2 Samuel 12
12
Neges Nathan ac Edifeirwch Dafydd
1Anfonodd yr ARGLWYDD y proffwyd#12:1 Felly rhai llawysgrifau a Fersiynau. TM heb y proffwyd. Nathan at Ddafydd; a phan ddaeth, dywedodd wrtho: “Yr oedd dau ddyn mewn rhyw dref, un yn gyfoethog a'r llall yn dlawd. 2Yr oedd gan yr un cyfoethog lawer iawn o ddefaid ac ychen; 3ond nid oedd dim gan yr un tlawd, ar wahân i un oenig fechan yr oedd wedi ei phrynu a'i magu, a thyfodd i fyny ar ei aelwyd gyda'i blant, yn bwyta o'r un tamaid ag ef, yn yfed o'r un cwpan, ac yn cysgu yn ei gôl; yr oedd fel merch iddo. 4Pan ddaeth ymwelydd at y dyn cyfoethog, gofalodd hwnnw beidio â chymryd yr un o'i ddefaid na'i ychen ei hun i wneud pryd i'r teithiwr oedd wedi cyrraedd, yn hytrach fe gymerodd oenig y dyn tlawd a'i pharatoi ar gyfer y sawl a ddaeth ato.” 5Enynnodd dig Dafydd yn fawr yn erbyn y dyn, a dywedodd wrth Nathan, “Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, y mae'r dyn a wnaeth hyn yn haeddu marw! 6Rhaid iddo dalu'r oen yn ôl bedair gwaith am wneud y fath beth ac am beidio â dangos trugaredd.” 7Dywedodd Nathan wrth Ddafydd, “Ti yw'r dyn. Fel hyn y dywed ARGLWYDD Dduw Israel, ‘Fe'th eneiniais di yn frenin ar Israel, ac fe'th waredais o law Saul; 8rhois iti dŷ dy feistr a gwragedd dy feistr yn dy fynwes, a rhois iti hefyd dŷ Israel a Jwda. A phe buasai hynny'n rhy ychydig, buaswn wedi ychwanegu cymaint eto. 9Pam yr wyt wedi dirmygu gair yr ARGLWYDD drwy wneud yr hyn sydd ddrwg yn ei olwg? Yr wyt wedi lladd Ureia yr Hethiad â'r cleddyf, a chymryd ei wraig yn wraig i ti, wedi iti ei lofruddio ef â chleddyf yr Ammoniaid. 10Bellach ni thry'r cleddyf oddi wrth dy dŷ hyd byth, gan i ti fy nirmygu i a chymryd gwraig Ureia yr Hethiad yn wraig i ti.’ 11Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Wele fi'n codi yn dy erbyn ddrwg o blith dy deulu dy hun; o flaen dy lygad cymeraf dy wragedd a'u rhoi i'th gymydog, a bydd ef yn gorwedd gyda'th wragedd di yn llygad yr haul hwn. 12Yn llechwraidd y gweithredaist ti, ond fe wnaf fi'r peth hwn yng ngŵydd Israel gyfan ac yn wyneb haul.’ ” 13Yna dywedodd Dafydd wrth Nathan, “Yr wyf wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD.” Ac meddai Nathan wrth Ddafydd, “Y mae'r ARGLWYDD yntau wedi troi dy bechod heibio; ni fyddi farw. 14Ond oherwydd iti lwyr ddiystyru'r ARGLWYDD#12:14 Tebygol. Hebraeg, ddiystyru gelynion yr ARGLWYDD. yn y mater hwn, yn ddios bydd farw y bachgen a enir iti.”
Marw Mebyn Dafydd, a Geni Solomon
15Wedi i Nathan fynd adref, trawodd yr ARGLWYDD y plentyn a ymddûg gwraig Ureia i Ddafydd, a chlafychodd. 16Ymbiliodd Dafydd â Duw dros y bachgen; ymprydiodd, a mynd a threulio'r nos yn gorwedd ar lawr. 17Pan geisiodd henuriaid ei dŷ ei godi oddi ar lawr, ni fynnai godi ac ni fwytâi fara gyda hwy. 18Ar y seithfed dydd bu farw'r plentyn, ond yr oedd gweision Dafydd yn ofni dweud wrtho ei fod wedi marw. “Gwelwch,” meddent, “tra oedd y plentyn yn fyw, nid oedd yn gwrando arnom, er inni siarad ag ef; sut y dywedwn wrtho fod y plentyn wedi marw? Gallai wneud rhyw niwed iddo'i hun.” 19Pan welodd Dafydd fod ei weision yn sibrwd ymhlith ei gilydd, deallodd fod y plentyn wedi marw; felly dywedodd Dafydd wrth ei weision, “A yw'r plentyn wedi marw?” “Ydyw,” meddent hwythau. 20Yna cododd Dafydd oddi ar lawr, ac ymolchi a'i eneinio'i hun a newid ei ddillad; ac aeth i dŷ Dduw i addoli. Wedyn aeth i'w dŷ a gofyn am fwyd; ac wedi iddynt ei osod iddo, fe fwytaodd. 21Gofynnodd ei weision iddo, “Beth yw hyn yr wyt yn ei wneud? Tra oedd y plentyn yn fyw, yr oeddit yn ymprydio ac yn wylo; ond wedi i'r plentyn farw, yr wyt wedi codi a bwyta.” 22Eglurodd yntau, “Tra oedd y plentyn yn dal yn fyw, yr oeddwn yn ymprydio ac yn wylo am fy mod yn meddwl, ‘Pwy a ŵyr a fydd yr ARGLWYDD yn trugarhau wrthyf, ac y bydd y plentyn fyw?’ 23Ond erbyn hyn y mae wedi marw; pam felly y dylwn ymprydio? A fedraf fi ddod ag ef yn ôl? Byddaf fi'n mynd ato ef, ond ni ddaw ef yn ôl ataf fi.” 24Cysurodd Dafydd ei wraig Bathseba, ac aeth i mewn ati a gorwedd gyda hi; esgorodd hithau ar fab, a'i alw'n Solomon. Hoffodd yr ARGLWYDD ef, 25ac anfonodd neges drwy law'r proffwyd Nathan i'w enwi yn Jedidia#12:25 H.y., Anwylyn yr ARGLWYDD. oblegid yr ARGLWYDD.
Dafydd yn Meddiannu Rabba
1 Cron. 20:1–3
26Ymosododd Joab ar Rabba'r Ammoniaid, a chipiodd ddinas y brenin. 27Anfonodd Joab negeswyr at Ddafydd a dweud, “Yr wyf wedi ymosod ar Rabba, ac wedi cipio'r gronfa ddŵr. 28Yn awr, casgla weddill y fyddin a gwersylla yn erbyn y ddinas a'i hennill, rhag i mi gipio'r ddinas ac iddi gael ei galw ar f'enw i.” 29Casglodd Dafydd y fyddin gyfan, ac aeth i Rabba ac ymladd yn ei herbyn a'i hennill. 30Cymerodd goron eu brenin oddi ar ei ben—yr oedd yn pwyso talent o aur, a gem gwerthfawr ynddi—a rhoed hi ar ben Dafydd. Dygodd o'r ddinas lawer o ysbail, 31ac aeth â'r bobl oedd ynddi a'u gosod i lafurio â llifiau a cheibiau heyrn a bwyeill heyrn, a hefyd i weithio#12:31 Tebygol. Hebraeg, a hefyd parodd iddynt fynd trosodd trwy'r. priddfeini. Gwnaeth Dafydd yr un modd â holl drefi'r Ammoniaid, ac yna dychwelodd ef a'r holl fyddin i Jerwsalem.
Dewis Presennol:
2 Samuel 12: BCND
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004