2 Samuel 12:19-25
2 Samuel 12:19-25 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond pan sylwodd Dafydd fod ei swyddogion yn sibrwd, roedd yn amau fod y plentyn wedi marw. Felly gofynnodd iddyn nhw, “Ydy’r plentyn wedi marw?” A dyma nhw’n ateb, “Ydy, mae wedi marw.” Yna dyma Dafydd yn codi oddi ar lawr, yn ymolchi, rhoi olew ar ei wyneb a newid ei ddillad. Aeth i babell yr ARGLWYDD i addoli. Wedyn aeth yn ôl adre i’r palas a bwyta pryd o fwyd. A dyma’i swyddogion yn gofyn iddo, “Pam wyt ti’n ymddwyn fel yma? Pan oedd y plentyn yn dal yn fyw roeddet ti’n crio ac yn ymprydio. Ond nawr mae’r plentyn wedi marw dyma ti’n codi ac yn bwyta!” Atebodd Dafydd, “Tra oedd y plentyn yn dal yn fyw rôn i’n ymprydio ac yn crio. Rôn i’n meddwl, ‘Pwy a ŵyr? falle y byddai’r ARGLWYDD yn tosturio ac yn gadael i’r plentyn fyw.’ Ond nawr mae e wedi marw. Does dim pwynt gwrthod bwyd bellach. Alla i ddim dod ag e’n ôl. Bydda i’n mynd ato fe, ond wnaiff e ddim dod yn ôl ata i.” Yna dyma Dafydd yn mynd i gysuro ei wraig, Bathseba. Cysgodd gyda hi a chael rhyw gyda hi. Cafodd hi fab iddo, a dyma nhw’n ei alw yn Solomon. Roedd yr ARGLWYDD yn caru’r plentyn, a dyma fe’n rhoi neges drwy’r proffwyd Nathan yn dweud y dylai gael ei alw’n Iedidia, sef “Mae’r ARGLWYDD yn ei garu.”
2 Samuel 12:19-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan welodd Dafydd fod ei weision yn sibrwd ymhlith ei gilydd, deallodd fod y plentyn wedi marw; felly dywedodd Dafydd wrth ei weision, “A yw'r plentyn wedi marw?” “Ydyw,” meddent hwythau. Yna cododd Dafydd oddi ar lawr, ac ymolchi a'i eneinio'i hun a newid ei ddillad; ac aeth i dŷ Dduw i addoli. Wedyn aeth i'w dŷ a gofyn am fwyd; ac wedi iddynt ei osod iddo, fe fwytaodd. Gofynnodd ei weision iddo, “Beth yw hyn yr wyt yn ei wneud? Tra oedd y plentyn yn fyw, yr oeddit yn ymprydio ac yn wylo; ond wedi i'r plentyn farw, yr wyt wedi codi a bwyta.” Eglurodd yntau, “Tra oedd y plentyn yn dal yn fyw, yr oeddwn yn ymprydio ac yn wylo am fy mod yn meddwl, ‘Pwy a ŵyr a fydd yr ARGLWYDD yn trugarhau wrthyf, ac y bydd y plentyn fyw?’ Ond erbyn hyn y mae wedi marw; pam felly y dylwn ymprydio? A fedraf fi ddod ag ef yn ôl? Byddaf fi'n mynd ato ef, ond ni ddaw ef yn ôl ataf fi.” Cysurodd Dafydd ei wraig Bathseba, ac aeth i mewn ati a gorwedd gyda hi; esgorodd hithau ar fab, a'i alw'n Solomon. Hoffodd yr ARGLWYDD ef, ac anfonodd neges drwy law'r proffwyd Nathan i'w enwi yn Jedidia oblegid yr ARGLWYDD.
2 Samuel 12:19-25 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ond pan welodd Dafydd ei weision yn sibrwd, deallodd Dafydd farw y plentyn: a Dafydd a ddywedodd wrth ei weision, A fu farw y plentyn? A hwy a ddywedasant, Efe a fu farw. Yna Dafydd a gyfododd oddi ar y ddaear, ac a ymolchodd, ac a ymeneiniodd, ac a newidiodd ei ddillad, ac a ddaeth i dŷ yr ARGLWYDD, ac a addolodd: wedi hynny y daeth efe i’w dŷ ei hun; ac a ofynnodd, a hwy a roddasant iddo fara, ac efe a fwytaodd. Yna ei weision a ddywedasant wrtho ef, Pa beth yw hyn a wnaethost ti? dros y plentyn byw yr ymprydiaist, ac yr wylaist; ond pan fu y plentyn farw, ti a gyfodaist ac a fwyteaist fara. Ac efe a ddywedodd, Tra yr ydoedd y plentyn yn fyw, yr ymprydiais ac yr wylais: canys mi a ddywedais, Pwy a ŵyr a drugarha yr ARGLWYDD wrthyf, fel y byddo byw y plentyn? Ond yn awr efe fu farw, i ba beth yr ymprydiwn? a allaf fi ei ddwyn ef yn ei ôl mwyach? myfi a af ato ef, ond ni ddychwel efe ataf fi. A Dafydd a gysurodd Bathseba ei wraig, ac a aeth i mewn ati hi, ac a orweddodd gyda hi: a hi a ymddûg fab, ac efe a alwodd ei enw ef Solomon. A’r ARGLWYDD a’i carodd ef. Ac efe a anfonodd trwy law Nathan y proffwyd; ac efe a alwodd ei enw ef Jedidia oblegid yr ARGLWYDD.