Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Samuel 24

24
Dafydd yn Gwneud Cyfrifiad
1 Cron. 21:1–27
1Unwaith eto enynnodd dicter yr ARGLWYDD yn erbyn yr Israeliaid, ac anogodd Ddafydd yn eu herbyn trwy ddweud, “Dos, cyfrifa'r Israeliaid a'r Jwdeaid.” 2Felly fe ddywedodd y brenin wrth Joab, a swyddogion#24:2 Felly Groeg ac 1 Cron. 21:2. Hebraeg, Joab, swyddog. y fyddin oedd gydag ef, “Dos drwy holl lwythau Israel o Dan i Beerseba a chyfrifa'r bobl, er mwyn imi wybod eu nifer.” 3Dywedodd Joab wrth y brenin, “Bydded i'r ARGLWYDD dy Dduw luosogi'r bobl ganwaith yr hyn ydynt, ac i tithau, f'arglwydd frenin, ei weld â'th lygaid dy hun; ond pam y mae f'arglwydd frenin â'i fryd ar wneud hyn?” 4Ond yr oedd gair y brenin yn drech na Joab a swyddogion y fyddin; felly fe aeth Joab a swyddogion y fyddin allan yn ôl gorchymyn#24:4 Tebygol. Hebraeg, wyneb. y brenin i gyfrif pobl Israel. 5Wedi croesi'r Iorddonen, dechreusant#24:5 Felly Groeg. Hebraeg, gwersyllasant. yn Aroer, i'r de o'r ddinas sydd yng nghanol y dyffryn, yna aethant i Gad, ac ymlaen i Jaser. 6Yna daethant i Gilead a gwlad yr Hethiaid, cyn belled â Cades#24:6 Felly Groeg. Hebraeg, Tahtim Hodsi.; ac i Dan a Jaan, a chwmpasu at Sidon. 7Daethant wedyn at ddinas gaerog Tyrus, a holl drefi'r Hefiaid a'r Canaaneaid, a gorffen yn Negef Jwda, yn Beerseba. 8Wedi iddynt deithio drwy'r wlad gyfan, daethant yn ôl i Jerwsalem ymhen naw mis ac ugain diwrnod. 9Rhoddodd Joab swm cyfrifiad y bobl i'r brenin: yr oedd yn Israel wyth gan mil o wŷr abl i drin cleddyf, ac yr oedd milwyr Jwda yn bum can mil.
10Wedi iddo gyfrif y bobl, pigodd cydwybod Dafydd ef; a dywedodd wrth yr ARGLWYDD, “Pechais yn fawr trwy wneud hyn; am hynny, O ARGLWYDD, maddau i'th was, oherwydd bûm yn ffôl iawn.” 11Wedi i Ddafydd godi fore trannoeth, daeth gair yr ARGLWYDD at y proffwyd Gad, gweledydd Dafydd, gan ddweud, 12“Dos a dywed wrth Ddafydd, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Yr wyf yn cynnig tri pheth iti; dewis di un ohonynt, ac fe'i gwnaf iti’.” 13Daeth Gad at Ddafydd a'i hysbysu a dweud wrtho, “A fynni di dair#24:13 Felly 1 Cron. 21:12 a Groeg. Hebraeg, saith. blynedd o newyn yn dy wlad, ynteu tri mis o ffoi o flaen dy wrthwynebwyr tra byddant yn dy erlid, ynteu tridiau o haint yn dy wlad? Ystyria ac edrych pa ateb a roddaf i'r un a'm hanfonodd.” 14Dywedodd Dafydd wrth Gad, “Y mae'n gyfyng iawn arnaf, ond bydded inni syrthio i law'r ARGLWYDD, am fod ei drugareddau'n aml, yn hytrach nag imi syrthio i ddwylo pobl.” 15Felly dewisodd Dafydd yr haint. Yr oedd yn dymor y cynhaeaf gwenith#24:15 Felly Fersiynau. Hebraeg heb Felly… gwenith., ac anfonodd yr ARGLWYDD haint ar Israel o'r bore hyd derfyn y cyfnod penodedig. Bu farw deng mil a thrigain o'r bobl o Dan i Beerseba. 16Ond pan estynnodd yr angel ei law yn erbyn Jerwsalem i'w dinistrio, edifarhaodd yr ARGLWYDD am y niwed, a dywedodd wrth yr angel oedd yn distrywio'r bobl, “Digon bellach! Atal dy law.” Yr oedd angel yr ARGLWYDD yn ymyl llawr dyrnu Arafna y Jebusiad.
17Pan welodd Dafydd yr angel yn taro'r bobl, dywedodd wrth yr ARGLWYDD, “Myfi sydd wedi pechu, a myfi sydd wedi gwneud drwg; ond am y defaid hyn, beth a wnaethant hwy? Bydded dy law yn f'erbyn i a'm teulu.” 18Daeth Gad at Ddafydd y diwrnod hwnnw a dweud wrtho, “Dos, a chyfod allor i'r ARGLWYDD ar lawr dyrnu Arafna y Jebusiad.” 19Felly, ar air Gad, fe aeth Dafydd fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD. 20Pan edrychodd Arafna a gweld y brenin a'i weision yn dod tuag ato, aeth allan a moesymgrymu i'r brenin â'i wyneb i'r llawr. 21Ac meddai Arafna, “Pam y daeth f'arglwydd frenin at ei was?” Atebodd Dafydd, “I brynu gennyt y llawr dyrnu, i godi allor i'r ARGLWYDD er mwyn atal y pla sydd ar y bobl.” 22Yna dywedodd Arafna wrth Ddafydd, “Cymered f'arglwydd frenin ef ac offrymu'r hyn a fyn; edrych, dyma'r ychen ar gyfer y poethoffrwm, a'r sled ddyrnu ac iau'r ychen yn danwydd.” 23Rhoddodd Arafna'r cwbl#24:23 Tebygol. Hebraeg, Arafna'r brenin y cwbl. i'r brenin, a dweud wrtho, “Bydded yr ARGLWYDD dy Dduw yn fodlon arnat.” 24Ond dywedodd y brenin wrth Arafna, “Na, rhaid imi ei brynu gennyt am bris. Nid wyf am aberthu i'r ARGLWYDD fy Nuw boethoffrwm di-gost.” Felly prynodd Dafydd y llawr dyrnu a'r ychen am hanner can sicl o arian; 25a chododd yno allor i'r ARGLWYDD, ac aberthu poethoffrymau a heddoffrymau. Derbyniodd yr ARGLWYDD ymbil ar ran y wlad, ac ataliwyd y pla oddi ar Israel.

Dewis Presennol:

2 Samuel 24: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda