i’r ARGLWYDD ar lawr dyrnu Arafna y Jebwsiad.” Felly dyma Dafydd yn mynd a gwneud beth roedd yr ARGLWYDD wedi’i ddweud wrth Gad. Pan welodd Arafna y brenin a’i weision yn dod ato, dyma fe’n ymgrymu o’i flaen â’i wyneb ar lawr. “Pam mae fy meistr, y brenin, wedi dod yma ata i?” meddai. A dyma Dafydd yn ateb, “I brynu dy lawr dyrnu di. Dw i eisiau codi allor i’r ARGLWYDD i stopio’r pla yma ladd y bobl.” Dyma Arafna’n ateb, “Syr, cymer beth bynnag wyt ti eisiau. Cymer yr ychen i’w llosgi’n aberth, a defnyddia’r sled dyrnu a iau’r ychen yn goed tân. Dw i am roi’r cwbl i’m meistr, y brenin. Gobeithio bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn derbyn beth wyt ti’n wneud.” Ond dyma’r brenin yn ei ateb, “Na, mae’n rhaid i mi dalu’r pris llawn i ti. Dw i ddim yn mynd i gyflwyno aberthau i’w llosgi i’r ARGLWYDD sydd wedi costio dim byd i mi.” Felly dyma Dafydd yn prynu’r llawr dyrnu a’r ychen am bum deg darn arian. Wedyn adeiladodd allor i’r ARGLWYDD yno, a chyflwyno arni aberthau i’w llosgi ac offrymau i gydnabod daioni’r ARGLWYDD. A dyma’r ARGLWYDD yn ateb ei weddi a stopio’r pla oedd yn mynd drwy’r wlad.