Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Samuel 11

11
Dafydd a Bathseba
1Tua throad y flwyddyn, yr adeg y byddai'r brenhinoedd yn mynd i ryfela, fe anfonodd Dafydd Joab, gyda'i weision ei hun a byddin Israel gyfan, a distrywiasant yr Ammoniaid, a gosod Rabba dan warchae. Ond fe arhosodd Dafydd yn Jerwsalem. 2Un prynhawn yr oedd Dafydd wedi codi o'i wely ac yn cerdded ar do'r palas. Oddi yno gwelodd wraig yn ymolchi, a hithau'n un brydferth iawn. 3Anfonodd Dafydd i holi pwy oedd y wraig, a chael yr ateb, “Onid Bathseba ferch Eliam, gwraig Ureia yr Hethiad, yw hi?” 4Anfonodd Dafydd negeswyr i'w dwyn ato, ac wedi iddi ddod, gorweddodd yntau gyda hi. Yr oedd hi wedi ei glanhau o'i haflendid. Yna dychwelodd hi adref. 5Beichiogodd y wraig, ac anfonodd i hysbysu Dafydd ei bod yn feichiog. 6Anfonodd Dafydd at Joab, “Anfon ataf Ureia yr Hethiad.” 7Pan gyrhaeddodd Ureia, holodd Dafydd hynt Joab a hynt y fyddin a'r rhyfel. 8Yna dywedodd Dafydd wrth Ureia, “Dos i lawr adref a golchi dy draed.” Pan adawodd Ureia dŷ'r brenin anfonwyd rhodd o fwyd y brenin ar ei ôl. 9Ond gorweddodd Ureia yn nrws y palas gyda gweision ei feistr, ac nid aeth i'w dŷ ei hun. 10Pan fynegwyd wrth Ddafydd nad oedd Ureia wedi mynd adref, dywedodd Dafydd wrth Ureia, “Onid o daith y daethost ti? Pam nad aethost adref?” 11Atebodd Ureia, “Y mae'r arch, ac Israel a Jwda hefyd, yn trigo mewn pebyll, ac y mae f'arglwydd Joab a gweision f'arglwydd yn gwersylla yn yr awyr agored. A wyf fi am fynd adref i fwyta ac yfed, ac i orwedd gyda'm gwraig? Cyn wired â bod yr ARGLWYDD#11:11 Tebygol. Hebraeg, â'th fod. yn fyw, a thithau hefyd, ni wnaf y fath beth!” 12Dywedodd Dafydd wrth Ureia, “Aros di yma heddiw eto, ac anfonaf di'n ôl yfory.” Felly arhosodd Ureia yn Jerwsalem y diwrnod hwnnw. 13A thrannoeth#11:13 Felly Fersiynau. Hebraeg yn ei gysylltu ag adn. 12. gwahoddodd Dafydd ef i fwyta ac yfed gydag ef, a gwnaeth ef yn feddw. Pan aeth allan gyda'r nos, gorweddodd ar ei wely gyda gweision ei feistr, ac nid aeth adref. 14Felly yn y bore ysgrifennodd Dafydd lythyr at Joab a'i anfon gydag Ureia. 15Ac yn y llythyr yr oedd wedi ysgrifennu, “Rhowch Ureia ar flaen y gad lle mae'r frwydr boethaf; yna ciliwch yn ôl oddi wrtho, er mwyn iddo gael ei daro'n farw.”
16Pan oedd Joab yn gwarchae ar y ddinas, gosododd Ureia yn y lle y gwyddai fod ymladdwyr dewr. 17A phan ddaeth milwyr y ddinas allan ac ymladd yn erbyn Joab, syrthiodd rhai o weision Dafydd yn y fyddin, a bu farw Ureia yr Hethiad hefyd. 18Yna anfonodd Joab i hysbysu holl hanes y frwydr i Ddafydd. 19Gorchmynnodd i'r negesydd, “Wedi iti orffen dweud holl hanes y frwydr wrth y brenin, 20yna os bydd y brenin yn llidio ac yn dweud wrthyt: ‘Pam yr aethoch mor agos at y ddinas i ryfela? Onid oeddech yn gwybod y byddent yn saethu oddi ar y mur? 21Pwy laddodd Abimelech fab Jerwbbeseth? Onid gwraig yn gollwng maen melin arno oddi ar y mur yn Thebes, ac yntau'n marw? Pam yr aethoch mor agos at y mur?’—yna dywed tithau, ‘Y mae dy was Ureia yr Hethiad hefyd wedi marw’.”
22Aeth y negesydd, a dod ac adrodd wrth Ddafydd y cwbl yr anfonodd Joab ef i'w ddweud. 23Yna dywedodd y negesydd wrth Ddafydd, “Pan ymwrolodd y milwyr yn ein herbyn, a dod allan atom i'r maes agored, aethom ninnau yn eu herbyn hwy hyd at fynedfa'r porth, 24a saethodd y saethwyr at dy weision oddi ar y mur, a bu farw rhai o weision y brenin, ac y mae dy was Ureia yr Hethiad hefyd wedi marw.” 25Yna dywedodd Dafydd wrth y negesydd, “Dywed fel hyn wrth Joab, ‘Paid â gofidio am y peth hwn, oherwydd y mae'r cleddyf yn difa weithiau yma, weithiau acw; brwydra'n galetach yn erbyn y ddinas a distrywia hi’. Calonoga ef fel hyn.”
26Pan glywodd gwraig Ureia fod ei gŵr wedi marw, galarodd am ei phriod. 27Ac wedi i'r cyfnod galaru fynd heibio, anfonodd Dafydd a'i chymryd i'w dŷ, a daeth hi'n wraig iddo ef, a geni mab iddo. Ond yr oedd yr hyn a wnaeth Dafydd yn ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD.

Dewis Presennol:

2 Samuel 11: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd